Dr Ellen Evans

​​

Teitl Swydd: Darllenydd mewn Ymddygiad Diogelwch Bwyd
Rhif Ystafell: D1.31
Ffôn: + 44 (0)29 2020 5836
E-bost: elevans@cardiffmet.ac.uk




Ymchwil

Fel Darllenydd mewn Ymddygiad Diogelwch Bwyd yng Nghanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE, rwy’n ymwneud yn fawr ag ymchwil diogelwch bwyd mewn perthynas â thri maes allweddol: diogelwch bwyd defnyddwyr mewn lleoliadau domestig; diwylliant diogelwch bwyd yn y diwydiant gweithgynhyrchu bwyd a’r sector gwasanaeth bwyd; ac addysg a chyfathrebu diogelwch bwyd mewn lleoliadau gofal iechyd.

Mae’r berthynas rhwng pobl a bwyd yn fy nghyfareddu. Mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn dylanwad gwybodaeth ddynol a chanfyddiadau ar ymddygiad, a’r effaith ddilynol ar ddiogelwch bwyd; mae’r diddordeb hwn yn ymestyn o’r rhai sy’n trin bwyd yn y sector bwyd i’r defnyddwyr yn yr amgylchedd domestig.

Rwy’n cynnal agweddau amrywiol ar ymchwil diogelwch bwyd o ddadansoddi microbiolegol, datblygiad a gwerthusiad strategaethau ymyrryd mewn addysg diogelwch bwyd, i asesu cydymffurfiaeth diogelwch bwyd yn y diwydiant bwyd gan ddefnyddio dulliau arsylwi cudd, ac arsylwi ar arferion diogelwch bwyd yn y gegin ddomestig enghreifftiol arloesol yn y Ganolfan Diwydiant Bwyd.

Rwy’n goruchwylio prosiectau myfyrwyr BSc, MSc, MRes, Doethuriaeth a Doethuriaeth Broffesiynol yn ymwneud â diogelwch bwyd ym Met Caerdydd, Prifysgol Ohio State a Phrifysgol Abertawe.

Rwy’n ymwneud â threfnu cynadleddau ymchwil, yn cyfrannu at deledu a radio, ac rydw i ar fwrdd golygu dau gyfnodolyn diogelwch bwyd rhyngwladol.

Cyn cychwyn fy ngyrfa academaidd, hyfforddais fel cogydd proffesiynol a bûm yn gweithio yn un o’r bwytai gorau yng Nghymru. Cafodd fy sgiliau eu cydnabod a’u gwobrwyo gan Gymdeithas Coginiol Cymru. Mae gen i radd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Gwyddor Bwyd a Defnyddwyr o Brifysgol Cymru.

Derbyniais Wobr Ddoethurol yr Is-Ganghellor yn 2009 i gynnal fy ymchwil Doethuriaeth, a oedd yn archwilio arferion trin a storio bwyd oedolion hŷn yn y cartref yn gysylltiedig â risg listeriosis. Ehangodd ymchwil ôl-ddoethurol dilynol i grwpiau defnyddwyr ‘mewn perygl’ ac agored i niwed eraill.​

Cyhoeddiadau

Evans, E. W. & Redmond, E. C. (2014) Behavioural Risk Factors Associated With Listeriosis in the Home: A Review of Consumer Food Safety Studies. Journal of Food Protection. 77(3) pp 510 – 521. DOI: http://dx.doi.org/10.4315/0362-028X.JFP-13-238

Evans, E. W. & Redmond, E. C. (2015). Analysis of Older Adults' Domestic Kitchen Storage Practices in the United Kingdom: Identification of Risk Factors Associated with Listeriosis. Journal of Food Protection, 78(4), 738-745. DOI: http://dx.doi.org/10.4315/0362-028X.JFP-14-527

Evans, E. W. & Redmond, E. C. (2016) Older adult consumers' knowledge, attitudes and self-reported storage practices of ready-to-eat food products and the risks associated with listeriosis. Journal of Food Protection, 79(2), 263-272 DOI: http://dx.doi.org/10.4315/0362-028X.JFP-15-312

Evans, E. (2016). Older adults' domestic kitchen practices associated with an increased risk of listeriosis. Perspectives in Public Health 136(4): 199-201. DOI: http://doi.org/10.1177/1757913916649818

Evans, E. (2016). Domestic kitchen risk factors of listeriosis among older-adult consumers. Microbiologist 17(1): 14 - 17.

Evans, E. and E. Redmond (2016). Time-Temperature Profiling of United Kingdom Consumers’ Domestic Refrigerators. Journal of Food Protection 79(12): 2119 – 2127. DOI: 10.4315/0362-028X.JFP-16-270

Evans, E. W. and E. C. Redmond (2017). An assessment of food safety information provision for UK chemotherapy patients to reduce the risk of foodborne infection. Public Health 153(12): 25-35. DOI: 10.1016/j.puhe.2017.06.017

Dolenni Allanol

Cymdeithas Microbioleg Gymhwysol (SfAM) (Aelod o 2010 hyd heddiw)

Iymdeithas Ryngwladol Diogelu Bwyd (IAFP) (Aelod o 2012 hyd heddiw)

Grŵp Datblygiad Proffesiynol Addysg Diogelwch Bwyd (Aelod o'r pwyllgor o 2012 hyd heddiw)

Pwyllgor Gwyddonwyr Gyrfa Cynnar (Swyddog Digwyddiadau o 2013 hyd heddiw)

Coleg Cymraeg Cenedlaethol(Aelod o gymuned ysgolheigion y Coleg Cymraeg Cenedlaethol o 2014 hyd heddiw)

LinkedIn

Twitter

ZERO2FIVE Food Industry Centre