Hafan>Ynglŷn â Ni>Yr Uned Gymraeg

Yr Uned Gymraeg

Prif rôl Yr Uned Gymraeg yw arwain, cynghori a chynorthwyo gyda materion sy'n ymwneud â gweithredu Safonau’r Gymraeg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae'r uned yn gweithio gyda staff a myfyrwyr o bob rhan o'r Brifysgol er mwyn gweithredu'r safonau a chynnig cefnogaeth ymarferol i'w gweithredu.

Gallai hyn gynnwys cynnal hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith, datblygu cynlluniau gweithredu ar gyfer adran, cynghori ac ateb cwestiynau am y safonau, ystyried sgiliau iaith staff mewn adran a chynghori ar gynlluniau hyfforddi a datblygu priodol.

Gellir dod o hyd i wybodaeth am Safonau’r Gymraeg a'r ffordd y maent yn cael eu gweithredu ym Met Caerdydd ar y wefan hon.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â: unedgymraeg@cardiffmet.ac.uk