Kate Parr

l-padfield-150px.jpgUwch Swyddog Gweithredol

e: KJParr@cardiffmet.ac.uk
ff: 02920 416647






Meysydd cyfrifoldeb

Uwch Swyddog Gweithredol, yn gweithio ochr yn ochr â'r Deon a'r tîm uwch yn yr Ysgol Celf a Dylunio. Mae fy swydd yn cynnwys gofalu am ddyddiadur a gohebiaeth y Deon, gweinyddu busnes, strategaeth a gweithrediadau Tîm Rheoli a Chynllunio’r Ysgol, gwasanaethu pwyllgorau eraill yr Ysgol, rhedeg neu gefnogi digwyddiadau, gweithredu fel cyswllt UM a Safonau’r Gymraeg a chydlynu prosiectau. Rwy'n ffodus i gael sefyllfa lle rwy'n cael trosolwg eang o bopeth sy'n digwydd yn yr Ysgol ac yn gyffredinol yn cymryd rhan lle mae angen cymorth. Rwy'n tueddu i ddisgrifio fy swydd pan ofynnir i mi fel 'y rhan honno o'r disgrifiad swydd sy'n dweud unrhyw ddyletswyddau eraill y gellir eu disgwyl yn rhesymol'.

Cymwysterau

Gradd BA (Anrh) mewn Ffrangeg a Hanes o Brifysgol Warwick

Bywgraffiad

Cefais fy magu yn y Bont-faen a Phont-y-clun a bellach yn byw yng Ngwaelod-y-Garth ,felly, ar wahân i daith i Ganolbarth Lloegr i’r Brifysgol a chyfnod yn byw yng ngogledd Ffrainc, nid wyf wedi mynd yn ofnadwy o bell. Rwy'n byw gyda fy ngŵr, fy merch ifanc a'n cath ddu, Stig. 

Mae fy ngyrfa wedi mynd â fi o swyddi dros dro mewn sefydliadau AU, preifat, cyhoeddus a thrydydd sector ar ôl graddio i fy swydd barhaol gyntaf yn rhedeg swyddfa Cymru ar gyfer elusen Teithio Cynaliadwy, Sustrans yn 2011. Fel eu rheolwr swyddfa roeddwn yn gofalu am holl swyddogaethau gweinyddol cangen Gymreig y sefydliad, yn goruchwylio iechyd a diogelwch ar gyfer yr adeiladau, gan gynnwys cynnal a chadw a diogelwch tân. Trefnais gyfarfodydd tîm a gwibdeithiau blynyddol, darparais gefnogaeth bersonol i’r cyfarwyddwr, rheolais gyllideb y swyddfa a chynhaliais sesiynau sefydlu staff ar gyfer yr holl ddechreuwyr newydd, yn ogystal ag ysgrifennu ar gyfer y cylchlythyr a phostio i’r cyfryngau cymdeithasol, felly roedd ychydig o bopeth mewn gwirionedd. Rhoddodd sylfaen wych i mi o fod yn gyfrifol am yr ystod eang o ddyletswyddau sy’n ymwneud â gweinyddu a rheoli cyfleusterau. 

Ymunais â Met Caerdydd yn 2015 fel Swyddog Gweithredol i’r Is-Ganghellor a bûm yn gweithio i gyn Is-Ganghellor y Brifysgol, yr Athro Chapman, am flwyddyn a hanner. Roedd y rôl yn cynnwys darparu cymorth personol i'r Is-Ganghellor, rheoli ei ddyddiadur a gohebiaeth, gwasanaethu cyfarfodydd bwrdd a chefnogi aelodau Bwrdd yr Is-Ganghellor lle bo angen. Pan ddaeth y cyfle i weithio fel Uwch Swyddog Gweithredol YGDC yn 2016, neidiais ar y cyfle ac roeddwn i'n ddigon ffodus i gael y swydd! Rydw i wedi dysgu cymaint yn yr amser rydw i wedi gweithio yn YGDC, nid lleiaf am addysg ac arferion celf a dylunio, gan nad dyna oedd fy nghefndir o gwbl, ond yn gyffredinol pa mor rhyfeddol o gefnogol, creadigol a phleserus yw lle i weithio. 

Yn fy amser sbar, rwyf wrth fy modd yn rhedeg ar ôl fy mhlentyn bach, yn mwynhau’r awyr agored a phrydferthwch Cymru mor aml â phosib. Pan gaf amser i’m hun, bydda i'n gwylio neu'n chwarae tenis, yn gwrando ar Spotify (rwyf wrth fy modd a chreddoriaeth roc, metal a pync, gydag ambell gân Sinatra o bryd i’w gilydd) a mynd i weld cerddoriaeth fyw. Rwyf hefyd wrth fy modd yn coginio, yn bwyta gartref ac allan pan yn bosibl, yn ogystal â chymdeithasu â ffrindiau a theulu - mae hynny bob amser yn sicr o roi gwên ar fy wyneb!