Mae’r Rhaglen Atgyfnerthu ar gyfer yr holl Weithwyr Cymdeithasol newydd gymhwyso sydd yn eu cyfnod cyntaf o gofrestru ac mae’n ffurfio’r cam cyntaf y fframwaith Dysgu ac Addysgu Proffesiynol Parhaus (DAPP). Mae’r rhaglen yn adeiladu ar y dysgu a wnaed yn eich rhaglen gymhwyso ac yn canolbwyntio ar wreiddio gwybodaeth a sgiliau proffesiynol craidd o fewn ymarfer. Nod y rhaglen yw atgyfnerthu ac ymestyn y dysgu a gyflawnwyd ers i chi cymhwyso fel gweithiwr cymdeithasol cofrestredig fel eich bod chi fel ymarferwyr yn gallu ymyrryd a defnyddio barn broffesiynol mewn sefyllfaoedd cynyddol gymhleth.
Bydd yr holl Weithwyr Cymdeithasol sy’n dilyn y Rhaglen Atgyfnerthu hon wedi cwblhau eu blwyddyn gyntaf o ymarfer. Amlinellir y canllawiau ar gyfer y cyfnod hwn yn nogfen Gofal Cymdeithasol Cymru
“Y tair blynedd gyntaf o ymarfer: Fframwaith ar gyfer sefydlu Gweithwyr Cymdeithasol i ymarfer cymwysedig a dysgu ac addysgu proffesiynol parhaus”. Cynhelir y rhaglen atgyfnerthu yn yr ail neu’r drydedd flwyddyn o ymarfer ac mae’n adeiladu ar y canllawiau hyn.
Mae’r Rhaglen Atgyfnerthu yn canolbwyntio ar dri maes allweddol, gyda phwyslais arbennig ar y trydydd maes:
Cymhwyso dadansoddiad wrth asesu i lywio ymyriadau.
Gweithio ar y cyd ag unigolion sydd angen gofal a chymorth a’u gofalwyr a gweithwyr proffesiynol eraill.
Ymyrraeth a chymhwyso barn broffesiynol mewn sefyllfaoedd cynyddol gymhleth.
Mae modiwl y rhaglen werth 30 credyd ar Lefel 6.
Mwy am y cwrs hwn
Mae pob ymgeisydd yn Weithiwr Cymdeithasol cymwysedig sydd wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae’r rhaglen yn adlewyrchu ymchwil, deddfwriaeth a pholisi cyfredol ac yn ymgorffori’r cyd-destun Cymreig sy’n cynnwys yr iaith, diwylliant, daearyddiaeth a deddfwriaeth yng Nghymru. Mae’r Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol (2017) a’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol perthnasol (2012) yn sail i’r dysgu. Amlygir cyd-destun rhyngbroffesiynol ymarfer Gwaith Cymdeithasol. Mae safbwyntiau unigolion sydd angen gofal a chymorth a’u gofalwyr yn gyffredin drwy gydol y broses o reoli, cyflwyno a datblygu’r modiwl.
Cyflwynir y Rhaglen Atgyfnerthu mewn cydweithrediad â Phrifysgol De Cymru a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd a 10 Awdurdod Lleol i gynnwys Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Blaenau Gwent, Caerffili, Caerdydd, Bro Morgannwg, Pen-y-bont ar Ogwr, Mynwy, Casnewydd a Thorfaen. Mae hyn yn sicrhau bod y modiwl yn berthnasol i anghenion a gofynion y gweithlu. Y Sefydliad Addysg Uwch (SAU) fydd y corff dyfarnu. Mae’r Rhaglen yn cael ei dilysu gan y ddau SAU a’i chymeradwyo gan Gofal Cymdeithasol Cymru o dan y Cymeradwyo ac Arolygu ar gyfer Cyrsiau Gwaith Cymdeithasol Ôl-gymhwyso (Cymru) 2019.
Addysgir y Rhaglen Atgyfnerthu ym Met Caerdydd wyneb yn wyneb ar Gampws Llandaf. Mae’n rhyngweithiol ac yn cael ei addysgu gan ddarlithwyr profiadol sy’n meddu ar gymwysterau proffesiynol perthnasol a/neu sydd ag ystod eang o gymwysterau penodol ar lefel Gradd, Meistr a Doethuriaeth. Mae’r tri diwrnod a addysgir (yn ogystal â hanner diwrnod o gynefino) yn rhoi’r cyfle i chi gael gwybodaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth a chwrdd ag ymgeiswyr eraill.
Fel ymgeisydd Atgyfnerthu, bydd Aseswr Ymarfer Atgyfnerthu yn cael ei neilltuo i chi o fewn eich Awdurdod Lleol a fydd yn eich asesu a’ch cefnogi trwy gydol eich taith ddysgu.