Israddedig>Pynciau>Seicoleg

Seicoleg

Mae ein graddau Seicoleg yn caniatáu ichi arbenigo mewn maes o ddiddordeb gan gynnwys Seicoleg Addysgol, Clinigol, Fforensig, ac o fewn maes Troseddeg.

Drwy ddefnyddio sgiliau a gafwyd o gyfuniad o’n cyfleusterau, datblygiad personol a phroffesiynol, a gwybodaeth ddamcaniaethol, byddwch yn dod yn unigolyn gyda gwybodaeth i lwyddo yn eich gyrfa.

Byddwch yn ennill profiadau ymarferol drwy leoliadau gwaith ac yn dod yn ymarferydd cyflogadwy a hyderus iawn.

Graddau Seicoleg
The British Psychological Society website  
 
 
Cyfleusterau

Cyfleusterau Seicoleg

Mae ein cyfarpar seicoleg yn cael ei gaffael gyda myfyrwyr mewn golwg, i’ch galluogi i gael dealltwriaeth ymarferol o ddechrau eich astudiaethau. O’r flwyddyn gyntaf un gyda ni byddwch yn defnyddio offer fel yr Electroencephalogram (EEG) — prawf sy’n mesur gweithgaredd trydanol yn yr ymennydd. Mae cyfleusterau seicoleg yn cynnwys; ystafelloedd addysgu unigol ar gyfer arbrofion ymddygiadol ac ystod o offer arbenigol gan gynnwys traciwr llygaid Tobii, EEG Biosemi, a darllenydd wyneb Noldus. Mae gennym hefyd labordy addysgu gydag amrywiaeth o gyfrifiaduron personol a nifer o unedau MP46s BIOPAC ar gyfer addysgu egwyddorion seicoffisioleg.

 
 
 
 
 

Tŷ Trosedd

Mae ein cyfleusterau pwrpasol yn y Tŷ Trosedd yn cynnwys ystafell ddalfa, ystafell arsylwi a gwyliadwriaeth, ac ystafell gyfweliadau dioddefwyr rhai a ddrwgdybir, sy’n rhoi cyfleoedd dysgu efelychiadol beirniadol i chi roi’r wybodaeth a’r sgiliau rydych chi’n eu dysgu ar waith.

 
 
 
 
 
 

“Fy hoff beth am y cwrs yw ei fod yn rhoi cyfle i chi arbenigo mewn rhai meysydd seicoleg ac rydych chi’n gallu dewis eich modiwlau blwyddyn olaf yn ôl eich diddordebau personol; roedd hyn yn hynod fuddiol i fy nyheadau seicoleg iechyd. Ar hyn o bryd, rwy’n gweithio fel Cynorthwyydd Addysgu Seicoleg graddedig, a ddaeth hefyd gyda chynnig i gwblhau PhD yn ymwneud â newid ymddygiad.”

Aleysha Caffoor
Myfyriwr Graddedig BSc (Anrh) Seicoleg a Chynorthwyydd Addysgu Seicoleg

 
 

“Fe wnes i syrthio mewn cariad ag amrywiaeth gradd EPSEN a gallu astudio cyfuniad o 3 phwnc ar wahân i roi gwybodaeth ddyfnach ohonynt i chi. Roedd archwilio materion addysgol ac anghenion dysgu ychwanegol o safbwyntiau seicolegol yn ddiddorol iawn!”

Chloe Edwards
Myfyriwr Graddedig BSc (Anrh) Addysg, Seicoleg ac Anghenion Addysgol Arbennig

 
 

“Ers cymhwyso rwyf wedi gweithio mewn ysbyty iechyd meddwl fforensig sy’n darparu asesiad a thriniaeth i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl ac sy’n gallu achosi niwed iddynt eu hunain neu eraill o bosibl. Gosododd fy ngradd seicoleg israddedig ym Met Caerdydd y sylfeini i mi allu symud ymlaen ar hyd y llwybr gyrfa hwn ac yn ddiamheuol fy helpu i gael gwaith.”

Daniel Lawrence
Myfyriwr Graddedig BSc (Anrh) Seicoleg

Cwrdd â’r Tîm