Mae ein casgliad o raddau
Polisi Cymdeithasol ym Met Caerdydd yn eich galluogi i ddatblygu’r sgiliau, y wybodaeth a’r hyder yn eich pwnc dewisol a’ch dyheadau gyrfa – o weithio yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r sector Tai i gymhwyso fel Gweithiwr Cymdeithasol neu Weithiwr Ieuenctid a Chymuned proffesiynol. Mae gennym radd mewn Plismona Proffesiynol hefyd os oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn Gwnstabl yn yr Heddlu, gradd gyffrous mewn Troseddeg a gradd Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol newydd ar gyfer myfyrwyr sy’n dechrau yn 2024.
Mae ein holl gyrsiau’n cael eu datblygu ar y cyd â diwydiant, cyrff proffesiynol, grwpiau defnyddwyr gwasanaethau, ac arbenigwyr academaidd ac yn cynnwys lleoliadau gwaith dewisol neu orfodol, sy’n darparu profiadau gwaith gwerthfawr a’r cymwysterau proffesiynol rydych eu hangen i wella’ch siawns o gael swydd a ffynnu.
Byddwch yn cael eich addysgu gan ein staff addysgu arbenigol a siaradwyr gwadd sy’n ymweld, ac yn cael y cyfle i ddatblygu cysylltiadau rhwydweithio hanfodol. Mae opsiynau astudio llawn amser a rhan-amser, yn cynnwys Tystysgrif Sylfaen, HND, a graddau BA/BSc ar gael hefyd.
Rydym yn falch bod ein cynfyfyrwyr yn fedrus iawn ac yn gwbl barod ar gyfer byd gwaith, gan wneud gwahaniaeth yn y gymuned a thu hwnt. Mae llawer o’n myfyrwyr yn llwyddo i gael swyddi rhan-amser neu lawn amser cyn graddio yn sgil natur ymarferol ein graddau Polisi Cymdeithasol.