Skip to main content
Hafan>Swyddi ym Met Caerdydd
Campws Llandaf Met Caerdydd

Cyfleoedd Swyddi ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd

​​​​​​​​​​​​​Mae Met Caerdydd yn brifysgol ​flaengar, sy'n gweithio gyda phwrpas, effaith a thosturi i wneud economïau yn fwy llewyrchus, cymdeithasau'n decach, diwylliannau'n gyfoethocaf, amgylcheddau'n wyrddach a chymunedau'n iachach. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â'n myfyrwyr a'n staff i drawsnewid bywydau a chymunedau trwy ein haddysg o ansawdd uchel, effaith uchel, wedi'i llywio gan ein hymchwil a'n harloesedd arloesol.

Mae gan ein corff cynyddol o staff a myfyrwyr dros 1,600 o staff craidd a thros 25,000 o gofrestriadau myfyrwyr; Mae 23% yn fyfyrwyr rhyngwladol o dros 130 o wledydd gyda dros 33% yn astudio rhaglenni ôl-raddedig. Mae gennym 13,500 ychwanegol o fyfyrwyr mewn 13 o wledydd ar draws y byd yn astudio ein rhaglenni drwy ein 13 o bartneriaid addysg byd eang. Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio’n gynhwysol ac i sicrhau amgylcheddau dysgu cynhwysol ac mae gan ein staff synnwyr cryf o gymuned ynghyd â manteision bywyd uchel ei ansawdd a hynny mewn dinas brifysgol llawn egni o dros 50,000 o fyfyrwyr.

Mae ein Prifysgol flaengar wedi datblygu, wedi amrywio ac wedi gwella’n sylweddol dros y cyfnod strategol diwethaf ac wedi llwyddo i gynyddu ei throsiant o lai na £100m yn 2017 i dros £150m yn 2023. Yn 2020 cafodd y Brifysgol ein henwi’n 'Brifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2021' gan The Sunday Times; yn 2021 cawsom ein henwi’n 'Brifysgol y Flwyddyn y DU ac Iwerddon' gan y Times Higher Education ac yn 2022 cawsom ein rhestru fel y brifysgol orau yn y DU am gynaliadwyedd yng Nghynghrair Werdd People and Planet a’r brifysgol orau yng Nghymru yn yr Arolwg Hynt Graddedigion.

Mae ein gwerthoedd o greadigrwydd, arloesedd, cynwysoldeb ac ymddiriedaeth, a gefnogir gan ein hymddygiad o arweinyddiaeth, dewrder, atebolrwydd ac ystwythder yn cael eu hategu gan egwyddorion rhyddid academaidd ac ymreolaeth sefydliadol sy'n ein harwain wrth i ni gydweithio ar draws y byd.

Os rydych eisiau ymuno â'n cymuned ddylanwadol, cydweithredol a thosturiol, edrychwch isod ar ein cyfleoedd presennol. Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer rhybuddion swydd gan glicio ar y ddolen ar ein tudalen chwilio am ​swydd.

Teitl swydd
Ysgol / Adran
Dyddiad Cau
Canolfan Diwydiant Bwyd
30/04/2024
Canolfan Diwydiant Bwyd
07/05/2024
Chwaraeon Met Caerdydd
29/04/2024
Tîm Gweinyddol Addysg, Polisi Cymdeithasol, Chwaraeon ac Iechyd
21/04/2024
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd
23/04/2024
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd
29/04/2024
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd
08/05/2024
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd
06/05/2024

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.


Buddion Allweddol Gweithio ym Met Caerdydd

Amdanom Ni

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd, gyda’i gwreiddiau yn mynd yn ôl i 1865, yn gyrru trawsnewid addysgol a chymdeithasol, mae’n gatalydd ar gyfer arloesedd a’r economi ac yn gyfrannwr allweddol i dwf cynhwysiad a chynaliadwy yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mewn partneriaeth â’n myfyrwyr, staff a’n rhanddeiliaid, rydyn ni’n trawsnewid bywydau drwy addysg uchel ei ansawdd, uchel ei effaith yn seiliedig ar ymchwil ac arloesedd blaengar. Mae ein hymdrechion cydweithredol yn ymestyn o'n dau gampws yng Nghaerdydd i ysgolion, colegau, busnes, diwydiant, elusennau, llywodraeth a chymunedau yn lleol, yn genedlaethol, yn rhyngwladol, yn cynnwys drwy ein partneriaethau addysg traws-genedlaethol helaeth. Mae ein gwerthoedd yn llywio ein hymdrechion gyda phwrpas, gyda thosturi ac effaith i wneud economïau yn fwy ffyniannus, cymdeithasau yn decach, diwydiannau’n gyfoethocach,amgylcheddau'n wyrddach a chymunedau’n iachach.

Mae gogwydd portffolio academaidd Prifysgol Metropolitan Caerdydd tuag at addysg ac ymchwil sy’n ffocysu ar ymarfer a’ chael cydnabyddiaeth yn broffesiynol. Mae ein rhaglenni a addysgir yn gydnaws ag agenda ymchwil ac arloesedd y Brifysgol ac yn cyflenwi’r amgylchedd o ran effaith ar ystod eang o feysydd ar draws meysydd celf, dylunio a’r amgylchedd, busnes a rheolaeth, addysg a pholisi cymdeithasol, chwaraeon a gwyddorau iechyd a gwyddorau digidol a data, cyfrifiadureg, roboteg a thechnolegau peirianyddol.

Mae ein agenda twf, sydd wedi’i gwireddu drwy ddatblygu dros 60 o raglenni gradd newydd ers 2019 ac sydd wedi’i hamlygu gan gynnydd mewn trosiant o bron i 50% dros y chwe mlynedd diwethaf, yn cael ei llywio gan ein gwerthoedd a’n ffocws ar ein pobl. Mae ein staff wedi gosod Met Caerdydd yn ddewis gyflogwr gorau Capita ymhlith prifysgolion y DU 2019 a 2020; ac yn 2022 ein sgôr ymgysylltu â staff oedd yr uchaf yn y sector (People Insight). Mae Arolwg Rhagoriaeth Ymchwil Ôl-raddedig wedi’n gosod ar ben rhestr y DU ar gyfer adnoddau a chymorth yn 2022; ac mae ein myfyrwyr a addysgir wedi cael eu cynorthwyo i greu busnesau cychwynnol ar ôl graddio sy’n ein gosod yn gyson ymhlith 10% o brifysgolion gorau’r DU.

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi cael ei rhestru fel y brifysgol orau yn y DU am gynaliadwyedd yng Nghynghrair Werdd People and Planet 2022/23. Cynghrair Werdd People & Planet yw’r unig dabl cynghrair cynhwysfawr ac annibynnol sy’n rhestru holl brifysgolion y DU yn ôl perfformiad amgylcheddol a moesegol. I ychwanegu at yr anrhydedd hwn, mae Met Caerdydd newydd gael ei rhestru fel prifysgol haen aur yn Adroddiad Prifysgolion Gwyrdd Uswitch 2022, sy’n amlygu ymrwymiad prifysgolion y DU i gynaliadwyedd. Mae Met Caerdydd wedi gweithio’n helaeth mewn sawl maes, sydd wedi arwain at fanteision enfawr i fyfyrwyr, staff ac aelodau’r gymuned.

I ddarllen mwy amdanom i, ewch i: Strategaeth 2030

Diwylliant

Mae ein diwylliant perfformiad uchel yn cael ei lywio gan ein harweinyddiaeth dosturiol a ategir gan werthoedd clir i ddarparu cwmpawd moesol sy’n arwain y sefydliad, gan ddod â’r gorau allan yn ein myfyrwyr a’n staff. Mae arweinyddiaeth dosturiol yn ymwneud â gwrando, arwain, hyfforddi a chefnogi pob aelod o’n cymuned i gyflawni eu potensial llawn gan ein galluogi i gyflawni ein huchelgeisiau.

Rydym wedi ymrwymo i gyfrifoldeb cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Mae ein haddysg, ein hymchwil a’n harloesedd yn sicrhau effeithiau cadarnhaol ar gydraddoldeb, cynhwysiant cymdeithasol a chynaliadwyedd amgylcheddol, yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Mae ein gwerthoedd o greadigrwydd, arloesedd, cynwysoldeb ac ymddiriedaeth, a gefnogir gan ein hymddygiad o arweinyddiaeth, dewrder, atebolrwydd ac ystwythder yn cael eu hategu gan egwyddorion rhyddid academaidd ac ymreolaeth sefydliadol sy’n ein harwain wrth i ni gydweithio ar draws y byd.

Gan gydnabod croestoriadedd ffactorau sy’n eithrio o addysg a manteision ac effeithiau addysg, byddwn yn parhau i fynd i’r afael â gwahaniaethu. Byddwn yn parhau i chwalu rhwystrau diwylliannol, gan wneud ein cymuned yn fwy cynhwysol a chynrychioliadol o’r rhai y ceisiwn eu gwasanaethu a byddwn yn datblygu ein pobl i adlewyrchu ein cymunedau amrywiol, gan fuddsoddi mewn meithrin y sgiliau a’r priodoleddau sydd eu hangen i weithio’n deg gydag unigolion a grwpiau o bawb cefndiroedd yng Nghymru, y DU ac yn fyd-eang.

Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i greu diwylliant cynhwysol iawn, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion heb gynrychiolaeth digonol yn y sector addysg uwch. Rydym yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg a chyfeillgar i deuluoedd ac amrywiaeth o rwydweithiau staff, fforymau a digwyddiadau i gefnogi a datblygu ein staff. Os hoffech ddysgu mwy am ein polisïau, ewch i’n Hyb Polisïau.

Lleoliad / Cymudo

Mae Met Caerdydd yn Brifysgol gynnes a chroesawgar sydd wedi’i lleoli ar draws dau gampws yn ninas brysur a bywiog Caerdydd, o fewn 5-10 munud o gerdded i’r holl brif gysylltiadau trafnidiaeth. Darllenwch fwy am ein lleoliad a’n campysau.

Rydym yn darparu amgylchedd iach a llewyrchus i staff, myfyrwyr a’r Gymuned leol. Darllenwch ein diweddariad diweddaraf yma.

Cyflog a Buddion

Mae gennym ystod o fuddion gwych i weithwyr gan gynnwys:

  • Gwyliau blynyddol hael: 25/35 ynghyd â 12 diwrnod consesiwn
  • Aelodaeth o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ac Athrawon gyda chyfraniadau hael
  • Cyfleoedd gweithio hyblyg ac o bell
  • Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd arobryn gydag aelodaeth â chymhorthdal
  • Therapi cyflenwol chymhorthdal
  • Mynediad at holl gyfleusterau’r llyfrgell
  • Cwnsela staff annibynnol yn rhad ac am ddim
  • Caplaniaeth
  • Talebau gofal llygaid am ddim a chyfraniadau tuag at ofal llygaid

Cydbwysedd Rhwng Bywyd a Gwaith

Rydym yn ymfalchïo mewn darparu amgylchedd gwaith sy'n cefnogi gweithwyr i gael y cydbwysedd cywir rhwng bywyd a gwaith trwy gynnig ystod o ddulliau gweithio hyblyg, gan gynnwys amser hyblyg a gweithio gartref hyblyg, a mentrau cyfeillgar i deuluoedd. Gwelwch ein rhestr gyfredol o swyddi gwag i archwilio cyfleoedd gweithio hyblyg.

Dilyniant a Datblygiad Gyrfa

Ein gweithwyr yw ein hased mwyaf ac mae buddsoddi mewn talent yn hanfodol i dwf a llwyddiant cynaliadwy. Rydym wedi ymrwymo i wella a datblygu ein cydweithwyr ac yn cynnig ystod eang o gyfleoedd datblygu personol a phroffesiynol.

Rydym yn cynnig mynediad i ystod eang o ddysgu a datblygu sy'n hygyrch, yn berthnasol ac yn ddeniadol. Mae hyn yn cynnwys datblygu sgiliau technegol perthnasol, hyfforddiant sgiliau digidol a chymwysterau, seminarau, gweithdai, rhaglenni, mentora a hyfforddi, a dysgu ar alw sy'n cwmpasu ystod eang o gymorth ar gyfer dysgu ac addysgu, ymchwil, arweinyddiaeth a rheolaeth o ansawdd uchel ac effeithiolrwydd personol.

Swyddi Gwag Cyfredol

Two women in conversation
Chwilio am Swydd i Ymgeiswyr Allanoll
Edrychwch ar y swyddi gwag cyfredol sydd ar gael ym Met Caerdydd, lle mae ein gwerthoedd wrth galon ein Prifysgol.
Cardiff Met staff at a computer
Chwilio am Swydd i Staff Met Caerdydd
Mewngofnodwch i'ch cyfrif Prifysgol Metropolitan Caerdydd i weld y swyddi gwag cyfredol a gwneud cais ar-lein.
HR Recognised Logos