Israddedig>Pynciau>Gwyddor Bwyd, Maeth a Dieteteg

Gwyddor Bwyd, Maeth a Dieteteg

Mae ein gradd BSc (Anrh) sydd wedi’i hachredu’n broffesiynol, mewn Gwyddor Bwyd a Maeth ym Met Caerdydd yn ddablygiad cyffrous sy’n ymateb i anghenion y diwydiant i ddarparu graddedigion hyfforddedig ar gyfer y sector diwydiant bwyd byd-eang. Byddwch yn dysgu am ddatblygiad bwydydd newydd, a sut y gall bwydydd effeithio ar iechyd, llesiant, ac atal clefydau, yn ogystal â chysyniadau a datblygiad bwyd i ansawdd, diogelwch ac arloesedd yn y sector. Gallwch ddewis rhwng dau lwybr: Gwyddor Bwyd a Maeth (Maethiad Dynol) neu Wyddor Bwyd a Maeth (Ansawdd, Diogelwch ac Arloesedd).

Mae ein gradd Maethiad Dynol a Dieteteg sydd wedi’i hachredu’n broffesiynol yn cael ei hariannu’n llawn gan Gynllun Bwrsariaeth y GIG. Byddwch yn cwblhau tri lleoliad clinigol fel rhan o’ch dysgu lle byddwch yn cael cymhwyso eich gwybodaeth academaidd, sy’n golygu y byddwch yn graddio fel dietegydd cofrestredig.

Mae yna gyfle hefyd i barhau â’ch astudiaethau drwy ddilyn un o’n rhaglenni Gwyddor Bwyd, Maeth neu Ddieteteg ôl-raddedig.

Graddau Gwyddor Bwyd, Maeth a Dieteteg

Gwyddor Bwyd a Maeth – BSc (Anrh) (gyda llwybrau mewn Maeth Dynol ac Ansawdd, Diogelwch ac Arloesedd) *

Maethiad Dynol a Dieteteg – BSc (Anrh) **

* Achredwyd gan y Gymdeithas Faeth (llwybr Maeth Dynol) a’r Sefydliad Gwyddor Bwyd a Thechnoleg (llwybr Ansawdd, Diogelwch ac Arloesedd)
** Achredwyd gan Cymdeithas Ddeieteg Prydain (BDA) a’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC)
** Wedi’i hariannu’n llawn gan fwrsari’r GIG gyda hyfforddiant seiliedig ar waith wedi’i gynnwys drwy’r rhaglen mewn labordai wedi’u hachredu gan y GIG

Association for Nutrition website  
Institute of Food Science and Technology website  
British Dietetic Association website  
Health & Care Professions Council website  
 
 
Cyfleusterau
 

Canolfan y Diwydiant Bwyd

Mae gan Ganolfan ZERO2FIVE y Diwydiant Bwyd enw da yn rhyngwladol am ymchwil i ddiogelwch bwyd ac mae’n darparu arbenigedd, hyfforddiant a chyngor i’r diwydiant bwyd a diod.

Mae myfyrwyr sy’n astudio graddau Gwyddor Bwyd a Maeth ym Mhrifysgol Met Caerdydd yn elwa ar gael cysylltiad agos â staff yn ZERO2FIVE ac yn cael defnyddio ei chyfleusterau sydd o’r radd flaenaf. Maent yn cynnwys cyfleusterau prosesu bwyd peilot, ceginau profi a datblygu ac ystafell werthuso synhwyraidd. Yn ogystal, mae myfyrwyr yn elwa ar y cysylltiadau sydd gan ZERO2FIVE â’r diwydiant bwyd a diod, gan ddarparu cyfleoedd am friffiau datblygu cynnyrch newydd bywyd go iawn ac astudiaethau achos, lleoliadau diwydiannol a swyddi i raddedigion.

 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

“Ar ôl i mi orffen ail flwyddyn fy ngradd dewisais gwblhau lleoliad diwydiannol 12 mis gyda Brecon Foods. Fy rôl gyda’r cwmni oedd Technolegydd Bwyd dan Hyfforddiant, yn gweithio yn yr adran datblygu cynnyrch newydd. Yn ystod fy nghyfnod yno, treuliais amser yn y gegin datblygu cynnyrch newydd yn creu ryseitiau newydd ac yn ail-lunio hen rai. Cefais gyfle i weithio gyda gwahanol frandiau o fwyd babi – a chael fy synnu eu bod yn blasu mor dda! Roedd hi’n wych cael defnyddio’r holl sgiliau a ddysgais yn y Brifysgol yn yr amgylchedd gwaith, a dwi’n gallu cysylltu’r hyn a ddysgais ar y lleoliad i aseiniadau a darlithoedd hefyd sydd wedi rhoi hwb gwirioneddol i’m hyder!”

Beth Beynon
BSc (Anrh) Gwyddor Bwyd a Thechnoleg

 
 

“Mae gan y cwrs ym Met Caerdydd hanes hir o hyfforddi dietegwyr ac mae hefyd yn cynnig teitl gwarchodedig cydnabyddedig ar ôl graddio sy’n eich galluogi i ymarfer yn gyfreithlon fel dietegydd proffesiynol. Yn ogystal, gellir ei ariannu gan Gronfa Cymorth Dysgu’r GIG ar gyfer y rhai sy’n byw yng Nghymru. Yn ystod fy mhrofiad yn y sioe arddangos ‘Quest for Health’, gwelais drosof fy hun pa mor effeithiol yw’r sgiliau yr oeddem wedi bod yn ymdrin â nhw yn ein darlithoedd mewn sefyllfa byd go iawn a pha mor frwdfrydig mae plant pan fyddant yn cymryd rhan yn y dysgu gan ddefnyddio sgiliau cyfathrebu syml ond effeithiol.”

Brendon Harper
BSc (Anrh) Maethiad Dynol a Dieteteg

Cwrdd â’r Tîm

Ali Birrane – Darlithydd mewn Maeth a Dieteteg

Graddiais o Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd (UWIC) nôl yn 2005 ar ôl cwblhau’r Diploma Ôl-raddedig mewn Deieteg mi es ymlaen i gofrestru fel Deietegydd a gweithio mewn sawl lleoliad gwahanol drwy gydol fy 15 mlynedd yn gweithio yn y GIG ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Roedd fy rôl fel Deietegydd yn cwmpasu arbenigeddau clinigol mewn lleoliadau aciwt, yn gweithio yn y gymuned yn addysgu defnyddwyr gwasanaeth i helpu i reoli eu cyflyrau iechyd cronig ac yn ddiweddarach yn arwain ar fentrau a phrosiectau iechyd cyhoeddus yn hwyluso cyrsiau Maeth Agored Cymru. Tyfodd hyn fy niddordeb mewn addysgu eraill gan fy arwain at ddarlithio ym Met Caerdydd, lle graddiais peth amser yn ôl. Rwyf bellach yn addysgu ar y cwrs BSc Maeth Dynol a Deieteg, Diploma Ôl-raddedig mewn Deieteg a Chwrs Addysgwyr Ymarfer Uwch ar lefel Meistr, yn ogystal â’r cwrs Sylfaen sy’n arwain at y cyrsiau Maeth a Deieteg. Fel darlithydd, rwy’n mwynhau meithrin sgiliau cyfathrebu myfyrwyr, yn ogystal ag addysgu mewn meysydd arbenigol megis meysydd arennol, iechyd y cyhoedd, amrywiaeth ddiwylliannol a deiet, maeth cylch oes plant oedran ysgol, y glasoed a phobl ifanc. Rwyf ar hyn o bryd yn cwblhau Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Ymarfer Academaidd ac yn cymryd swydd tiwtor derbyniadau ar gyfer y cwrs BSc Maeth Dynol a Deieteg.

James Blaxland – Uwch Ddarlithydd mewn Microbioleg

​Dechreuodd fy nhaith academaidd drwy gael fy ysbrydoli mewn labordy microbioleg tywyll yn fy nyddiau coleg yng Nghernyw, lle roeddwn wedi cyffroi i weld rhai o’r parasitiaid sydd wedi eu hadfer o gleifion!! Deuthum i Met Caerdydd yn 2006 a chwblhau fy BSc ac MSc mewn Gwyddorau Biofeddygol (Microbioleg Feddygol) cyn ymgymryd â PhD mewn microbioleg fferyllol yn yr Ysgol Fferylliaeth, Prifysgol Caerdydd. Roedd fy PhD yn canolbwyntio ar nodi cydrannau newydd o hopys a phrofi eu gallu i ddinistrio pathogenau sy’n gwrthsefyll cyffuriau! Rhywbeth y mae fy myfyrwyr presennol yn ei wneud o hyd. Yn dilyn fy PhD gweithiais ar brosiectau gydag Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU, Porton Down; Cyn symud i rôl ymgysylltu â’r cyhoedd gan ddod ag addysgu microbioleg i ysgolion cynradd yn Ne Cymru. Roedd gweld y diddordeb yn y bobl ifanc hyn pan ddysgon nhw am facteria a firysau wir yn canolbwyntio fy ngyrfa ac rwy’n falch o ddweud ei fod wedi fy arwain yn ôl i Met Caerdydd.