Astudio>Cyngor i Ymgeiswyr>Sut i Wneud Cais

Sut i Wneud Cais

​​​​Mae nifer o wahanol weithdrefnau ymgeisio ar gyfer y gwahanol fathau o gyrsiau ar gael ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae'n bwysig eich bod yn defnyddio'r weithdrefn gywir i sicrhau bod eich cais yn ein cyrraedd..​ 

Mae'r wybodaeth a'r prosesau ymgeisio isod yn berthnasol yn unig ar gyfer ymgeiswyr Cartref ac UE.

Cliciwch yma i gael gwybodaeth ar sut i wneud cais fel ymgeisydd rhyngwladol.

Myfyrwyr Israddedig Llawn Amser

Mae ein cyrsiau HND/Gradd israddedig amser llawn i gyd wedi'u lleoli yng Nghampws Llandaf neu Cyncoed gan gychwyn ym mis Medi bob blwyddyn. Os ydych chi am wneud cais ar gyfer un o'r cyrsiau yma, bydd angen i chi wneud cais trwy UCAS http://www.ucas.com. Gallwch wneud cais drwy broses ymgeisio arferol UCAS hyd at ddiwedd mis Mehefin, a thrwy wasanaeth Clirio UCAS ar ôl mis Mehefin. Mae'r mwyafrif o'n cyrsiau'n derbyn ceisiadau drwy'r flwyddyn ond cysylltwch â Derbyniadau i gadarnhau a oes dyddiad cau penodol ar gyfer eich dewis chiy cwrs o'ch dewis. Os gwnewch gais yn rhywle arall ac yna newid eich meddwl, mae Met Caerdydd hefyd yn derbyn ceisiadau drwy UCAS Extra. Mae UCAS Extra yn rhoi 6ed dewis i chi rhag ofn y byddwch yn newid eich meddwl neu ddim yn derbyn y cynigion yr oeddech chi’n eu disgwyl oddi wrth eich dewisiadau gwreiddiol. Ceir gwybodaeth bellach am UCAS Extra yma.

Mae gennym hefyd nifer o raglenni HND a Gradd Sylfaen sy'n cael eu rhedeg mewn partneriaeth â cholegau lleol – Coleg Caerdydd a'r Fro a Choleg Pen-y-bont ar Ogwr. Mae ganddyn nhw nifer o leoliadau gan gynnwys dau gampws yng Nghaerdydd. Os hoffech wneud cais am un o'r cyrsiau hyn gallwch ymgeisio’n uniongyrchol i'r coleg neu drwy UCAS. Gellir gweld manylion y cyrsiau a sut i wneud cais o dan ein A-Z o Gyrsiau Israddedig.

Hefyd, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n darllen y wybodaeth ar dudalennau Cyn i chi Ymgeisio i gael rhai awgrymiadau.

TAR: Hyfforddiant Athrawon UCAS

Cyrsiau ôl-raddedig ar gyfer ymgeiswyr sydd eisoes wedi cwblhau gradd ac sy'n dymuno dod yn athrawon cymwys yw ein cyrsiau TAR. Mae'r cyrsiau i gyd yn rai blwyddyn llawn amser gan ddechrau ym mis Medi.;

Os ydych chi am wneud cais am gwrs hyfforddi athrawon TGAU, gwnewch gais trwy gyfrwng Hyfforddiant Athrawon UCAS http://www.ucas.com/

Myfyrwyr Ôl-raddedig, Proffesiynol a Rhan-Amser

Dylid gwneud ceisiadau Ôl-raddedig (ac eithrio PGCE Cynradd ac Uwchradd), Proffesiynol a Rhan-amser yn uniongyrchol i Derbyniadau trwy system Hunanwasanaeth Met Caerdydd. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Myfyrwyr Ymchwil

Dylid gwneud ceisiadau ymchwil yn uniongyrchol i Derbyniadau. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Uwchraddio

Myfyrwyr Caerdydd wedi eu lleoli yn Llandaf neu Cyncoed
Os ydych chi'n fyfyriwr cyfredol ym Met Caerdydd (yn astudio ar Flwyddyn Sylfaen neu HNC/D) ac yn dymuno uwchraddio i raglen israddedig, bydd angen i chi ddechrau drwy gysylltu â'ch Cyfarwyddwr Rhaglen a chwblhau Ffurflen Datganiad o Fwriad. Ceir mwy o wybodaeth yma.

Bydd angen i Gyfarwyddwr y Rhaglen hysbysu'r Gofrestrfa Academaidd wedyn os caniateir i chi fwrw ymlaen. Mae'r broses hon yn eithrio'r rhai sy'n gwneud cais am BSc Technoleg Ddeintyddol, BSc Gwyddorau Gofal Iechyd, BSc Maeth Dynol a Dieteg, BSc Podiatreg, BSc Gwaith Cymdeithasol a BSc Therapi Lleferydd ac Iaith BSc. Yn yr achosion yma, rhaid gwneud ceisiadau trwy UCAS (http: // www .ucas.com /) gan fod gan fod yna gyfyngiadau ar leoedd ar y rhaglenni yma neu eu bod yn cael eu hariannu gan y GIG neu NLIAH.

Os nad ydych wedi mynegi diddordeb i symud ymlaen ac wedi cael dyfarniad, bydd angen i chi ailymgeisio drwy UCAS (http://www.ucas.com/).

Partneriaeth Masnachfraint y DU
Os ydych chi'n fyfyriwr sy'n astudio yn un o'n colegau partneriaeth masnachfraint ar raglen israddedig amser llawn, ac yn dymuno uwchraddio, neu ddefnyddio'r hyn rydych chi wedi'i gyflawni, i symud ymlaen i lefel wahanol ym Met Caerdydd, gallwch wneud hynny fel trosglwyddiad mewnol. Trafodir uwchraddio pan fyddwch chi'n agosáu at ddiwedd eich cwrs Gradd FdN/HNC/HND, ac os ydych chi’n dymuno, yna bydd angen i chi gwblhau Datganiad o Fwriad i Gynnydd. Bydd hyn yn caniatáu i'n Tîm Cofrestru ddiweddaru eich cofnod cofrestru ar y cwrs newydd, unwaith y bydd eich dyfarniad wedi'i gadarnhau gan y byrddau arholi.

Partneriaeth Dramor
Os ydych chi'n fyfyriwr sy'n astudio yn un o'n sefydliadau partneriaeth dramor, ac yn dymuno uwchraddio neu ddefnyddio trosglwyddiad credyd i astudio ym Met Caerdydd, bydd angen i chi ymgeisio drwy UCAS (http://www.ucas.com/). Yn dibynnol ar eich cymwysterau, byddwch yn derbyn cynnig a gwybodaeth ynghylch cychwyn ym Met Caerdydd.

Trosglwyddo

Os hoffech chi ymuno â Met Caerdydd i barhau â'ch astudiaethau, bydd angen i chi wneud cais newydd drwy UCAS (yn achos myfyriwr israddedig amser llawn) neu drwy ein system ymgeisio Hunanwasanaeth (yn achos cyrsiau ôl-raddedig a phroffesiynol).

Yn y lle cyntaf, mae croeso i chi anfon prawf o'ch astudiaethau cyfredol atom fel y gallwn asesu a phenderfynu cynnig lle i chi ai peidio a phennu pa flwyddyn sy’n addas i chi ymuno â hi. Dibynna hyn ar natur eich astudiaethau cyfredol ac os ydynt yn cyd-fynd â chynnwys ein cwrs er mwyn i ni allu ganiatáu Dysgu Blaenorol Cydnabyddedig (RPL) i chi. Am wybodaeth bellacham y broses RPL, cliciwch yma.


Newid Cyrsiau tra'ch bod chi'n fyfyriwr ym Met Caerdydd
Os ydych chi'n fyfyriwr cyfredol ym Met Caerdydd ac yn dymuno trosglwyddo i raglen arall o fewn Met Caerdydd, bydd angen i chi ddechrau drwy gysylltu â Chyfarwyddwr Rhaglen y cwrs rydych chi am ymuno ag ef er mwyn asesu eich addasrwydd. O gytuno i’r trosglwyddiad, bydd angen i chi ofyn i Diwtor eich Cwrs blaenorol lenwi ffurflen drosglwyddo fewnol a hysbysu'r Gofrestrfa Academaidd er mwyn newid manylion eich rhaglen o fewn y system myfyrwyr. Nid fydd angen i chi fynd drwy'r broses Dderbyn unwaith eto.

Gadael Caerdydd i fynd i Brifysgol Coleg arall
Os ydych chi'n ystyried gadael Met Caerdydd i barhau â'ch astudiaethau yn rhywle arall, cysylltwch â'ch tiwtor personol yn y lle cyntaf i drafod eich opsiynau. O benderfynu gadael wedyn, bydd angen i'ch tiwtor lenwi Ffurflen Tynnu'n Ôl ar gyfer y Gofrestrfa Academaidd i dynnu eich enw nôl yn ffurfiol o'ch cwrs.​

Gohirio

Derbynia Prifysgol Metropolitan Caerdydd geisiadau gohiriedig ar gyfer y mwyafrif o’n cyrsiau israddedig. Bydd angen i chi nodi'ch blwyddyn mynediad berthnasol wrth wneud eich cais drwy UCAS a chwrdd â'ch holl amodau cynnig yn ystod y flwyddyn rydych chi'n gwneud cais. Sylwer, oherwydd niferoedd targed cyfyngedig a’r lleoliadau sydd ar gael, ni allwn dderbyn ceisiadau gohiriedig ar gyfer y cyrsiau canlynol – BSc Therapi Lleferydd ac Iaith / BSc Maeth Dynol a Dieteg / BSc Gwyddor Gofal Iechyd / BSc Gwaith Cymdeithasol / BSc Podiatreg / BSc Gofal Iechyd Cyflenwol.

Personél y Lluoedd Arfog

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn ddarparwr dysgu cofrestredig dan gynllun ELCAS y Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer personél y lluoedd arfog sy'n dymuno astudio cwrs prifysgol. Ceir mwy o wybodaeth yma.

Ceisiadau aeddfed

Myfyriwr aeddfed yw unrhyw un dros 21 oed nad aeth i'r brifysgol ar ôl bod mewn ysgol neu goleg. Ym Met Caerdydd, rydym yn croesawu pobl o bob oed i'n cyrsiau israddedig. Mae ymgeiswyr aeddfed yn penderfynu cychwyn ar addysg uwch am nifer o resymau – er mwyn newid cyfeiriad efallai neu ddatblygu eu gyrfa.

UCAS has produced some useful information for applicants over the age of 21 which may help you with the application process. Further information can be found here.

Mae ein myfyrwyr aeddfed yn ymgeisio am amrywiaeth eang o gyrsiau, a gallant ddod â sgiliau a phriodoleddau o feysydd eraill tebyg. Mae blogiau ein myfyrwyr yn dangos i chi sut mae rhai o'n myfyrwyr aeddfed wedi ymgolli ym mywyd myfyrwyr ym Met Caerdydd.

Gwledydd â sancsiynau​​

Mae gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd rwymedigaeth gyfreithiol i gydymffurfio â sancsiynau a orfodir gan lywodraeth y DU, cyfundrefnau sancsiynau’r DU - GOV.UK (www.gov.uk​).

Fel y cyfryw​, nid ydym yn gallu cael arian ar gyfer ffioedd dysgu a thaliadau am lety a gwasanaethau eraill ar y campws lle tarddodd yr arian hwnnw o wlad a grybwyllir yng nghyfundrefn sancsiynau’r DU.

Mae hefyd yn ofynnol i ni fod yn wyliadwrus o drosglwyddo technoleg gyfyngedig trwy addysgu neu gymryd rhan mewn cydweithrediadau ymchwil. Mae hyn yn golygu bod unrhyw ymgeisydd sy’n gwneud cais o wlad a ganiateir ar lefel ôl-raddedig neu uwch, ar gyfer cwrs pwnc STEM cymhwysol a allai arwain at allforio meddalwedd neu dechnoleg sensitif, y gellid ei defnyddio ar gyfer potensial milwrol (gan gynnwys adeiladu arfau Dinistrio Torfol). efallai na fydd modd cynnig lle. Mae cyrsiau y mae hyn yn effeithio arnynt yn cynnwys yr holl raglenni yn ein Hysgol Dechnoleg a chyrsiau Dylunio Cynnyrch yn yr Ysgol Celf a Dylunio.

Mae angen i ymgeiswyr rhyngwladol sy’n destun rheolaeth fewnfudo yn y DU, sy’n bwriadu astudio ar lefel ôl-raddedig mewn rhai pynciau sensitif, y gellid defnyddio gwybodaeth amdanynt mewn rhaglenni i ddatblygu arfau dinistr torfol neu eu dull o’u cyflwyno, wneud cais i’r Cynllun Cymeradwyo Technoleg Academaidd ar gyfer tystysgrif ATAS cyn y gallant astudio yn y DU.

Cyfeirir unrhyw bryderon ynghylch myfyrwyr sy’n gweithio gyda thechnoleg sensitif at Gynllun Cymeradwyo Technoleg Academaidd llywodraeth y DU.