Israddedig>Pynciau>Addysg, Blynyddoedd Cynnar ac Addysg Gynradd

Addysg, Blynyddoedd Cynnar ac Addysg Gynradd

Opsiynau astudio Cymraeg a Saesneg | Hanes hir o ddarparu addysg a hyfforddiant i athrawon

Drwy ddewis astudio gradd Addysg, Blynyddoedd Cynnar neu Addysg Gynradd ym Met Caerdydd byddwch yn ymuno ag Ysgol academaidd sydd wedi bod yn darparu Addysg a Hyfforddiant i Athrawon ers 75 mlynedd a mwy ac sy’n cael ei chydnabod fel un o’r canolfannau addysg a hyfforddiant i athrawon mwyaf yn y DU. Mae pob un o’n cyrsiau’n cynnwys lleoliadau gwaith dewisol neu orfodol, sy’n rhoi cyfle i chi ennill profiad gwaith allweddol i hybu’ch siawns o gael swydd.

Mae gennym gysylltiadau rhagorol ag ysgolion, cyflogwyr a’r gymuned ar gyfer darlithoedd gwadd, digwyddiadau a theithiau, a byddwch yn cael eich addysgu gan ddarlithwyr sy’n gwneud gwaith ymchwil ac yn arbenigwyr yn eu maes gwaith ac yn ymroddedig i ddarparu amgylchedd dysgu cefnogol, o ansawdd uchel.

Graddau Addysg, Blynyddoedd Cynnar ac Addysg Gynradd

Statws Athro Heb Gymhwyso (QTS):


Mae llawer o’n myfyrwyr yn parhau â’u hastudiaethau ar lefel ôl-raddedig i ennill statws athro cymwysedig mewn lleoliad cynradd, ac rydym yn falch o warantu mynediad i’r cam cyfweld ar gyfer ein cwrs Cynradd TAR i’r rhai sy’n bodloni’r meini prawf mynediad.


Addysg Gynradd yn arwain at Statws Athro Cymwysedig (QTS):


Addysg Gynradd gyda Statws Athro Cymwysedig – BA (Anrh) *

Addysg Gynradd (gyda Statws Athro Cymwysedig) – BA (Anrh) *

* Cyflwynir fel rhan o Bartneriaeth Caerdydd ar gyfer Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon a’i achredu gan y Cyngor Gweithlu Addysg


Cwrs israddedig 3 blynedd yw’r cwrs BA (Anrh) Addysg Gynradd gyda Statws Athro Cymwysedig sy’n arwain at ddyfarnu gradd anrhydedd a statws athro cymwysedig. Gellir astudio rhan o’r radd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd y cwrs yn eich paratoi chi fel athro dan hyfforddiant i fod yn ymarfeydd medrus iawn, hyderus, arloesol, sy’n myfyrio’n feirniadol ac sy’n ymroddedig i ddysgu proffesiynol gydol oes ac addysg pobl ifanc.

Byddwch yn datblygu’r gwerthoedd a’r ymagweddau a fydd yn eich gwneud yn addas iawn i gael eich cyflogi ac yn barod i ymateb i ofynion yr ystafell ddosbarth.

Cardiff Partnership for ITE website  
Education Workforce Council website  
 
 
Cyfleusterau
 
 

Byddwch yn cael defnyddio ein cyfleusterau gwych ar y campws fel ein Canolfan Ddysgu Awyr Agored, mannau seminar a gweithdai pwrpasol ar gyfer gweithgareddau ymarferol, yn cynnwys labordai celf, cyfryngau, dylunio a gwyddoniaeth.

Mae ein ‘Tŷ Froebel’ newydd yn cynnig mannau dan do ac awyr agored integredig i fyfyrwyr ar draws yr holl raddau addysg i wella’ch profiad dysgu, a fydd yn cynnwys chwarae bloc, clai, gwaith coed a garddio.

 
 

“Cynyddodd fy hyder yn aruthrol wrth astudio ym Met Caerdydd drwy gyfarfod pobl newydd, darlithwyr, cyflwyniadau unigol, profiad gwaith a llawer mwy. Roedd darlithwyr a staff y radd yn wych, roedden nhw’n ein nabod yn unigol ac ro’n i’n teimlo bod hyn wedi rhoi’r hyder angenrheidiol i mi ar gyfer y cyfnod ar ôl graddio. Roedd hi’n teimlo ein bod ni’n un teulu mawr yn astudio ym Met Caerdydd. Mae fy ngradd wedi fy ngalluogi i ddilyn fy mreuddwyd o agor fy musnes fy hun gan roi’r hyder a’r hwb ro’n i ei angen. Dwi wedi defnyddio fy ngwybodaeth a’m dealltwriaeth o’m gradd i sefydlu Little Dinos Role Play Centre, sy’n darparu amgylchedd hwyliog a diogel i blant archwilio eu dychymyg a bod yr hyn a fynnant.”

Ffion Thompson
BA (Anrh) – Addysg Gynnar ac Ymarfer Proffesiynol gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar (SYBC)

 
 

"Ar y radd BA Addysg Gynradd gyda SAC rydyn ni’n astudio trwy gyfuniad o ddarlithoedd a seminarau. Yn ystod seminarau rydyn ni’n derbyn profiad ymarferol o feddalwedd a rhaglenni sy'n gallu addysgu ac ysbrydoli plant, y rhan fwyaf ohonynt fyddwn i byth wedi dod ar eu traws fel arall! Mae'r seminarau hyn hefyd yn ymdrin â phynciau fel gwyddoniaeth, llythrennedd, rhifedd, cerddoriaeth a chelf. Rydyn ni’n cael ein haddysgu am y pynciau hyn ac yn ehangu ein gwybodaeth, yn ogystal â sut i'w haddysgu gan arbenigwyr cynnwys sydd wedi addysgu'r pynciau hyn ers sawl blwyddyn. Mae'r seminarau wedi bod yn hynod ddiddorol a defnyddiol i’ch paratoi ar gyfer profiadau ysgol sydd i ddod. Roeddwn i’n nerfus am fynd ar leoliad ysgol, ond dwi wedi dod yn gyffyrddus yn gyflym yn yr ystafell ddosbarth.”

Beau Fryer
BA (Anrh) Addysg Gynradd gyda Statws Athro Cymwysedig

 
 

“Fe syrthiais i mewn cariad ag amrywiaeth y radd EPSEN a’r cyfle i astudio cyfuniad o 3 phwnc gwahanol i roi gwybodaeth ddyfnach i chi amdanynt. Cyn mynychu'r Brifysgol roedd gen i brofiad o weithio gyda phlant ag anableddau. Roedd hyn yn rhywbeth oedd o ddiddordeb mawr i mi – fe wnes i fwynhau gweithio gyda phobl ag anghenion ychwanegol ac roeddwn i’n gyffrous i ddysgu mwy tra yn y brifysgol. Mae Met Caerdydd yn gefnogol iawn gyda’r lleoliadau gwaith, fe wnaethon nhw fy nghyflwyno i'r asiantaeth rydw i'n gweithio iddi ar hyn o bryd sy'n rhoi llawer o waith i mi mewn ysgolion a wnes i ar fy niwrnod i ffwrdd. Fe wnes i gwblhau fy lleoliad gyda’r asiantaeth hon hefyd – gyda chefnogaeth y brifysgol oedd yn golygu fy mod yn cael fy nhalu i ddysgu!”

Chloe Edwards
​​BSc (Anrh) Addysg, Seicoleg ac Anghenion Addysgol Arbennig

​​
 
 

“Cyn dod i’r Brifysgol fe fues i’n gweithio am ddeuddeg mlynedd fel gweinyddydd mewn Adran Anghenion Addysgol Arbennig Llywodraeth Leol. Un o’m hofnau wrth fynd i Brifysgol oedd bod yr hynaf yno a pheidio cael fy nerbyn gan y myfyrwyr eraill ond mae fy nhiwtoriaid a’r myfyrwyr wedi bod mor gefnogol. Hyfforddiant ysgol y goedwig yw un o’m hoff bethau, yn ogystal â gweithio mewn Uned Ymddygiad ysgol sy’n faes yr hoffwn ganolbwyntio arno yn y dyfodol. Mae’r profiad gwaith hwn wedi bod yn amhrisiadwy, nid dim ond yn ariannol ond o ran y profiadau sydd wedi helpu i wneud popeth dwi wedi’i ddysgu mewn darlithoedd a seminarau’n fwy perthnasol.”

Helen Keegan
BA (Hons) Asudiaethau Addysg Gynradd

​​​
Cwrdd â’r Tîm