Beth Rowlands

Beth Rowlands

Beth Rowlands
Technolegydd Bwyd 
E-bost: browlands@cardiffmet.ac.uk

Yn ôl i'r Proffiliau

Fy rôl yng Nghanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE 

Mae fy rôl fel Technolegydd yng Nghanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE yn cynnwys cefnogi gweithgynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru trwy ddarparu'r canlynol: 

•    Cwblhau archwiliadau mewnol wedi'u dogfennu yn erbyn gofynion amrywiol Safonau diogelwch bwyd 
•    Rhoi cyngor, mentora, hyfforddi a lledaenu canllawiau arfer gorau i gleientiaid 
•    Cwblhau dadansoddiad cemegol a maethol o gynhyrchion  
•    Cynghori ar benderfyniad oes silff  
•    Adolygu labeli cynnyrch i sicrhau cydymffurfiad â deddfwriaeth berthnasol  
•    Datblygu a threfnu sesiynau mentora  
•    Cynorthwyo cwmnïau i baratoi ar gyfer archwiliad 
•    Cwblhau ymarferion dilysu tymheredd a phroffil thermol gan ddefnyddio offer Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE
•    Cymryd rhan mewn gwerthuso synhwyraidd yn y ganolfan trwy gymryd rhan mewn paneli defnyddiwr a dewisol ynghyd â datblygu Dalen Priodoledd Ansawdd (QAS). 

Rwyf hefyd wedi cyfrannu at weithgaredd ymchwil a gynhaliwyd yn y ganolfan (Deall Rhwystrau i Achredu yn y Sector Bwyd a Diod yng Nghymru a Bwyd ar gyfer y Dyfodol).  

Rwyf wedi cynrychioli Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE mewn digwyddiadau a chynadleddau gan gynnwys UKAFP, EUAFP, Bwyd ar gyfer y Dyfodol, Food Matters Live a Ffair Bwyd Gain Arbenigol.  

Profiad Blaenorol 

2009 - 2013 Aelod cyswllt KITE yn Peter Broughton Ltd, Sim's Foods Ltd a The Welsh Soup Company Ltd. 

Yn ystod fy nghyfnod fel Aelod cyswllt KITE, fe wnes i ddatblygu, gweithredu a chynnal systemau rheoli ansawdd a chynlluniau diogelwch bwyd o fewn tri gweithgynhyrchydd bwyd. Cynrychiolais y cwmnïau yn ystod archwiliadau ardystio 3ydd parti, archwiliadau cwsmeriaid, archwiliadau arferol iechyd yr amgylchedd ac ymweliadau safonau masnachu. Llwyddais i gwblhau archwiliadau ardystio 3ydd parti yn erbyn Safon Fyd-eang BRC ar gyfer Diogelwch Bwyd, Cymeradwyo Cyflenwyr Diogel a Lleol (SALSA) a Safon Fyd-eang BRC ar gyfer Storio a Dosbarthu. 

Cymwysterau ac Aelodaeth Broffesiynol 

Gradd Meistr Iechyd y Cyhoedd (MPH) 

BSc (Anrh) Maeth a Gwyddor Bwyd  

Gwobr Lefel 3 yn HACCP ar gyfer Cynhyrchu Bwyd 

BRC Archwilydd Mewnol 

Safon Fyd-eang BRC ar gyfer Diogelwch Bwyd Rhifyn 7: Trosi 6 -7 ar gyfer Archwilwyr