Skip to main content

Gwobr Galluogi Dysgu Ymarfer

​Ydych chi’n Weithiwr Cymdeithasol sydd â diddordeb yn eich datblygiad proffesiynol parhaus eich hun? Ydych chi am fodloni gofynion meini prawf ailgofrestru Gofal Cymdeithasol Cymru? Ydych chi’n hoffi gweld pobl yn tyfu ac yn datblygu? Hoffech chi ymgymryd â rôl hollbwysig mewn addysg gwaith cymdeithasol a hyrwyddo dysgu ac addysgu gweithwyr cymdeithasol dan hyfforddiant?

Os yw hyn o ddiddordeb i chi, bydd cwblhau ein Dyfarniad Galluogi Dysgu Ymarfer ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn rhoi cymhwyster cymeradwy Gofal Cymdeithasol Cymru i chi i’ch galluogi i ymgymryd â rôl hollbwysig mewn addysg gwaith cymdeithasol a dod yn Addysgwr Ymarfer (a elwid gynt yn Asesydd Ymarfer / Athro Ymarfer).

Mae’r Dyfaniad hon yn hyrwyddo eich statws proffesiynol eich hun, yn cyfrannu at ddatblygiad proffesiynol parhaus, yn darparu tystiolaeth ragorol o hyfforddiant a dysgu ôl-gofrestru, ac yn rhoi cyfle gwych i chi fod yn rhan o ddatblygu dyfodol gwaith cymdeithasol yng Nghymru. Mae’n eich galluogi i ennill gwybodaeth a sgiliau goruchwylio ac asesu ymarfer gwaith cymdeithasol naill ai ar lefelau cymhwyso neu ôl-gymhwyso. Er y gall addysgwr ymarfer fod yn rôl drom, mae’n tynnu ar lawer o’r sgiliau gwaith cymdeithasol sydd gennych eisoes, megis cyfathrebu, trafod, casglu a dadansoddi gwybodaeth, gosod a gweithio i dargedau, rheoli, galluogi eraill ac ysgrifennu adroddiadau.

Addysgir y Dyfarniad Galluogi Dysgu Ymarfer ym Met Caerdydd wyneb yn wyneb ar Gampws Llandaf ac mae ar gael ar Lefel 6 a Lefel 7 (Meistr) ac mae’r Dyfarniad werth 30 Credyd Academaidd. Mae’r modiwl yn rhyngweithiol, yn cael ei addysgu gan ddarlithwyr profiadol (sydd eu hunain wedi ymgymryd â rôl yr addysgwr ymarfer, a elwid gynt yn aseswr ymarfer) ac mae’r chwe diwrnod a addysgir (yn ogystal â hanner diwrnod o gynefino) yn rhoi’r cyfle i chi gaffael gwybodaeth ar sail tystiolaeth sy’n gysylltiedig ag asesu ymarfer ac i gwrdd ag ymgeiswyr eraill sy’n dymuno bod yn rhan o daith ddysgu’r myfyriwr.

​Cynnwys y Cwrs

Byddwch yn cael y cyfle i drafod a dadansoddi ystod o feysydd pwnc a fydd yn eich paratoi ar gyfer y rôl Addysgwr Ymarfer:

  • Cynllunio a rheoli datblygiad ymarfer
  • Cymhwyso theori ac arddulliau dysgu oedolion
  • Y broses oruchwylio a dysgu
  • Arsylwi ymarfer yn uniongyrchol
  • Adborth adeiladol fel arf dysgu ac addysgu
  • Datblygu atgyrchedd trwy oruchwyliaeth
  • Y cyd-destun Cymreig o fewn asesiad ymarfer
  • Ymarfer gwrth-ormesol wrth asesu myfyrwyr gwaith cymdeithasol
  • Rheoli’r broses adolygu pwynt canol
  • Cefnogi myfyrwyr sy’n cael anhawster i ddangos tystiolaeth o’u cymhwysedd
  • Galluogi myfyrwyr ag anghenion cymorth dysgu penodol o fewn asesiad ymarfer
  • Tystiolaethu canlyniadau ac ysgrifennu adroddiadau effeithiol
  • Defnydd o theori ac ymchwil wrth ddatblygu ymarferwyr gwaith cymdeithasol


Dysgu ac Addysgu

Mae’r Dyfarniad Galluogi Dysgu Ymarfer ym Met Caerdydd yn cael ei addysgu wyneb yn wyneb ar Gampws Llandaf ac yn cynnwys chwe diwrnod a hanner o ddysgu. Mae dwy garfan ar gyfer y rhaglen hon bob blwyddyn.

Addysgir y Wobr gan ddefnyddio nifer helaeth o strategaethau a dulliau addysgu a dysgu, i gynorthwyo a chefnogi dysgu cymuned amrywiol o fyfyrwyr sy’n oedolion, megis darlithoedd, ymarferion, astudiaethau achos, fideos, trafodaethau, ac ymarferion rhyngweithiol i hyrwyddo dysgu’r ymgeiswyr eu hunain. Darperir adnoddau hefyd yn ystod y sesiynau y gall yr ymgeiswyr eu defnyddio wrth gefnogi’r myfyriwr yn ymarferol.


Asesu

Mae dwy ran i asesu’r modiwl hwn: asesiad crynodol academaidd ac elfen ymarfer. Mae cyflawni’r ddwy elfen yn llwyddiannus yn arwain at ddyfarnu’r Wobr.

Asesiad Crynodol:
Asesir y modiwl trwy ddau asesiad crynodol. Mae’r rhain yn cynnwys un traethawd academaidd ac un dadansoddiad myfyriol estynedig o ddarn o ymarfer. Bydd angen i chi basio’r ddau asesiad i gwblhau’r modiwl yn llwyddiannus.

Asesiad Ymarfer:
Mae’r elfen ymarfer yn cynnwys dau arsylwad uniongyrchol o’ch ymarfer gan eich mentor. Bydd yr arsylwadau hyn yn digwydd yn ystod eich goruchwyliaeth o’r myfyriwr.


Gofynion Mynediad

Rhaid eich bod wedi cymhwyso fel gweithiwr cymdeithasol am o leiaf dwy flynedd.


Sut i Wneud Cais

Fel y nodwyd uchod, rhaid i chi fod:

  • wedi cymhwyso fel gweithiwr cymdeithasol am o leiaf dwy flynedd.
  • wedi cael caniatâd eich rheolwyr a thrafod eich dyhead i ymgymryd â’r Dyfarniad hon gyda Thîm Hyfforddi eich Awdurdod Lleol sy’n rheoli’r broses ymgeisio ar y cyd â Met Caerdydd.


Mae’n ofynnol i chi asesu naill ai myfyriwr gwaith cymdeithasol neu fyfyriwr ar lleoliadau hwy, e.e., 80 diwrnod o gyfle dysgu ymarfer neu ar gyfle dysgu ymarfer 100 diwrnod yn ystod y modiwl hwn. Mae angen i chi gael eich Aseswr Dysgu Ymarfer eich hun mewn lle cyn dechrau’r rhaglen a rheolir y trefniadau hyn gan dîm hyfforddi eich Awdurdod Lleol).

Wrth wneud cais am y Dyfarniad hwn, rydych yn cytuno i gymryd rhan ym mhob un o’r chwe diwrnod addysgu (gan gynnwys ½ diwrnod o gynefino).


Cysylltu â Ni

Os oes diddordeb gennych chi yn y cyfle cyffrous hwn, a wnewch chi gysylltu â’ch Tîm Datblygu’r Gweithlu/Rheolwr Asiantaeth (neu Dîm Hyfforddi eich Awdurdod Lleol os nad ydych yn gweithio i Gyngor lleol).

I gael rhagor o wybodaeth am y cwrs ym Met Caerdydd, cysylltwch â:

Kate Andrews, KAndrews@cardiffmet.ac.uk (Gweinyddwr y Dyfarniad)

Jude Badmington-Fowler, JHBadmington-Fowler@cardiffmet.ac.uk (Cyfarwyddwr Rhaglen Gwaith Cymdeithasol Ôl-gymhwyso a Chydlynydd y Dyfarniad)

Edrychwn ymlaen at glywed gennych os oes gennych unrhyw ymholiadau ac i helpu i’ch cefnogi yn eich datblygiad proffesiynol.

Gwybodaeth Cwrs Allweddol

​Campws: Llandaf

Ysgol: Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd

Hyd y Cwrs: Chwe diwrnod a hanner a addysgir

Cost y Cwrs: £750

Dyddiadau Cychwyn: Mae’r carfannau nesaf yn dechrau ym mis Hydref 2023 a mis Ionawr 2024

Ar gyfer dyddiadau cychwyn cyrsiau ac unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Kate Andrews, KAndrews@cardiffmet.ac.uk (Gweinyddwr y Dyfarniad), a/neu Jude Badmington-Fowler, JHBadmington-Fowler@cardiffmet.ac.uk (Cyfarwyddwr Rhaglen Gwaith Cymdeithasol Ôl-gymhwyso a Chydlynydd y Dyfarniad).

Gellir dod o hyd i delerau ac amodau llawn mewn perthynas â derbyn cynnig i astudio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd drwy fynd i www.metcaerdydd.ac.uk/terms