Pynciau Israddedig

Eich Prifddinas dechreuadau newydd, uchelgeisiau mawreddog, breuddwydion mawr, dyheadau mawr, calonnau mawr, croeso cynnes, men-toriaid ysbrydoledig, cysyniadau heriol a newid meddylfrydau, dyfalbarhad, penderfyniad, trawsnewid, syniadau gwych a dyfodol disglair, angerdd, mentro, rhyfeddu, chi.

Chwiliwch ein hystod o bynciau israddedig ar y dolenni isod a dewch o hyd i’ch lle ym Met Caerdydd.

 
 

Addysg, Blynyddoedd Cynnar ac Addysg Gynradd

P’un a ydych am fod yn Athro Cynradd cymwysedig neu weithio yn y blynyddoedd cynnar, seicoleg addysg ac anghenion arbennig, bydd ein graddau yn eich galluogi i ddod yn weithiwr addysgol proffesiynol i gefnogi ac ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol.

Busnes a Rheoli

Yn cynnig ystod eang o lwybrau arbenigol, mae ein graddau busnes a rheoli sy’n broffesiynol berthnasol wedi’u cynllunio i ddatblygu eich gwerthfawrogiad beirniadol o’r rôl y mae rheolwyr yn ei chyflawni yn y diwydiant.

Celf a Dylunio

Graddau creadigol rhyngddisgyblaethol. O Gelfyddyd Gain, Ffotograffiaeth a Cerameg, i Ddarlunio, Cyfathrebu a Dylunio Graffig, Tecstilau a mwy.

Chwaraeon

Mae’r portffolio cyffrous o raddau Chwaraeon sy’n canolbwyntio ar gyflogadwyedd ym Met Caerdydd yn bodloni gofynion galwedigaethol marchnad sy’n ehangu mewn meysydd fel gwyddor chwaraeon, addysg gorfforol ac iechyd, cyfryngau chwaraeon, dadansoddi perfformiad a llawer mwy.

Cyfrifeg, Economeg a Chyllid

Graddau achrededig proffesiynol gyda ffocws ymarferol gydag opsiynau profiad gwaith a lleoliadau.

Cyfrifiadureg a Thechnolegau Creadigol

O Gyfrifiadureg a Pheirianneg Meddalwedd i Ddatblygu Gemau Cyfrifiadurol a Diogelwch Cyfrifiadurol, mae ein graddau sy’n canolbwyntio ar y diwydiant wedi’u cynllunio i’ch paratoi ar gyfer gyrfa sy’n llywio dyfodol technoleg.

Cyfryngau a Chyfathrebu

Mae ein graddau yn y Cyfryngau a Chyfathrebu a Chyfryngau Chwaraeon yn eich paratoi ar gyfer byd gwaith. Cyfuno theori ag ymarfer ac astudio yng Nghaerdydd, un o’r canolfannau cyfryngau a diwydiannau creadigol mwyaf y tu allan i Lundain.

Ffasiwn

Os ydych yn angerddol am dylunio, neu farchnata, prynu a rheoli brand, bydd ein graddau ffasiwn yn datblygu eich sgiliau creadigol a busnes i ddechrau yn y diwydiant cyffrous hwn.

Gwaith Ieuenctid a Chymunedol

Bydd y radd hon, sydd â chymeradwyaeth broffesiynol ac ymarferol, yn eich helpu i ennill y wybodaeth, y sgiliau a’r cymhwysedd i fod yn addysgwr anffurfiol, ac ennill cymhwyster proffesiynol a gydnabyddir yn genedlaethol mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol.

Gwyddor Bwyd, Maeth a Dieteteg

Hyfforddi i fod yn ddietegydd cofrestredig neu ddilyn llwybr astudio sy’n ymateb i’r angen am raddedigion hyfforddedig yn y diwydiant gwyddor bwyd byd-eang.

Gwyddorau Biofeddygol a Gofal Iechyd

Graddau achrededig proffesiynol yn cwmpasu ystod o lwybrau arbenigol, o Ficrobioleg, Bioleg Foleciwlaidd a Geneteg, i Iechyd, Ymarfer Corff a Maeth.

Y Gyfraith

Rhoi theori gyfreithiol ar waith yn ein hystafell ffug lys bwrpasol a datblygu eich sgiliau mewn cydweithredu, ymchwil gyfreithiol, a hyder mewn siarad cyhoeddus.

Iechyd yr Amgylchedd

Mae’r radd achrededig mewn Iechyd yr Amgylchedd yn rhoi cyfle i astudio am bum gyrfa posibl o fewn un maes disgyblaeth. Proffesiwn medrus y mae galw mawr amdano sy’n golygu y byddwch yn gallu trosglwyddo’n rhwydd i fyd gwaith ar ôl graddio.

Marchnata

Bydd ein portffolio o raddau Marchnata achrededig arbenigol yn eich galluogi i ennill y wybodaeth academaidd a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i gael gwaith yn y diwydiant marchnata creadigol sy’n datblygu’n barhaus.

Peirianneg

Mae ein graddau mewn Roboteg a Pheirianneg Systemau Electronig a Chyfrifiadurol wedi’u cynllunio i’ch paratoi ar gyfer gyrfa sy’n llywio dyfodol technoleg peirianneg.

Pensaernïaeth

Bydd graddau Pensaernïaeth achrededig proffesiynol ym Met Caerdydd yn eich paratoi i adeiladu dyfodol gwell, gyda phwyslais cryf ar gynaliadwyedd a chyfleoedd i gysylltu â’r diwydiant.

Plismona Proffesiynol

Mae’r radd Plismona Proffesiynol wedi’i chynllunio i fodloni holl ofynion craidd Cwricwlwm Cenedlaethol yr Heddlu ar gyfer gradd cyn-ymuno’r Coleg Plismona mewn Plismona Proffesiynol. Bydd y radd yn rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiad sydd eu hangen arnoch ar gyfer rôl cwnstabl yr heddlu.

Podiatreg

Bydd y radd achrededig yn darparu Podiatryddion cymwys. Gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n arbenigo yn y traed, y ffêr a’r goes, gan arwain gofal cleifion. Ariennir y cwrs hwn drwy gynllun bwrsariaeth y GIG.

Polisi Cymdeithasol

Ystod o raglenni sy’n canolbwyntio ar gyflogwyr ac wedi’u cymeradwyo’n broffesiynol ym meysydd Gwaith Cymdeithasol ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol

Dewch o hyd i’ch llais a’i ddatblygu fel awdur a beirniad. Dysgwch sgiliau proffesiynol hanfodol a darllenwch eich gwaith mewn nosweithiau meic agored; cwrdd ag awduron cyhoeddedig ac ymarferwyr creadigol; gwirfoddoli mewn digwyddiadau a gwyliau llenyddol lleol; cyflwyno eich gwaith i’n blodeugerdd myfyrwyr a mwy.

Seicoleg

Graddau achrededig proffesiynol ar gael ym meysydd Iechyd, Addysg, Seicoleg Fforensig, a Throseddeg.

Technoleg Ddeintyddol

Gradd gyda ffocws ymarferol a chysylltiadau agos â Deintyddiaeth a fydd yn eich hyfforddi i ddod yn dechnolegydd deintyddol, sy’n gallu gwneud adferiadau deintyddol, prosthesis a chyfarpar i safon uchel o fanwl gywirdeb.

Therapi Lleferydd ac Iaith

Bydd ein gradd Lleferydd ac Iaith achrededig proffesiynol yn eich galluogi i gymhwyso fel therapydd lleferydd ac iaith ar ôl i chi raddio. Byddwch yn gallu ymgymryd ag amrywiaeth o leoliadau gwaith trwy ein cysylltiadau hirsefydlog gyda’r GIG. Ariennir y radd hon trwy gynllun bwrsariaeth y GIG.

Troseddeg

Yn cyfuno astudiaeth ddamcaniaethol ac empirig, bydd y radd Troseddeg fodern hon yn herio’r ffordd yr ydych yn edrych ar astudio trosedd.

Twristiaeth, Lletygarwch a Rheoli Digwyddiadau

Graddau achrededig proffesiynol yn cynnig interniaethau blwyddyn o hyd, i’r rhai sy’n dymuno bod yn rheolwr yn y diwydiannau Digwyddiadau, Gwesty, Lletygarwch a Thwristiaeth deinamig.