Hafan>Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd

Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd

Rydym yn cynnig graddau rhyngddisgyblaethol creadigol israddedig ac ôl-raddedig i’ch paratoi ar gyfer gyrfaoedd heddiw a gyrfaoedd yn y dyfodol.

Dewiswch o ystod eang o ddisgyblaethau yn cynnwys Pensaernïaeth, Celf Gain, Ffotograffiaeth a Dylunio Mewnol.

Dewch i fod yn un o’n graddedigion hynod fedrus, yn barod i ymuno ag arweinwyr, meddylwyr ac entrepreneuriaid y dyfodol.

Gweithiwch gydag artistiaid, dylunwyr a gwneuthurwyr eraill ar draws y disgyblaethau, gan rannu sgiliau, syniadau a phrofiadau.

Datblygwch eich sgiliau a’ch profiad yng nghyd-destun cyfrifoldeb cymdeithasol, dinasyddiaeth fyd-eang, cynwysoldeb, llesiant a chreu dyfodol cynaliadwy.


Croeso

Mae Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd yn cynnig graddau creadigol israddedig ac ôl-raddedig.

Dewiswch o ystod eang o ddisgyblaethau yn cynnwys Pensaernïaeth, Celf Gain, Ffotograffiaeth a Dylunio Mewnol.

Dewch i fod yn un o’n graddedigion hynod fedrus, yn barod i ymuno ag arweinwyr, meddylwyr ac entrepreneuriaid y dyfodol.

Gweithiwch gydag artistiaid, dylunwyr a gwneuthurwyr eraill ar draws y disgyblaethau, gan rannu sgiliau, syniadau a phrofiadau.

Datblygwch eich sgiliau a’ch profiad yng nghyd-destun cyfrifoldeb cymdeithasol, dinasyddiaeth fyd-eang, cynwysoldeb, llesiant a chreu dyfodol cynaliadwy.

About Us

Amdanon Ni

Mae Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd yn gymuned lewyrchus o fyfyrwyr a staff gyda chwricwlwm blaengar a’r ffocws ar gyfrifoldeb cymdeithasol, cynaliadwyedd a chynwysoldeb.

Darganfod rhagor am yr ysgol

Our Courses  

Ein Cyrsiau

​Ystyriwch ein hystod eang o gyrsiau creadigol:

Cyrsiau Israddedig
Cyrsiau Ôl-radd
Cyrsiau Ymchwil

Curriculum

Ein Cwricwlwm

Mae ein cwricwlm rhyngddisgyblaethol arloesol yn caniatáu i’n myfyrwyr ehangu eu gorwelion a darganfod cysylltiadau creadigol newydd.

Darganfyddwch fwy am ein cwricwlwm unigryw

Our Facilities

Ein Cyfleusterau

Mae Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd yn cynnig ystod helaeth o gyfleusterau i’ch helpu i wireddu eich creadigrwydd, waeth pa ffurf fydd hynny.

Darllenwch ragor am ein cyfleusterau

Interview Days

Cyfweliadau a Phortffolios

Nid canlyniadau arholiad yn unig sy’n sicrhau lle yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd. Rydyn ni am wybod rhagor amdanoch chi fel unigolyn, ac fel artist, dylunydd neu wneuthurwr.

Darllenwch fwy am Gyfweliadau a Phortffolios

Our Staff

Arddangosfeydd Gradd

Mae ein sioeau gradd blynyddol yn arddangos y gwaith gorau y mae ein myfyrwyr israddedig ac ôl-radd wedi’i greu.

Sioe Radd Haf YDGC​
Sioe Meistr YGDC

Research and Innovation

Ymchwil ac Arloesi

Mae ein hymchwil celf a dylunio yn arwain y byd, ac wedi’i wreiddio mewn cydweithrediad â diwydiant, y sector cyhoeddus a sefydliadau cymunedol.

Darganfyddwch fwy am ein hymchwil

Cardiff Open Art School

Ysgol Gelf Agored Caerdydd

Mae Ysgol Gelf Agored Caerdydd (COAS) yn cynnig cyrsiau byr mewn ystod o ddisgyblaethau celf a dylunio ar gyfer pob lefel o brofiad.

Darganfyddwch fwy am ein cyrsiau byr

Proffiliau Staff

Ein staff addysgu yw ein hased mwyaf - mae ein myfyrwyr yn elwa o’u hangerdd, eu harbenigedd a’u profiad yn y diwydiant.

Cyfarfod â’n staff

Blogiau Myfyrwyr
Elin
Fy mhrofiad yn dysgu sgil cerameg newydd

Pan ddaw amser tymor i ben a gwyliau’r haf ar y gorwel mae’n hawdd teimlo’n rhwystredig fel myfyrwraig cerameg; oni bai eich bod yn ddigon ffodus i gael stiwdio gartref, fel y gwnes i, mynd adref a chyfrif y dyddiau nes bod gennych chi olwyn daflu neu gyfle i gynnau odyn eto.

Darllenwch Blog Elin

Ben
Dechrau’r bennod nesaf gyda chyfathrebu graffig ym met caerdydd ac aren Cymru

Datblygais fethiant yr arennau yn bythefnos oed gan fyw gydag un aren am dair blynedd ar ddeg nes i mi gael trawsblaniad gan fy mam.

Darllenwch Blog Ben

Gwenllian
Fy mhrofiad anhygoel yn gweithio yn y Venice Biennale gyda Cymru yn Fenis!

Am bum wythnos dros fis Mai a Mehefin eleni cefais y cyfle i fynd allan i Fenis am bum wythnos i weithio fel rhan o dîm Cymru yn Fenis yn y ‘Venice Biennale’ yn goruchwylio arddangosfa gelf Sean Edwards ‘Undo Things Done.’

Darllenwch Blog Gwenllian