Fy rôl yng Nghanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE
Rwy’n rheoli’r tîm Gweithrediadau Busnes. Mae fy rôl yn ymestyn dros holl weithgarwch Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE gan gynnwys gwaith prosiect a ariennir gan grantiau a busnes masnachol. Rydyn ni’n gyfrifol am reoli contractau, casglu data a dadansoddi perfformiad parhaus, yn ogystal â gweithredu fel braich gymorth ar gyfer y timau cyflawni prosiect.
Rwy’n rhan o fentrau cydweithredol a rennir rhwng ZERO2FIVE a’r ddwy ganolfan fwyd arall sy’n rhan o Arloesi Bwyd Cymru.
Yn gyfrifol am gefnogi hawliadau ariannol a thendro ar gyfer gwaith prosiect, cydgasglu ac adrodd ar ddangosyddion perfformiad allweddol ac allbynnau prosiectau.