Skip to main content
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd>Cyrsiau>Cwrs Byr Maetheneteg a Maethenomeg

Cwrs Byr Maetheneteg a Maethenomeg


Mae dulliau maethol 'un ateb sy’n addas i bawb' wedi dyddio ac yn cael eu disodli gan gynlluniau maethol wedi’u personoli sy'n seiliedig ar enynnau. Mae hyn yn gofyn am ddealltwriaeth drylwyr o’r amrywiadau genynnol rhwng unigolion a’r rhyngweithio rhwng deiet a genynnau ar sawl lefel er mwyn cynllunio cynlluniau maethol genomig manwl gyda'r nod o hyrwyddo iechyd ac atal clefydau.  Mae'r cwrs hwn yn cyflwyno cysyniad ymyriadau deietegol sy'n seiliedig ar amrywiolion genetig a rôl maetholion ar iechyd drwy fecanweithiau genomig, epigenynnol a metagenynnol. Mae'r modiwl hwn yn fwyaf addas i unigolion sydd â gradd a/neu brofiad gwaith mewn maes maetheg a deieteg. 

Wrth i brofion genetig ddod yn fwy fforddiadwy a hygyrch, mae'r galw am gynlluniau diet wedi'u teilwra â genynnau yn dod yn fwy realistig. Nod y cwrs hwn yw darparu gwybodaeth fanwl am ryngweithiadau genynnau-diet ar gyfer maethegwyr a dietegwyr y presennol a'r dyfodol.

Cynnwys y Cwrs

Bydd y cwrs yn ymdrin ag ystod eang o bynciau a gall peth cynnwys newid dros amser i adlewyrchu'r datblygiadau yn y maes. Dyma rai enghreifftiau o'r pynciau:
• Rhyngweithio rhwng genynnau a maetholion
• Maetheneteg
• Gwallau cynhenid metabolaeth e.e. PKU
• Polymorffedd MTHFR a gofynion ffolad
• Hypercholesterolemia teuluol
• Derbynyddion blas a throthwyon synhwyraidd
• Maethenomeg a Deunyddiau maethol-fferyllol
• Cyfansoddion bioactif naturiol
• Rheoleiddio epigenynnol
• Methylu DNA e.e. BPA ac asid ffolig
• miRNA
• Deiet a Microbïomau

Gwaith Cwrs ac Asesu

Mae’r asesiadau wedi'u cynllunio i annog bod yn ddysgwr annibynnol ac i atgyfnerthu eich dysgu.

Byddwch yn cwblhau dau asesiad drwy gydol y cwrs sy'n cynnwys cyflwyniad llafar 15 munud o hyd ac adolygiad beirniadol o tua 3000 o eiriau.

Bydd y tiwtorialau byw bob pythefnos yn cael eu defnyddio i ddarparu unrhyw gymorth y gallai fod ei angen arnoch i gwblhau'r asesiadau hyn.

Dysgu ac Addysgu

Cyflwynir y cwrs byr yn gyfan gwbl ar-lein, sy'n rhoi'r hyblygrwydd ichi drefnu eich dysgu o gwmpas eich ymrwymiadau eraill. Bydd tiwtorialau byw ar-lein bob pythefnos i fynd i'r afael ag unrhyw gwestiynau.

Cyflogawyedd a Gyrfaoedd

Wrth i brofion genetig ddod yn fwy fforddiadwy a hygyrch, mae'r galw am gynlluniau deiet wedi'u teilwra i enynnau’n dod yn fwy realistig. Nod y cwrs hwn yw darparu gwybodaeth fanwl am ryngweithio rhwng deiet a genynnau i faethegwyr a deietegwyr presennol a rhai’r dyfodol. 

Cysylltu â Ni

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Cwrs, Dr Maninder Ahluwalia
E-bost: mahluwalia@cardiffmet.ac.uk
Ffôn: 02920 205924 

Gwybodaeth Cwrs Allweddol

Man Astudio:
Ar-lein

Ysgol:
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd

Course Length:
13 weeks (one Term)

Gellir dod o hyd i delerau ac amodau llawn mewn perthynas â derbyn cynnig i astudio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd drwy fynd i www.metcaerdydd.ac.uk/terms