Hafan>Ynglŷn â Ni>Ymwadiad

Ymwadiad

Mae'r hysbysiad cyfreithiol hwn yn berthnasol i holl gynnwys y wefan o dan yr enwau metcaerdydd.ac.uk, cardiffmet.ac.uk neu uwic.ac.uk ("y wefan"). Mae mynediad a'r defnydd a wneir gennych o'r safle hwn yn golygu eich bod yn derbyn y telerau a'r amodau hyn sy'n dod i rym o ddyddiad y defnydd cyntaf.

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn ceisio sicrhau bod y wefan hon a'r wybodaeth sydd ynddi yn gywir, yn gyfredol ac yn cael ei chyhoeddi'n ddidwyll. Gall Prifysgol Metropolitan Caerdydd wneud newidiadau i'r deunydd ar y wefan ar unrhyw adeg heb rybudd. Nid ydym yn gwneud unrhyw gynrychioliadau neu warantau o unrhyw fath, yn bendant neu'n ymhlyg, ynglŷn â chyflawnrwydd, cywirdeb, dibynadwyedd, addasrwydd neu argaeledd mewn perthynas â'r wefan neu'r wybodaeth neu'r graffeg gysylltiedig a gynhwysir ar y wefan at unrhyw ddiben. Mae unrhyw ddibyniaeth yr ydych yn ei rhoi ar wybodaeth o'r fath ar eich risg eich hun felly.

Ni fyddwn yn atebol mewn unrhyw achos am unrhyw golled neu ddifrod, gan gynnwys heb gyfyngiad, colled anuniongyrchol neu ganlyniadol neu ddifrod, neu unrhyw golled neu ddifrod o gwbl sy'n deillio o golli data neu elw sy'n deillio o ddefnyddio'r wefan hon neu mewn cysylltiad â hynny.

Ac eithrio fel y caniateir ar gyfer dibenion academaidd, personol neu rai anfasnachol eraill, rhaid i ddefnyddwyr beidio â chopïo, ailargraffu nac yn electronig atgynhyrchu o'r wefan unrhyw ddogfen, testun, graffig neu ddelwedd yn gyfan gwbl neu'n rhannol heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd, neu yn unol â Deddf Hawlfraint, dyluniadau a Phatentau 1988.

Drwy'r wefan hon rydych yn gallu cysylltu â gwefannau eraill nad ydynt o dan reolaeth Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Nid oes gennym reolaeth dros natur, cynnwys ac argaeledd y safleoedd hynny. Nid yw cynnwys unrhyw ddolenni o anghenraid yn awgrymu argymhelliad neu'n cymeradwyo'r cynnwys neu'r safbwyntiau a fynegir ynddynt.