Ian Weir MA BA (hons) FHEA

Screen-shot-2011-08-10-at-15.49.55-150x100.pnge: iweir@cardiffmet.ac.uk
t: 02920 416652



Meysydd Pwnc Arbenigol 

Cyfathrebu Graffig 
Dylunio ar gyfer print 
Arweinydd academaidd ar brofiad gwaith israddedigion a chyflogadwyedd 

Cymwysterau

MA Cyfryngau Cyfathrebu (Rhyngweithiol)
BA (Anrh) Dylunio
TAR 

Bywgraffiad 

Daw Ian o Orllewin Canolbarth Lloegr ac ar ôl cwblhau prentisiaeth argraffu, parhaodd â'i astudiaethau gan raddio o Brifysgol Swydd Stafford ym 1985 gyda gradd Dylunio Amlddisgyblaethol. Mae wedi datblygu ystod eang o arbenigedd proffesiynol yn dilyn profiadau galwedigaethol mewn ffotograffiaeth fasnachol ac argraffu.

Yn Uwch Ddarlithydd profiadol, mae'n Gymrawd yr Academi Addysg Uwch (FHEA) ac mae'n aelod o'r tîm addysgu ar gyfer y radd israddedig BA (Anrh) Cyfathrebu Graffig. Arweiniodd diddordeb mewn cyfryngau digidol at gwblhau MA yn y Cyfryngau Cyfathrebu ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr ym Mryste, gan ganolbwyntio ar gyfathrebu rhyngweithiol. 

Ymchwil gyfredol 

Mae ei ddiddordebau'n canolbwyntio ar brofiadau rhyngweithiol ar y sgrin sy'n archwilio natur rhyngweithio, naratif a'r patrwm ‘click to continue’. Archwiliodd y defnydd o'r we-gamera yng nghyd-destun naratif digidol.

Mae gan Ian rôl arweiniol wrth ddatblygu cyflogadwyedd o fewn y cwricwlwm mewn perthynas â chynllun israddedig CSAD. Mae hyn yn cynnwys cydgysylltu, rheoli ac ehangu cyfleoedd lleoli gwaith ar gyfer myfyrwyr lefel 5.