Ffasiwn

Mae ffasiwn yn adlewyrchu ac yn dylanwadu ar y gymdeithas rydym yn byw ynddi, gan gyflawni rôl o bwys yn yr economi fyd-eang yr un pryd. Bydd graddau Ffasiwn Met Caerdydd yn darparu’r wybodaeth a’r sgiliau i chi lwyddo yn y diwydiant dynamig hwn.

O ddylunio a chreu gwisgoedd i fasnacheiddio, rheoli brand a rhagweld tueddiadau, bydd ein cyrsiau gradd sy’n canolbwyntio ar yrfa yn eich paratoi ar gyfer dyfodol mewn ffasiwn.

Dysgwch gan staff addysgu a thechnegol profiadol sydd â gwybodaeth helaeth am y diwydiant ffasiwn, gan ennill dealltwriaeth fanwl o’ch maes dewisol a sgilau trosglwyddadwy hanfodol.

Dysgwch sut i gydbwyso galwadau masnachol gyda chreadigrwydd, moeseg a chynaliadwyedd, gan feistroli technegau o’r traddodiadol i’r digidol.

Graddau Ffasiwn

Prynu Ffasiwn a Rheoli Brand – BA (Anrh) *

Dylunio Ffasiwn – BA (Anrh) **

Rheoli Marchnata Ffasiwn – BA (Anrh) *

* Achredwyd gan y Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM)
** Aelod o Gyngor Ffasiwn Prydain a’r Sefydliad Ffasiwn Graddedigion


Cyrsiau Cysylltiedig

Dylunio Ffasiwn - MA/PgD/PgC​ *

Rheoli Marchnata Ffasiwn​ - MSc/PgD/PgC​

* Aeloed o Gyngor Ffasiwn Prydain

Chartered Institute of Marketing website  
British Fashion Council website  
Graduate Fashion Foundation website  
 
 
Cyfleusterau

Taith Rithwir – Stiwdios Dylunio Ffasiwn

 
 

“Roedd y modiwlau ar y cwrs Rheoli Marchnata Ffasiwn yn annog ni i archwilio gwahanol feysydd yn y diwydiant, ac fe wnes i gysylltu’n dwys â’r byd ffasiwn moethus. Fe wnaeth crefftwaith manwl, treftadaeth gyfoethog, a cheinder diymwad y sector hwn apelio ataf. Yn ystod fy mlwyddyn mewn diwydiant, fe wnes i sicrhau lleoliad yn Christian Dior. Mae’r profiad amhrisiadwy hwn wedi paratoi’r ffordd i mi gychwyn ar rôl raddedig, gan wella fy sgiliau ymhellach ac ehangu fy ngwybodaeth yn y maes cyffrous hwn.”

Kayleigh Groenewald
Myfyriwr BA (Anrh) Rheoli Marchnata Ffasiwn / Interniaeth Rheoli Datblygu Cleientiaid yn Christian Dior

 
 

“Mae’r cwrs Dylunio Ffasiwn ym Met Caerdydd wedi newid fy marn am beth yw bod yn ddylunydd. Yn ogystal â gwella fy sgiliau dylunio digidol a chreu gwisgoedd, mae’r wybodaeth dwi wedi’i dysgu am gynaliadwyedd, bod yn ddiwastraff ac yn ystyriol o’r amgylchedd wedi cael effaith gadarnhaol ar fy mywyd a’m gwaith.”

Esther Jibril
BA (Anrh) Dylunio Ffasiwn

 
 

“Am gyhyd ag y gallaf gofio, rwyf wedi breuddwydio am astudio ffasiwn. Dewisais astudio Prynu Ffasiwn a Rheoli Brand ym Met Caerdydd oherwydd y cyfle i wneud blwyddyn leoliad rhwng yr ail a’r drydedd flwyddyn, a fyddai’n fy arwain i ennill profiad gwerthfawr, gan fy ngosod ar wahân i raddedigion prynu ffasiwn eraill. Fe wnes i gais am wahanol interniaethau blwyddyn lleoliad a dod yn Intern Prynu ar gyfer The Very Group yn Lerpwl. Roeddwn hefyd yn ddigon ffodus i gael interniaeth yn Ninas Efrog Newydd dros yr haf gydag Adore Me fel rhan o’u tîm creu. Fe wnaeth y ddau interniaeth hyn gefnogi fy ngwaith yn aruthrol ym mlwyddyn olaf fy astudiaethau a’m helpu i roi’r ddamcaniaeth roeddwn i’n ei dysgu yn ei chyd-destun. Gallaf ddweud yn falch bod hyn wedi fy arwain at dderbyn gradd dosbarth cyntaf yn fy ngradd! Ac ers hynny rwyf wedi derbyn fy swydd ddelfrydol fel Prynwr Cynorthwyol i Ralph Lauren a byddaf yn adleoli i ganol Llundain!”

Matti Atkinson
BA (Anrh) Prynu Ffasiwn a Rheoli Brand

 
 

“O deithiau ysbrydoledig a gynigiodd olwg ar y diwydiant Ffasiwn i gryfhau fy mhresenoldeb ar-lein ac edrych ar sut y gallaf gyrraedd fy mhotensial, nid oes prinder cyfleoedd yma ym Met Caerdydd. Yn y pen draw, mae'r tair blynedd diwethaf wedi fy ngalluogi i dyfu y tu hwnt i'm dychymyg, yn fwy nag yn academaidd yn unig. Un ffordd y gallaf ddangos fy nhyfiant yw trwy’r arddangosfa i raddedigion sy’n galluogi’r holl fyfyrwyr Rheoli Ffasiwn i ddangos eu gwaith gorau.”

Josh Crabtree
Prynu Ffasiwn a Rheoli Brand - Graddedig BA (Anrh)​