Hafan>Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd

Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd

Wedi’i lleoli ar draws campws Cyncoed a Llandaf, mae’r Ysgol yn cynnig graddau sy’n canolbwyntio ar gyflogadwyedd ym meysydd pwnc Addysg, Dyniaethau, Polisi Cymdeithasol ac Addysg Gychwynnol i Athrawon.

Yn gartref i Bartneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon, un o’r canolfannau addysg a hyfforddiant athrawon mwyaf yn y DU, mae gennym dros 60 mlynedd o brofiad ac enw rhagorol am ansawdd ein darpariaeth hyfforddiant athrawon.

Mae ein graddedigion yn hynod fedrus ac yn gwbl barod ar gyfer y byd gwaith. Mae ein cysylltiadau rhagorol ag ysgolion, diwydiant, cyrff proffesiynol a’r gymuned, yn darparu profiadau gwaith gwerthfawr a chyfleoedd i chi ddysgu gan staff addysgu arbenigol ac ennill cymwysterau ychwanegol, i wneud i chi sefyll allan.

Gweld Ein Cyrsiau

Wedi’i lleoli ar draws campws Cyncoed a Llandaf, mae’r Ysgol yn cynnig graddau sy’n canolbwyntio ar gyflogadwyedd ym meysydd pwnc Addysg, Dyniaethau, Polisi Cymdeithasol ac Addysg Gychwynnol i Athrawon.

Yn gartref i Bartneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon, un o’r canolfannau addysg a hyfforddiant athrawon mwyaf yn y DU, mae gennym dros 60 mlynedd o brofiad ac enw rhagorol am ansawdd ein darpariaeth hyfforddiant athrawon.

Mae ein graddedigion yn hynod fedrus ac yn gwbl barod ar gyfer y byd gwaith. Mae ein cysylltiadau rhagorol ag ysgolion, diwydiant, cyrff proffesiynol a’r gymuned, yn darparu profiadau gwaith gwerthfawr a chyfleoedd i chi ddysgu gan staff addysgu arbenigol ac ennill cymwysterau ychwanegol, i wneud i chi sefyll allan.

Croeso - neges gan y Deon

​​​​​​
Myfyriwr mewn gofod dysgu

Ein Cyrsiau

Archwiliwch ein hystod o gyrsiau israddedig, ôl-raddedig ac ymchwil mewn Addysg, y Dyniaethau a Pholisi Cymdeithasol.
Dewch o hyd i’ch cwrs

Aelod o staff mewn ystafell gyfarfod

Ein Staff

Dewch i gwrdd â’n staff tra medrus o bob rhan o’r Ysgol:
Tudalennau Proffil Staff
Fideos: Cwrdd â’r Tîm

Ein Cyfleusterau

Archwiliwch ein cyfleusterau arbenigol helaeth, yn darparu cyfleoedd dysgu seiliedig ar ymarfer i’n myfyrwyr.
Darganfod mwy

Myfyrwyr ar y campws

Diwrnodau Agored

Dysgwch fwy am ein Diwrnodau Agored ar y campws ac ar-lein.
Archebu Diwrnod Agored

Partneriaeth Caerdydd ar gyfer AGA

Partneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon - Cydweithio ag athrawon, ar gyfer athrawon, fel athrawon, i ysbrydoli meddyliau dyfodol Cymru.
Darganfod mwy

Bartneriaeth Caerdydd

Hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o athrawon.

Mae Met Caerdydd yn gartref i Bartneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon, un o’r canolfannau addysg a hyfforddiant athrawon mwyaf yn y DU. Mae gennym dros 60 mlynedd o brofiad ac enw da rhagorol o ansawdd ein darpariaeth hyfforddi athrawon.

Wedi’u hachredu gan Gyngor y Gweithlu Addysg, mae cyrsiau’n cynnwys.

- BA Addysg Gynradd gyda SAC
- TAR Cynradd
- TAR Uwchradd

Dysgwch fwy am Bartneriaeth Caerdydd.

Athro dan hyfforddiant yn y dosbarth

Addysg

Mae ein hanes hir o ddarparu addysg ym Met Caerdydd yn ymestyn i raddau israddedig arbenigol yn y Blynyddoedd Cynnar, Addysg Gynradd a Seicoleg ac Anghenion Addysgol Arbennig, ynghyd ag ystod eang o opsiynau astudio ôl-raddedig ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus.

Dewch o hyd i’ch cwrs

Myfyriwr gyda gliniadur a gwerslyfrau

Dyniaethau

Ym Met Caerdydd rydym yn cynnig cyfres o raddau israddedig ac ôl-raddedig cyffrous ar draws y pynciau Saesneg, Ysgrifennu Creadigol, y Cyfryngau a Newyddiaduraeth.

Dewch o hyd i’ch cwrs.

Gweithiwr cymdeithasol gyda phlentyn

Polisi Cymdeithasol

Rydym yn darparu graddau achrededig proffesiynol ym maes Polisi Cymdeithasol ar draws ystod o bynciau, gan gynnwys Gwaith Cymdeithasol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Tai, Plismona Proffesiynol, Troseddeg, Cymdeithaseg, Polisi Cymdeithasol, a Gwaith Ieuenctid a Chymuned.

Dewch o hyd i’ch cwrs

Ymchwil ac Arloesedd

Dysgwch fwy am weithgareddau ymchwil a graddau yn Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd.
Darganfod mwy

Mae gan yr Ysgol ystod eang o ddiddordebau ymchwil ac mae wedi’i threfnu’n dri grŵp.

- Celfyddydau a Dyniaethau
- Addysg ac Addysgeg
- Polisi Cymdeithasol

Mae gan yr Ysgol hefyd gysylltiadau ymchwil Addysg gyda’r Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd a’r Ysgol Gelf a Dylunio gyda ffocws rhyngddisgyblaethol.

Byddem yn croesawu ac yn eich annog i gysylltu â ni os ydych am gydweithio â ni ar brosiectau ymchwil neu os ydych yn ystyried ymgymryd ag un o’n graddau ymchwil.

Mae’r Ysgol hefyd yn cynnal cyfres o Seminarau Ymchwil gyda siaradwyr gwadd ac aelodau o’r grwpiau yn cyflwyno.

Dysgwch fwy am ein hymchwil

Profiad Myfyrwyr a Graddedigion
Arweiniodd fy ngradd Cyfryngau at fy swydd ddelfrydol mewn newyddiaduraeth

Mae Aamir, un o raddedigion y cyfryngau, yn blogio am ei amser ym Met Caerdydd a chyfleoedd lleoli sydd wedi ei helpu i ddod yn newyddiadurwr arobryn.

Darllen mwy

Pam penderfynu dewis astudio Addysg Blynyddoedd Cynnar yn ddwyieithog

Darllenwch pam y penderfynodd Aaron astudio Addysg Blynyddoedd Cynnar ac Ymarfer Proffesiynol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Darllen mwy

Rhoddodd Gwaith Ieuenctid a Chymunedol hyder newydd i mi a swydd rwy'n ei charu

Mae Mark, sydd wedi graddio bellach, yn sôn am ddatblygu ei hyder a’i bortffolio o brofiad gwaith yn gyflym a arweiniodd at sicrhau swydd amser llawn fel gweithiwr camddefnyddio sylweddau.

Darllen mwy

Fy mhrofiad ar y cwrs TAR Uwchradd yn Gymraeg ac ysbrydoli yn y dosbarth gyda Dylunio a Thechnoleg

Mae Naomi yn sôn am ei chariad at addysgu Dylunio a Thechnoleg yn yr ysgol, manteision astudio drwy gyfrwng y Gymraeg a’i hawgrymiadau gwych ar gyfer astudio TAR Uwchradd.

Darllen mwy

O BA i MA Ysgrifennu Creadigol a sicrhau fy interniaeth yn Firefly Press

Mae Athena yn blogio am ei hastudiaethau ar y cwrs MA, cyhoeddi ei gwaith a sut mai ei lleoliad interniaeth oedd y profiad gwaith gorau a gafodd.

Darllen mwy

Fy MA Addysg a thaith i yrfa mewn ymchwil

Mae Sammy yn siarad am ei draethawd hir MA Addysg fel moment allweddol a arweiniodd at swydd PhD Ymchwil a newid gyrfa.

Darllen mwy