Ym Met Caerdydd, mae ein graddau
Busnes a Rheoli o ansawdd uchel sy’n berthnasol yn broffesiynol wedi’u cynllunio i ddatblygu’ch gwerthfawrogiad beirniadol o’r rôl y mae rheolwyr yn ei chyflawni mewn diwydiant. Byddwch yn ennill y sgiliau, yr hyder a’r wybodaeth angenrheidiol ar gyfer dull aml-ddisgyblaeth o ymdrin â phroblemau busnes a rheoli amrywiol.
Mae ein casgliad o gyrsiau’n cwmpasu llawer o elfennau busnes a rheoli i’ch galluogi i ddatblygu sgiliau yn eich maes diddordeb waeth beth fo’ch dyheadau gyrfa – boed yn rheoli busnes, rheoli hedfanaeth neu entrepreneuriaeth. Mae ein cyrsiau wedi’u cynllunio ar y cyd â diwydiant, arbenigwyr academaidd, a chyrff achrededig, fel y gallwch fod yn hyderus bod yr hyn rydych yn ei ddysgu’n cyd-fynd ag anghenion diwydiant ac yn eich paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus.
Byddwch yn cael cyfleoedd i ennill profiad mewn diwydiant, cyflawni lleoliad blwyddyn ryngosod, gweithio ar brosiectau byw a chlywed gan siaradwyr gwadd wrth i chi ennill profiad ymarferol, datblygu’ch rhwydwaith proffesiynol a chynllunio ar gyfer eich nodau gyrfa.