Mae’r portffolio cyffrous o raddau
Chwaraeon rhyngddisgyblaethol, sy’n canolbwyntio ar gyflogadwyedd ym Met Caerdydd yn bodloni gofynion galwedigaethol marchnad sy’n ehangu mewn meysydd fel gwyddor chwaraeon, addysg gorfforol ac iechyd, cyfryngau chwaraeon, dadansoddi perfformiad a llawer mwy.
Mae ein graddau’n seiliedig ar ymchwil mwyaf blaenllaw’r byd ac yn cael eu darparu gan staff sy’n gwneud gwaith ymchwil ac ymarferwyr proffesiynol. Maent yn cynnig cysylltiadau â chyrff llywodraethu chwaraeon cenedlaethol a phartneriaid yn y diwydiant. Mae hyn yn golygu y byddwch chi’n datblygu’ch gwybodaeth a’ch sgiliau; yn cael llu o gyfleoedd i ennill profiad ymarferol a defnyddio cyfarpar a chyfleusterau arloesol, wrth baratoi at eich gyrfa o ddewis.
Mae ein menter Campws Agored yn eich galluogi i weithio’n uniongyrchol â phobl ifanc i ddarparu cyfleoedd chwaraeon, sy’n golygu y byddwch chi’n ennill profiad ymarferol amhrisiadwy.
Mae yna lawer o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau proffesiynol hefyd gan weithio gyda’n athletwyr a’n timau elite. Yn ogystal â hyn, byddwch yn cael cyfleoedd i fynd ar leoliad gwaith lle byddwch yn cymhwyso eich gwybodaeth ddamcaniaethol.
Fel Prifysgol rydym wedi’n gwreiddio yn ein cymuned, yn ymfalchïo mewn bod yn gynhwysol a chroesawgar. Mae chwaraeon yn dod â phobl at ei gilydd, ac yma ym Met Caerdydd rydym yn defnyddio pŵer chwaraeon i gefnogi, annog a chynnwys ein myfyrwyr, staff a’r gymuned ehangach.