Wedi’u datblygu ar y cyd a’i achredu gan gyrff proffesiynol, yn cynnwys y Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM) a’r Sefydliad Marchnata Digidol (DMI) a diwydiant, bydd ein graddau
Marchnata arbenigol mewn Marchnata Digidol, Hysbysebu, Brand, Digidol, Cysylltiadau Cyhoeddus, a Gwerthiant yn ogystal â’n gradd mewn Rheoli Marchnata yn eich galluogi chi i ennill y wybodaeth academaidd a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i gael swydd yn y diwydiant marchnata creadigol sy’n newid yn barhaus.
Byddwch yn cael eich addysgu gan arbenigwyr academaidd, siaradwyr gwadd ac yn cael defnyddio meddalwedd arbenigol y diwydiant a fydd yn arwain at ddull ‘dysgu trwy wneud’. Mae yna gangen myfyrwyr fywiog o’r Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM) sy’n rhoi cyfle i chi gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol sy’n gysylltiedig â’ch astudiaethau.
Er mwyn sicrhau eich bod chi’n cael profiad ymarferol, byddwch yn cwblhau lleoliad gwaith gorfodol yn ystod yr ail flwyddyn ac yn cael cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol ac entrepreneuraidd gyda chyrff proffesiynol fel y Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM). Mae myfyrwyr blaenorol wedi perfformio’n gyson dda yng nghystadleuaeth ‘Pitch’ y CIM – cystadleuaeth farchnata genedlaethol i fyfyrwyr – lle rydych yn ymuno â’ch cydfyfyrwyr i gyflawni her farchnata o’r byd go iawn, wedi’i gosod gan frand byd-eang blaenllaw.
Mae ôl-raddedigion wedi mynd ymlaen i weithio i asiantaethau creadigol sy’n rheoli ymgyrchoedd hysbysebu cenedlaethol, swyddi fel rheolwyr cyfrifon mewn asiantaethau cysylltiadau cyhoeddus a mwy, gydag eraill yn dechrau eu busnesau eu hunain. Mae’r holl raddedigion mewn sefyllfa dda hefyd i gael eu heithrio o gymwysterau proffesiynol fel Tystysgrif CIM mewn Marchnata Proffesiynol a’r Diploma mewn Martchnata Proffesiynol.