Yn ogystal â'r modiwlau Astudiaethau Addysg Gynradd arbenigol mae pob myfyriwr hefyd yn astudio modiwlau craidd. Mae'r rhain wedi'u cynllunio i'ch helpu i ddatblygu sgiliau academaidd ac ymchwil sydd eu hangen i lwyddo ym maes addysg uwch, ac i'ch helpu i archwilio opsiynau o ran cyflogaeth yn y dyfodol ac i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd. .
Mae pob modiwl sydd wedi'i marcio â * ar gael i'w astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
Blwyddyn Un:
Dyma’r modiwlau Astudiaethau Addysg Gynradd:
Addysg Ddoe, Heddiw ac Yfory (20 credyd)*
Mae’r modiwl hwn yn darparu trosolwg o faterion hanesyddol a chyfoes sy’n sylfaen i systemau addysg yn y DU ar hyn o bryd. Byddwch yn astudio datblygiadau cymdeithasol a diwylliannol allweddol ym maes addysg, gan ystyried eu perthnasedd i faterion addysgol cyfoes. Mae hyn yn cynnwys dysgu am ddatblygiadau gwleidyddol, economaidd a chymdeithasegol sydd wedi dylanwadu ar newidiadau yn y byd addysg.
Yr Unigolyn sy’n Datblygu (10 credyd)*
Bydd y modiwl hwn yn datblygu’ch gwybodaeth am ddatblygiad plant ac yn trafod pynciau fel sut mae meddwl plentyn yn newid wrth iddo dyfu a sut mae’r byd cymdeithasol yn effeithio ar ddatblygiad deallusol plant. Hefyd, bydd y modiwl hwn yn archwilio’r broses o ddatblygiad rhywedd, datblygiad moesegol a datblygiad hunanymwybyddiaeth plentyn. Bydd cerrig milltir datblygiadol pwysig yn cael eu hystyried, er enghraifft mewn perthynas â datblygiad cymdeithasol/emosiynol a datblygiad lleferydd ac iaith, a’u cysylltiad â datblygiad nodweddiadol ac annodweddiadol.
Meysydd Dysgu a Phrofiad (I) (30 credyd)*
Bydd y modiwl hwn yn archwilio polisi ac ymarfer cyfredol ym meysydd addysg gynradd â blaenoriaeth allweddol; llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol. Bydd effeithiolrwydd dulliau gweithredu gwahanol yn y meysydd blaenoriaeth hyn yn cael ei ystyried, a bydd y sesiynau’n cynnwys dysgu drwy brofiad gan ddefnyddio’r technolegau digidol diweddaraf.
Addysg Plentyndod: Addysgu a Dysgu (20 credyd)*
Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno theori ac ymarfer addysg gynradd er mwyn datblygu’ch gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o natur gymhleth addysg plant. Bydd yn canolbwyntio’n fanwl ar gynllunio’r cwricwlwm a dulliau addysgeg, a threfnir ymweliadau ag ysgolion lleol ac arbenigwyr addysg er mwyn astudio dulliau addysgeg ymarferol.
Dim ond Chwarae? (10 credyd)*
Bydd sesiynau rhyngweithiol yn rhoi cyfle i fyfyrwyr astudio gwerth a phwysigrwydd chwarae ym mywydau plant ar lefel theori ac ymarfer. Byddwch yn astudio sut a pham y mae plant yn chwarae, a chyfraniad oedolion ac amgylcheddau at ddarpariaeth chwarae ar gyfer plant 0 i 8 oed. Hefyd, byddwch yn ystyried y manteision a’r heriau posibl sy’n deillio o’r broses bleserus ond bwysig o ddarparu ar gyfer chwarae plant.
Chwarae a Dysgu yn yr Awyr Agored (10 credyd)
Byddwch yn ystyried manteision a heriau chwarae a dysgu yn yr awyr agored, yn ogystal â dulliau gweithredu sy’n seiliedig ar theori ac ymarfer. Bydd llawer o gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol, trafodaethau a gweithdai yn ein coetir a’n Canolfan Dysgu Awyr Agored ar y campws. Hefyd, bydd gennych chi gyfle i ennill cymhwyster Ysgol Goedwig Lefel Dau achrededig.
Modiwlau Craidd:
Sgiliau ar gyfer Llwyddiant mewn Addysg Uwch (10 credyd)*
Bydd y modiwl hwn yn eich helpu i ddatblygu ymwybyddiaeth o’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar gyfer gwaith academaidd llwyddiannus, gan gynnwys sgiliau ysgrifennu ar gyfer cynulleidfaoedd gwahanol, sgiliau cyflwyno, defnyddio cyfeiriadau a defnyddio ffynonellau academaidd. Byddwch yn cael eich annog i ddatblygu sgiliau hunanfyfyrio beirniadol er mwyn eich galluogi i osod targedau ar gyfer datblygiad academaidd pellach.
Datblygu Sgiliau Seiliedig ar Waith (10 credyd)*
Defnyddir darlithoedd, e-ddarlithoedd a gweithdai i’ch cyflwyno i’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth lefel graddedigion, gan gynnwys hunangyflogaeth ac entrepreneuriaeth. Byddwch yn gwerthuso’ch sgiliau a’ch bwriadau gyrfa cysylltiedig eich hun, gan ymchwilio i gyfleoedd a heriau yn ymwneud â’ch cyflogadwyedd eich hun.
Blwyddyn Dau:
Meddwl yn Feirniadol am Addysg Gynradd (20 credyd)
Mae’r modiwl hwn yn cwestiynu camargraffiadau addysgol ac yn trafod ymarfer presennol. Mae’n cynnwys cyflwyniad ymarferol i feddwl beirniadol, a sut mae meddwl beirniadol yn cyfrannu at drafodaethau cyfoes ym maes addysg gynradd. Gosodir y damcaniaethau diweddaraf ym maes addysg yng nghyd-destun y gwaith ymchwil diweddaraf. Drwy archwilio’r damcaniaethau hyn yn ymarferol, bydd modd cynyddu dealltwriaeth o’r materion sy’n berthnasol i’r trafodaethau hyn.
Meysydd Dysgu a Phrofiad (II) (30 credyd)*
Bydd y modiwl hwn yn archwilio polisi ac ymarfer presennol yn ymwneud â’r celfyddydau mynegiannol, y dyniaethau, ieithoedd, gwyddoniaeth a thechnoleg mewn addysg gynradd. Bydd effeithiolrwydd dulliau gweithredu gwahanol yn y meysydd hyn yn cael ei ystyried. Bydd y modiwl yn archwilio cysyniadau fel chwarae a chreadigrwydd drwy ddulliau trawsgwricwlaidd ymarferol, a bydd cyfleoedd i archwilio ymarfer mewn ffordd greadigol.
Addysg a Chydraddoldeb (20 credyd)*
Mae’r modiwl hwn yn darparu dealltwriaeth feirniadol o dystiolaeth, ymchwil ac ymarfer cyfoes ym maes addysg a chydraddoldeb. Bydd damcaniaethau a chysyniadau allweddol yn ymwneud ag addysg a chydraddoldeb yn cael eu harchwilio (e.e. anghenion dysgu ychwanegol, materion yn ymwneud â rhywedd ac ethnigrwydd). Cyflwynir y rhain yng nghyd-destun enghreifftiau perthnasol o bolisi ac ymarfer addysgol cyfoes.
Meddwl Iach, Corff Iach: Iechyd Plant (10 credyd)*
Byddwch yn archwilio iechyd corfforol ac iechyd meddwl plant, gan ddysgu am y ffactorau amrywiol a all ddylanwadu ar iechyd plant. Hefyd, byddwch yn archwilio polisïau, strategaethau a mentrau yn ymwneud ag iechyd plant ac yn ystyried sut maent yn llywio ymarfer mewn lleoliadau addysg gynradd gwahanol.
Teuluoedd, Ysgolion a Chymdeithas (20 credyd)*
Byddwch yn archwilio’r heriau a’r cyfleoedd sy’n gysylltiedig ag ennyn diddordeb teuluoedd a gwneud gwaith amlasiantaeth mewn lleoliadau addysg gynradd. Nod y modiwl hwn yw hwyluso dadansoddiad beirniadol o ddulliau rhyngweithiol amrywiol sy’n ceisio datblygu partneriaeth â theuluoedd, a chwblhau gwerthusiad beirniadol o arferion gorau wrth ennyn diddordeb rhieni.
Modiwlau Craidd:
Lleoliad Cysylltiedig â Gwaith: Rheoli’ch hun ac Eraill (10 credyd)*
Mae’r modiwl hwn yn seiliedig ar leoliad wythnos mewn lleoliad gwaith, gan adeiladu ar fodiwl y flwyddyn gyntaf, Datblygu Sgiliau Seiliedig ar Waith. Nod y modiwl hwn yw datblygu sgiliau cyflogadwyedd allweddol a sgiliau cyfathrebu craidd sy’n berthnasol i gyflogaeth mewn cyd-destunau proffesiynol. Cynhelir y lleoliad mewn lle o’ch dewis (os oes modd). Hefyd, mae’n bosibl y cewch chi’r cyfle i ddatblygu’ch sgiliau cyflogadwyedd drwy ymestyn eich lleoliad os yw’r darparwr yn cytuno i wneud hynny.
Cyflwyniad i Sgiliau Ymchwil (10 credyd)*
Mae’r modiwl hwn yn ceisio sicrhau eich bod yn deall cysyniadau allweddol yn ymwneud ag ymchwil academaidd a’r broses ymchwil, gan sicrhau eich bod yn meddu ar y wybodaeth ofynnol i gwblhau’r prosiect ymchwil ymarferol estynedig yn eich blwyddyn olaf. Yn ogystal â’r cynnwys cyffredinol sy’n berthnasol i bob myfyriwr, byddwch yn derbyn cymorth pwrpasol ar gyfer ymchwil seicolegol.
Blwyddyn Tri:
Addysg Fyd-eang a Chymharol (10 credyd)
Mae’r modiwl hwn yn ystyried materion rhyngwladol sy’n berthnasol i’r byd addysg ar hyn o bryd, a’u heffaith ar bolisi ac ymarfer yn y DU. Bydd y modiwl yn eich helpu i ddatblygu dealltwriaeth feirniadol o nifer o safbwyntiau gwahanol ar Addysg Gymharol. Bydd hyn yn cynnwys defnyddio’ch profiadau personol o’r system addysg a gwneud cymariaethau â dulliau addysgol gwahanol.
Gwybodaeth am Bynciau mewn Addysg Gynradd (10 credyd)
Yn ystod y modiwl hwn bydd gennych gyfle i fyfyrio ar eich sgiliau a’ch gallu personol mewn meysydd allweddol fel Saesneg, gwyddoniaeth a mathemateg. Byddwch yn archwilio cysyniadau allweddol ac yn datblygu’ch gwybodaeth a’ch sgiliau ym meysydd mathemateg, gwyddoniaeth a Saesneg.
Ymarfer Proffesiynol a Llesiant (20 credyd)
Mae’r modiwl hwn yn archwilio mewn ffordd feirniadol y straen a’r gofynion cyfoes sy’n wynebu gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio mewn ysgolion cynradd a gydag ysgolion cynradd, gan ystyried strategaethau i ymdopi â nhw. Bydd y modiwl yn eich helpu i ddatblygu gwybodaeth fanwl am broffesiynoldeb a safonau proffesiynol mewn cyd-destunau gwahanol ym maes addysg gynradd. Bydd cyfleoedd i nodi strategaethau ar gyfer rheoli heriau sy’n gysylltiedig â’r proffesiwn, fel rheoli straen.
Dulliau gweithredu amgen ym maes Addysg (20 credyd)
Byddwch yn ystyried cwricwla amgen amrywiol ym maes addysg gynradd gan gynnwys safbwyntiau rhyngwladol. Bydd hyn yn cynnwys arferion addysgeg a’u hegwyddorion a’u hathroniaeth sylfaenol, gan gynnwys ysgolion Steiner-Waldorf, Reggio Emilia, Te Whariki a Montessori. Hefyd, bydd dulliau o ddysgu yn yr awyr agored yn cael eu hystyried, gan gynnwys Ysgolion Coedwig ac Ysgolion Traeth.
Addysgu a Dysgu drwy TGCh (10 credyd)
Mae’r modiwl hwn yn ceisio datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl o’r defnydd o TGCh ym meysydd addysgeg, cwricwlwm ac ymarfer mewn cyd-destunau addysg gwahanol. Byddwch yn archwilio sut mae mathau amrywiol o dechnoleg yn cael eu defnyddio heddiw.
Asesu mewn Addysg Gynradd (10 credyd)
Byddwch yn archwilio dulliau asesu ym maes addysg gynradd ac yn gwerthuso eu heffeithiolrwydd. Bydd dulliau a damcaniaethau asesu ffurfiannol a chrynodol yn cael eu hastudio. Bydd hyn yn cynnwys: dysgu gan fyfyrwyr eraill; defnyddio TGCh; hunanasesu; profion safonedig; asesu disgyblion sydd ag anghenion addysgol arbennig a dewisiadau amgen i brofion traddodiadol.
Modiwlau Craidd:
Prosiect Annibynnol (40 credyd)
Byddwch yn cwblhau prosiect ymchwil neu archwilio annibynnol o natur ymarferol neu ddamcaniaethol. Bydd hyn yn eich galluogi i arddangos agwedd annibynnol at eich gwaith ymchwil a gwella’ch profiad o gynllunio prosiectau. Byddwch yn derbyn arweiniad a chymorth gan oruchwylydd.