Sally Griffiths

l-padfield-150px.jpgCynorthwy-ydd Gwybodaeth a Derbynnydd
e:sgriffiths3@cardiffmet.ac.uk
t: 02920 205898







​​​
​​​​

​​

Meysydd Cyfrifoldeb

Rwy’n gweithio yng nghanol CSAD, yn cefnogi’r Uwch Swyddog Gweithredol a’r Deon ac yn gweithio ochr yn ochr â’r Deon Cyswllt ar gyfer Ymgysylltiad Myfyrwyr i feithrin a chynnal profiad y myfyriwr. Mae fy nyletswyddau'n cynnwys: gweithredu fel pwynt cyswllt ar gyfer CSAD, canolbwynt gwybodaeth a rhannu gwybodaeth. Rheoli blychau post a llinellau ffôn ysgolion. Creu a choladu ​cynnwys ar gyfer cylchlythyrau Staff CSAD a chylchlythyr myfyrwyr CSAD sef CORC. Creu a diweddaru delweddau i'w defnyddio mewn ardaloedd cyffredin CSAD. Hyrwyddo gweithgareddau ysgol ar draws yr ysgol a'r brifysgol. Cynnal a diweddaru hybiau ar-lein Staff a Myfyrwyr. Rheoli archebion ar gyfer mannau arddangos o fewn CSAD. Aelod o bwyllgor sy’n cynllunio sioeau haf. Swyddog cymorth cyntaf yr ysgol.

Cymwysterau

BA (Anrh) Astudiaethau Theatr: Actio, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Bywgraffiad

Wrth dyfu i fyny yng Ngogledd Cymru, treuliais fy mhlentyndod a’m harddegau yn ymwneud â’r celfyddydau creadigol; arlunio, peintio, gwnïo, chwarae cerddoriaeth, ac yn y theatr. Symudais i Gaerdydd ym 1998 i astudio actio, ac am y 13 mlynedd nesaf teithiais yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, gan chwarae mewn pob math o leoliadau, o ysgolion a pharciau, i theatrau ac ar y teledu.

Yn dilyn hyn, treuliais 12 mlynedd yn gweithio i CBAC, yn gweithio mewn gwahanol feysydd o'r sefydliad, nes dod yn Uwch Swyddog ar gyfer Bagloriaeth Cymru. Yn ystod y cyfnod hwn, bûm yn gwneud ymdrechion creadigol yn y gwaith a thu allan, gan astudio dylunio mewnol, a gwnïo, a hyfforddi fel Athro Hypno-enedigaeth.

Ers ymuno â CSAD yn 2022, rwyf wedi mwynhau gweithio ar y cyd â chydweithwyr a myfyrwyr i hyrwyddo’r gwaith rhagorol sy’n digwydd yma. Rwyf wedi treiddio ymhellach i fyd cyfathrebu gweledol, (rhywbeth rwy’n gobeithio adeiladu arno) ac wedi ailddechrau fy astudiaethau fel siaradwr Cymraeg ail iaith.

Rwyf bellach yn byw yn nhref glan môr hyfryd Y Barri, lle rwy’n mwynhau ysbeilio’r siopau elusennol i ddod o hyd i berlau ail-law cynaliadwy, nofio yn y môr a chwarae ar y traeth gyda fy mab a’m gŵr.