Skip to main content
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd>Cyrsiau>Cwrs Byr Geneteg a Genomeg mewn Gofal Iechyd

Cwrs Byr Geneteg a Genomeg mewn Gofal Iechyd

Ydych chi'n weithiwr gofal iechyd proffesiynol sy'n bwriadu ymuno â rol gweithiwr gofal iechyd proffesiynol? Oes gennych chi ddiddordeb mewn gwella eich llythrennedd genomig? Dewch i ymuno â ni ar y cwrs gwych hwn!

Mae'r datblygiadau mewn technolegau genetig yn cael effaith fawr ar ddiagnosis clinigol ac opsiynau therapiwtig. Nod y GIG yw bod y system gofal iechyd gyntaf sy'n canolbwyntio ar ymgorffori meddygaeth wedi’i phersonoli mewn gofal iechyd prif ffrwd. Er mwyn gwireddu potensial genomeg yn llawn, mae'n ofynnol i'r holl ymarferwyr iechyd gael rhywfaint o lythrennedd genomig. Nod y cwrs hwn yw darparu dealltwriaeth sylfaenol o gysyniadau mewn geneteg a genomeg mewn iechyd a chlefydau. Ein nod yw cyflwyno a gwerthuso'r datblygiadau diweddar mewn technolegau genetig sy'n gwneud eu ffordd i'r sector gofal iechyd ac i gyflwyno cysyniad dulliau gofal iechyd wedi’u personoli.

Gall unrhyw un sydd â diddordeb cyffredinol mewn geneteg ac iechyd neu unrhyw weithwyr gofal iechyd proffesiynol presennol a/neu yn y dyfodol ddefnyddio'r cwrs hwn fel cwrs rhagarweiniol neu loywi mewn geneteg. 


Cynnwys y Cwrs

Bydd y cwrs yn ymdrin ag ystod eang o bynciau a gall peth cynnwys newid dros amser i adlewyrchu'r datblygiadau yn y maes. Dyma rai enghreifftiau o'r pynciau:

• Cyflwyniad i'r genom dynol
• DNA, RNA, Protein
• Genoteip V Ffenoteip
• Amrywioldeb genomig ac amrywiad rhwng unigolion
• Anhwylderau un genyn/anhwylderau prin
• Dulliau etifeddu
• Anhwylderau cymhleths
• Mynegiant a rheoleiddio genynnau
• Rheoleiddio trawsgrifiadol
• Rheoleiddio epigenynnol
• Dulliau o astudio amrywiad genynnol, Profion genynnol
• Therapi genynnau
• Geneteg glinigol/meddygaeth genomig

20 credyd ar lefel 7

Gwaith Cwrs ac Asesu

Mae’r asesiadau wedi'u cynllunio i annog bod yn ddysgwr annibynnol ac i atgyfnerthu eich dysgu. Byddwch yn cwblhau dau asesiad drwy gydol y cwrs sy'n cynnwys cyflwyniad llafar 15 munud o hyd ac adolygiad beirniadol o tua 3000 o eiriau. Bydd y tiwtorialau byw bob pythefnos yn cael eu defnyddio i ddarparu unrhyw gymorth y gallai fod ei angen arnoch i gwblhau'r asesiadau hyn.

Dysgu ac Addysgu

Cyflwynir y cwrs byr yn gyfan gwbl ar-lein, gan roi'r hyblygrwydd ichi drefnu eich dysgu o gwmpas eich ymrwymiadau eraill. Bydd tiwtorialau byw ar-lein bob pythefnos i fynd i'r afael ag unrhyw gwestiynau. 

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Mae maes genomeg yn parhau i ehangu'n aruthrol ac mae’n rhoi’r adnoddau inni wella iechyd. Nod y cwrs hwn yw darparu'r llythrennedd genomig sylfaenol i unrhyw broffesiwn sy'n gysylltiedig ag iechyd ar hyn o bryd neu yn y dyfodol. 

Cysylltu â Ni

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Cwrs, Dr Maninder Ahluwalia
E-bost: mahluwalia@cardiffmet.ac.uk
Ffôn: 02920 205924 

Gwybodaeth Cwrs Allweddol

Man Astudio:
Ar-lein

Ysgol:
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd

Hyd y Cwrs:
13 wythnos (un Tymor)

Gellir dod o hyd i delerau ac amodau llawn mewn perthynas â derbyn cynnig i astudio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd drwy fynd i www.metcaerdydd.ac.uk/terms