Fy rôl yng Nghanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE
Rydw i wedi ymuno â thîm Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE yn ddiweddar fel Cynorthwyydd Gwastraff Proses. Fy rôl yw cefnogi’r Technolegydd Gwastraff Bwyd i gyflawni archwiliadau gwastraff, gwerthusiadau proses; a chynorthwyo BBaCh i ddeall a lleihau eu gwastraff prosesu bwyd a diod i’w galluogi i ddod yn fwy cynaliadwy a phroffidiol.