Israddedig>Pynciau>Peirianneg

Peirianneg

Canolfan Flaenllaw ar gyfer Peirianneg Roboteg yn y DU

Ym Met Caerdydd, mae ein graddau Peirianneg wedi’u cynllunio i’ch paratoi chi ar gyfer gyrfa a fydd yn llywio dyfodol technoleg peirianneg.

Yn Ysgol Technolegau Caerdydd mae yna ffocws arbenigol ar beirianneg roboteg a pheirianneg systemau electronig a chyfrifidurol, sy’n darparu mynediad i labordai a chyfarpar o’r radd flaenaf i wella’ch dysgu ymarferol. Byddwch yn cael eich addysgu gan staff sy’n gwneud gwaith ymchwil ac yn flaenllaw yn eu meysydd a chewch gyfle i gefnogi prosiectau ymchwil gweithredol.

Mae ein graddau wedi’u cynllunio gyda ffocws ar gyflogadwyedd ac entrepreneuriaeth cymdeithasol. Cewch eich annog i ennill profiad yn y diwydiant drwy flwyddyn lleoliad ddewisol.

 
 
Graddau Peirianneg
Cyfleusterau

Taith Rithwir – Ysgol Dechnolegau Caerdydd

Mae Ysgol Dechnolegau Caerdydd yn cynnwys labordai uwch-dechnoleg a mannau addysgu pwrpasol, mannau dysgu agored ar gyfer cydweithio a hyb ymchwil ar gyfer myfyrwyr PhD a mannau cymdeithasol.

Mae’r mannau’n fodern ac wedi’u dylunio i fod yn hyblyg, felly gallwch weithio, ymlacio neu gymdeithasu â myfyrwyr eraill. Gallwch chi hyd yn oed ollwng rhywfaint o stêm trwy chwarae gêm o foosball neu trwy geisio curo’r sgôr uchaf ar ein peiriant gêm fideo MAME. Profwch fyd anhygoel VR yn ein bythau datblygu VR a dysgwch mewn ffordd wirioneddol unigryw.

Mae’r Ysgol ar daith ehangu uchelgeisiol a fydd yn gweld mwy o gyfleusterau arloesol yn cael eu datblygu yn y blynyddoedd nesaf i gefnogi’n dysgu, addysgu ac ymchwil.

Darganfod mwy

 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

“Mae cyrsiau peirianneg yn cynnwys llawer o waith ymarferol ac mae Ysgol Dechnolegau Met Caerdydd wedi darparu ar gyfer hynny’n wych. Mae ein cwrs wedi edrych yn benodol ar lawer o wahanol elfennau o ddylunio cylchedau ac adeiladu, rhaglennu a mathemateg peirianneg. Un o’r aseiniadau mwyaf diddorol i mi oedd rhaglennu robot fel ‘gwarchodwr diogelwch’ ymdeimladol a oedd â’r gallu i sganio cardiau adnabod i gadarnhau hunaniaeth rhywun!”

Matthew Fry
Peirianneg Systemau Cyfrifiadurol ac Electronig MEng (Anrh)

Cwrdd â’r Tîm