Skip to main content
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd>Cyrsiau>Cwrs Byr Ymchwil ac Ymarfer mewn Strôc

Cwrs Byr Ymchwil ac Ymarfer mewn Strôc

Nod y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i ymestyn eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth gyfredol i lefel uwch ym meysydd Gofal Cyn-ysbyty, Acíwt, Adsefydlu a Bywyd ar ôl Strôc ac ymarfer ac i allu ymgorffori eu dysgu academaidd ôl-raddedig yn y gweithle. trwy lens ymchwil.



Canlyniadau Dysgu

Ar ôl cwblhau’r modiwl hwn yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu:

  • Cydnabod y bylchau ym maes ymchwil ac arloesi strôc.
  • Cydnabod y Maes Ymchwil ac Ymchwil Datblygu.
  • Arfarnu nodweddion allweddol a defnyddioldeb ymagwedd sy'n seiliedig ar dystiolaeth at ymarfer o safbwyntiau strôc damcaniaethol ac ymarferol.
  • Cyfleu eu dealltwriaeth o ymchwil strôc a'i gymhwyso i sefyllfaoedd proffesiynol perthnasol.
  • Ffurfio argymhellion ar gyfer newid a’u rhoi yn eu cyd-destun yn briodol yn seiliedig ar ymchwil ac arloesedd cyfoes i strôc, gan arwain yn y pen draw at ganlyniadau clinigol gwell.


Strwythur 

Modiwl llawn amser yn unig yw hwn a bydd yn rhedeg dros dymor 1 (19 Medi – 12 Rhagfyr 2022)

Bob pythefnos (Dydd Iau), bydd 6 awr o ddarlithoedd yn cael eu rhyddhau ar-lein i chi eu gwylio. Byddwch yn gallu gwylio'r darlithoedd hyn yn eich amser eich hun.

Bob yn ail wythnos, bydd darlithwyr o'r wythnos flaenorol yn ymuno â chyfarfod TEAMS i fyfyrwyr fynychu sesiwn holi ac ateb amser cinio (Dydd Iau 12-1yp ).

Asesu

Aseiniadau – Mae 2 aseiniad – Poster a Chyflwyniad 10 credyd (2000 o eiriau i gynnwys crynodeb 250 gair) a Thraethawd 10 credyd (3000 o eiriau).

Cost

Cost ymgymryd â modiwl BMS 7201 Ymchwil ac Ymarfer mewn Strôc yn unig - £1,120 (Mae bwrsarïau Grŵp Gweithredu Strôc o £1000 ar gael hefyd. Nodwch eich diddordeb yn eich cais).

Ymgeisiwch Nawr

Cysylltu â Ni

Dr Abdul Seckam 

E-bost – aseckam@cardiffmet.ac.uk 

Ffôn – 02920 416274




Gwybodaeth Cwrs Allweddol

Man Astudio:

Ar-lein

Ysgol:
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd

Hyd y Cwrs:
13 wythnos (un Tymor)
Medi - Rhagfyr

Cost:
£1,120


Gellir dod o hyd i delerau ac amodau llawn mewn perthynas â derbyn cynnig i astudio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd drwy fynd i www.metcaerdydd.ac.uk/terms