Bydd gradd o Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd yn rhoi’r offer i chi newid ein byd er gwell.
Yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd rydym yn arwain trwy esiampl i roi popeth sydd ei angen arnoch i lwyddo yn y sector creadigol. Byddwch yn cael eich addysgu gan arweinwyr diwydiant, gweithwyr ymchwil proffesiynol ac arbenigwyr technegol i hogi eich sgiliau. Bydd ein gweithdai a’n gofodau stiwdio pwrpasol yn eich helpu i archwilio eich creadigrwydd o fewn diwylliant stiwdio bywiog a chydweithredol.
Byddwch yn mireinio eich crefft ac yn datblygu eich sgiliau meddwl beirniadol trwy weithio ar friffiau byw a phrosiectau rhyngddisgyblaethol. Byddwch yn ychwanegu at y sgwrs trwy fynychu darlithoedd gwadd a rhwydweithio yn sîn greadigol ffyniannus Caerdydd. Byddwch yn cydweithio â myfyrwyr o ddisgyblaethau eraill fel rhan o’n
cwricwlwm rhyngddisgyblaethol arloesol.
Bydd gradd Celf a Dylunio o Met Caerdydd yn eich dysgu i feddwl yn fyd-eang. I fod yn entrepreneur. Ar gyfer y datryswyr problemau a’r meddylwyr creadigol. I’r rhai a fydd yn arweinwyr arloesol yfory.