Yr Athro Leigh Robinson

Dirprwy Is-Ganghellor (Campws Cyncoed) a Deon yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon ac Iechyd

BPhEd, MSc, PhD

Mae'r Athro Leigh Robinson yn Athro Rheolaeth Chwaraeon ac yn Ddirprwy Is-Ganghellor (Campws Cyncoed) a Deon yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon ac Iechyd. Bydd Leigh yn gyfrifol am ddatblygu Campws Cyncoed er mwyn cyflawni gweledigaeth strategol y Brifysgol ar gyfer darpariaeth academaidd o ansawdd uchel mewn Gwyddorau Chwaraeon ac Iechyd a chynnig rhagorol mewn chwaraeon elitaidd a hamdden i'r Brifysgol a chymunedau ei rhanddeiliaid.  Mae ganddi enw da yn fyd-eang am ei hymchwil a chyfnewid gwybodaeth yn natblygiad mantais gystadleuol a meithrin gallu o fewn chwaraeon cenhedloedd datblygol. Mae hi wedi gweithio gydag ystod o sefydliadau, fel y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol, Cymdeithas Olympaidd Prydain, Pwyllgor Olympaidd Trinidad a Tobago a Llywodraeth Malaysia.

Mae hi wedi cyhoeddi’n helaeth mewn cyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid a phenodau llyfrau ac wedi siarad ar y pwnc mewn nifer o gynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae Leigh yn Uwch Olygydd y Journal of Global Sport Management ac ar fwrdd golygyddol European Sport Management Quarterly, Managing Sports and Leisure a Sport Management Review. Mae Leigh yn aelod o Fwrdd sportscotland ac yn ymgynghorydd i Olympic Solidarity, comisiwn addysg y Pwyllgor Olympaidd.

Cyn ymuno â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, bu’n gweithio ym Mhrifysgol Stirling yn yr Alban lle roedd ganddi swyddi fel Pennaeth yr Ysgol Chwaraeon ac yn Ddeon Rhyngwladoli. Cyn symud i Stirling yn 2010 roedd Leigh yn Uwch Ddarlithydd ym Mhrifysgol Loughborough a chyn hynny ym Mhrifysgol Sheffield.