Rhyddid Gwybodaeth

Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth (DRhG) 2000 yn darparu mynediad cyhoeddus at wybodaeth a gedwir gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae'n gwneud hyn mewn dwy ffordd:

  • Mae'n ofynnol i'r Brifysgol gyhoeddi gwybodaeth benodol am ei gweithgareddau; ac
  • Mae gan aelodau'r cyhoedd hawl i ofyn am wybodaeth gan y Brifysgol.

Mae'r Ddeddf yn ymdrin ag unrhyw wybodaeth wedi'i gofnodi a gedwir gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd sy'n cynnwys dogfennau argraffedig, ffeiliau cyfrifiadurol, llythyrau, e-byst, ffotograffau, a recordiadau sain neu fideo.

Nid yw'r Ddeddf yn rhoi mynediad i bobl at eu data personol eu hunain. Os ydych chi eisiau gweld y wybodaeth sydd gan y Brifysgol amdanoch chi, rhaid ichi wneud Cais am Fynediad diogelu data.

Mae Polisi Rhyddid Gwybodaeth Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn ddatganiad o ymrwymiad y Brifysgol i'r DRhG.

Cynllun Cyhoeddi

Yn ogystal ag ymateb i geisiadau am wybodaeth, rhaid i'r Brifysgol gyhoeddi gwybodaeth yn rhagweithiol. Felly mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r Brifysgol gael Cynllun Cyhoeddi.

Mae Cynllun Cyhoeddi'n ymrwymo'r Brifysgol i roi gwybodaeth ar gael i'r cyhoedd fel rhan o'i gweithgareddau busnes arferol. Ymysg y dosbarthiadau o wybodaeth y mae:

  • Pwy ydyn ni a'r hyn rydyn ni'n ei wneud;

  • Beth rydyn ni'n ei wario a sut rydyn ni'n ei wario;

  • Beth yw ein blaenoriaethau a ble rydyn ni arni;

  • Sut rydyn ni'n gwneud penderfyniadau;

  • Ein polisïau a'n gweithdrefnau;

  • Rhestrau a chofrestrau; a'r

  • Gwasanaethau rydyn ni'n eu cynnig.

Met Caerdydd Cynllun Cyhoeddi Rhyddid Gwybodaeth

Sut i ofyn am wybodaeth

Gall unrhyw un wneud cais Rhyddid Gwybodaeth, gan gynnwys sefydliadau fel papurau newydd.

I wneud cais am wybodaeth o dan y DRhG, bydd angen ichi:

 Gyflwyno eich cais yn ysgrifenedig i freedomofinfo@cardiffmet.ac.uk;

  • Gynnwys eich enw;

  • Gynnwys eich gwybodaeth gyswllt; a

  • Disgrifio'r wybodaeth rydych chi ei heisiau a sut yr hoffech ei derbyn.

 Nid oes angen ichi egluro pam rydych chi eisiau'r wybodaeth a ofynnoch amdani, er fe allai hynny helpu i nodi a chyflenwi'r union atebion i'ch cwestiynau mewn rhai amgylchiadau. Mae darparu rhif ffôn neu gyfeiriad e-bost hefyd yn ddefnyddiol ond nid yw'n orfodol.

Bydd peth o'r wybodaeth sydd gan y Brifysgol wedi'i chael gan drydydd parti neu bydd yn cynnwys cyfeiriad at drydydd parti. Wrth ystyried unrhyw geisiadau am y math hwn o wybodaeth, ymgynghorir â'r trydydd parti cyn cyflenwi'r wybodaeth y gofynnir amdani. Os hoffech gael eich hysbysu cyn i'r ymgynghori hwn ddechrau, rhowch wybod inni pan fyddwch chi'n gwneud eich cais.

Methu â Chydymffurfio â'r Ddeddf

Os ydych chi'n credu bod Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi methu â chydymffurfio â'r Ddeddf, ei Chynllun Cyhoeddi, neu os ydych chi'n credu nad ymdriniwyd yn briodol â chais a wnaethoch neu eich bod chi'n anhapus â chanlyniad yr ystyriaeth a roddwyd i gais, gallwch ofyn am Adolygiad Mewnol yn y lle cyntaf.

Gweithdrefn i ddelio ag unrhyw anghydfodau neu gwynion sy'n deillio o ganlyniad neu'r ymdriniaeth â chais am wybodaeth yw Adolygiad Mewnol. Mae Adolygiadau Mewnol yn dangos ymrwymiad y Brifysgol i fod yn agored ac yn dryloyw.

I gael rhagor o wybodaeth am sut mae'r Brifysgol yn cynnal Adolygiad Mewnol, gweler: Sut i ofyn am wybodaeth gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd

Os hoffech ofyn am Adolygiad Mewnol, gwnewch gais yn ysgrifenedig i: freedomofinfo@cardiffmet.ac.uk

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Gorfodir y DRhG gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sydd â'r pŵer i ymchwilio i gwynion a, lle bo angen, gorchymyn datgelu gwybodaeth sy'n destun dadl. Gall yr ICO hefyd wneud canfyddiadau ynghylch y graddau y mae'r Brifysgol wedi cydymffurfio â dyletswyddau gweithdrefnol y DRhG a chyda'r ddyletswydd statudol i gynghori a chynorthwyo.

Gwybodaeth gyswllt yr ICO yw:

 www.ico.org.uk

Swyddfa Cymru

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth - Cymru

Yr Ail Lawr, Tŷ Churchill,

Caerdydd,

CF10 2HH

Swyddfa Lloegr

Information Commissioner's Office,

Wycliffe House,

Water Lane,

Wilmslow,

Cheshire SK9 5AF