Peter Pickford

l-padfield-150px.jpgArddangoswr Technegydd mewn Dylunio a Thechnoleg Pensaernïol
e:pipickford@cardiffmet.ac.uk
g: http://www.peterpickford.co.uk/







​​​
​​​​

​​

Cymwysterau

  • BSc (Anrh) Peirianneg Sifil a Dylunio â Chymorth Cyfrifiadur
  • MSc Modelu Gwybodaeth Adeiladu ar gyfer Peirianneg Glyfar

Meysydd Pwnc Arbenigol

Mae meysydd arbenigol Peter yn ymwneud â chyfathrebu gofodol yr amgylchedd adeiledig a Modelu Gwybodaeth Adeiladu (BIM). Mae ei ymchwil yn ymwneud yn weithredol â'r defnydd o gasglu data gofodol gan ddefnyddio sganio laser a dulliau eraill o synhwyro o bell. Mae'n ymwneud â dysgu CAD a BIM o fewn y BSc Dylunio a Thechnoleg Pensaernïol a mae hefyd yn cyfrannu at hyfforddiant ar y BA mewn Pensaernïaeth.

Bywgraffiad

Dechreuodd Peter ei yrfa fel peiriannydd safle graddedig cyn symud i weithio gyda thechnolegau digidol o fewn yr Amgylchedd Adeiledig. Mae ganddo ddiddordeb cryf yn y ffordd mae'r amgylchedd adeiledig yn cael ei gyfathrebu'n weledol trwy gydol cylch bywyd prosiect. Yn 2020 cwblhaodd radd meistr mewnModelu Gwybodaeth Adeiladu ar gyfer Peirianneg Glyfar o Ysgol Peirianneg Caerdydd lle canolbwyntiodd ar ddefnyddio LiDAR ar gyfer ôl-ffitio adeiladau preswyl. O fewn CSAD mae'n rhan o grŵp ymchwil Amgylchedd Adeiledig Cynaliadwy a Gwydn lle mae'n parhau â'i ymchwil i'r maes pwnc hwn.

Mae Peter yn syrffiwr brwd a gellir dod o hyd iddo yn aml oddi ar arfordir Sir Benfro. Mae hefyd yn ffotograffydd brwd ac wrth ei fodd yn teithio gyda'i gamera.​