Mae ein Llysgenhadon Myfyrwyr yn siarad â chi am yr hyn i'w ddisgwyl o Ddydd Ymgeiswyr a pham y dylech ymweld. I archebu, e-bostiwch applicantdays@cardiffmet.ac.uk.
Yn ogystal â'n Dyddiau Agored israddedig a Theithiau Campws, rydyn ni hefyd yn cynnal cyfres o ddyddiau Ymgeiswyr a Chyfweliadau ar gyfer y mwyafrif o’r cyrsiau israddedig.
Yn gyffredinol, nod ein Dyddiau Ymgeiswyr ydy cynnig cipolwg mwy manwl i chi o’r cwrs yr ydych wedi gwneud cais amdano ac i gael blas o’r hyn y gallwch ei ddisgwyl pan fyddwch yn astudio gyda ni.
Am ragor o fanylion am Ddyddiau Cyfweliadau, ewch i’r
tudalennau Mynediad ar ein gwefan.
Ar ôl i chi wneud cais, bydd ein tîm Mynediad yn cysylltu â chi a chewch eich gwahodd i fynychu ar ddyddiad penodol. Ar gyfer y mwyafrif o’n cyrsiau israddedig, gallai fod mwy nag un dyddiad ar gael. Os cewch eich gwahodd, mae disgwyl i chi fynychu diwrnod yr ymgeiswyr/cyfweliad er mwyn arddangos eich ymrwymiad ar gyfer y cwrs.
Os oes gennych unrhyw gwestiwn ynglŷn â Dyddiau Ymgeiswyr neu Gyfweliadau, cysylltwch â’n tîm Mynediad drwy anfon e-bost at:
askadmissions@cardiffmet.ac.uk, neu drwy Sgwrs Fyw/Live Chat ar y tudalennau hyn.