Sarah Hurley

Gweinyddwr Ymchwil ac Arloesedd
e: SCHurley@cariffmet.ac.uk







​​​​
​​​​

​​
​​

Meysydd Cyfrifoldeb:

Rwy’n rhan o Dîm CREATE, sy’n cael ei arwain gan Debbie Savage, Deon Cyswllt CSAD ar gyfer Ymchwil ac Arloesi a chydag Anna Lewis, Cydlynydd Ymchwil ac Arloesi a Josh Pawley, Swyddog Prosiect Ymchwil ac Arloesi. Fy rôl i yw cefnogi’r tîm drwy ddarparu cymorth gweinyddol wrth i ni weithio gyda’n gilydd i helpu staff CSAD i gyflawni eu nodau ymchwil a chreu cyfleoedd arloesi cyffrous, o fewn y brifysgol a gyda phartneriaid allanol. Rwy’n monitro mewnflychau e-bost Gweinyddiaeth Creu, Graddau Ymchwil a Moeseg Ymchwil, yn cefnogi Pwyllgor Graddau Ymchwil CSAD a Phwyllgor Moeseg CSAD ac yn bwynt cyswllt i helpu myfyrwyr PhD yr Ysgol.

Cymwysterau:

BA Anrh.(Anrhydedd Cyfun) Economeg a Cherddoriaeth, Prifysgol Lerpwl
M.Mus (Llwybr cyfansoddi), Prifysgol Lerpwl

Bywgraffiad:

Yn hanu o Lerpwl, symudais i Gaerdydd yn 2009 a dyna lle dw i’n byw ers hynny. Mae mwyafrif fy mhrofiad gwaith ym maes Adnoddau Dynol a Recriwtio, ond rwyf wedi cael gyrfa amrywiol yn gweithio ar draws y sector preifat, y trydydd sector a'r sector elusennol ond bob amser gyda ffocws gweinyddol ar y rolau. Roeddwn yn rhan o'r broses o recriwtio swyddogion diogelwch ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain 2012 ac rwyf wedi bod yn rhan o dîm adnoddau dynol arobryn ar gyfer Tai Hafod. Mae gen i chwaeth eclectig o ran cerddoriaeth, dwi wrth fy modd yn mynd i'r theatr ac yn mwynhau ymweld ag amgueddfeydd ac orielau. Mae gen i angerdd dros Faterion amgylcheddol a natur ac ar hyn o bryd rydw i'n gwirfoddoli gyda Chyngor Caerdydd i gwblhau arolygon glaswelltir o'r ardaloedd dim torri gwair o amgylch y Sir i helpu i gynyddu bioamrywiaeth Caerdydd.​

​​