Israddedig>Pynciau>Cyfryngau a Chyfathrebu

Cyfryngau a Chyfathrebu

P’un a ydych chi’n breuddwydio am fod yn newyddiadurwr neu’n ddarlledwr chwaraeon, eisiau gweithio ym maes marchnata, cyfathrebu digidol neu gysylltiadau cyhoeddus, neu ddefnyddio’ch sgiliau creadigol mewn ffyrdd eraill, mae gennym ni’r cwrs i chi ym Met Caerdydd.

Mae ein graddau yn y Cyfryngau a Chyfathrebu a Chyfryngau Chwaraeon yn eich paratoi ar gyfer byd gwaith. Cyfuno theori ag ymarfer ac astudio yng Nghaerdydd, un o’r canolfannau cyfryngau a diwydiannau creadigol mwyaf y tu allan i Lundain. Byddwch yn dysgu oddi wrth academyddion ac arbenigwyr sy’n weithgar ym maes ymchwil gan gynnwys newyddiadurwyr presennol a chyn-newyddiadurwyr, golygyddion, darlledwyr a gweithwyr proffesiynol y diwydiant.

Mae’r ddwy radd yn cynnig cyfle i chi ymgymryd â lleoliadau gwaith, neu hyd yn oed flwyddyn ar leoliad mewn diwydiant, gan roi profiad byd go iawn i chi a gwella eich rhagolygon gyrfa.

Cyfleusterau

Gyda buddsoddiad diweddar yn ein cyfleusterau fideo, digidol a sain, mae gan fyfyrwyr y cyfryngau fynediad at ystafelloedd cyfryngau Mac pwrpasol, a stiwdio wrthsain podlediad, fodlediad a darlledu. Mae gan fyfyrwyr Cyfryngau Chwaraeon gantri darlledu deulawr ar y cae rygbi a Thŵr Mwnci i ddarparu safle ffilmio uchel yn Arena’r Saethwyr wrth ffrydio pêl-rwyd a phêl-fasged.

 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

“Yn ystod y radd fe wnes i gwblhau modiwl lleoliad gwaith a rhoddodd hyn fy mewnwelediad cyntaf i newyddiaduraeth. Yn y diwedd fe wnes i gwblhau lleoliad wythnos gyda WalesOnline a llwyddais i gael cyngor a gwybodaeth werthfawr gan newyddiadurwyr profiadol. Ar ôl graddio, fe ges i swydd yn WalesOnline ac rydw i nawr yn gwneud y swydd rydw i’n ei charu, ddydd ar ôl dydd. Rwyf wedi rhoi sylw i bob math o straeon ac mae fy ngwaith wedi bod yn effeithio ar gymunedau ledled y DU. Fyddwn i ddim wedi gallu gwneud yr hyn rydw i wedi’i wneud heb fy ngradd a phrofiadau ym Met Caerdydd.”

Aamir Mohammed
Cyfryngau a Chyfathrebu – BA (Anrh)

 
 

“Rydw i wir wedi mwynhau’r darlithoedd ymarferol yn ystod fy nwy flynedd gyntaf ar y cwrs. Mae’r modiwlau ymarferol wedi cynnwys Cyfryngau Chwaraeon Digidol, Newyddiaduraeth Darlledu Chwaraeon a Diwylliant, y Cyfryngau, a Newyddiaduraeth Chwaraeon. Cawsom dasgau grŵp fel gwneud podlediadau am agweddau o ddiwylliant sy’n ymwneud â chwaraeon a chreu fideos hyrwyddo dyrchafol ar gyfer camp o’n dewis ni. Roedd y rhan hon o’r cwrs yn hynod ddefnyddiol i mi oherwydd ei fod yn cyd-fynd â’m dyheadau gyrfa.”

Alex Hyman
Cyfryngau Chwaraeon – BSc (Anrh)

Cwrdd â’r Tîm

“Cyn dod yn academydd roeddwn yn gweithio yn Llundain am 15 mlynedd fel newyddiadurwr llawn amser. Symudais ymlaen o fod yn Gynorthwyydd Golygyddol i fod yn Olygydd Cynorthwyol, yn Olygydd Rheoli ac yn Ddirprwy Olygydd Grŵp. Wrth weithio am nifer o flynyddoedd gyda gwahanol gyhoeddwyr a chylchgronau troes fy ffocws at fy angerdd – ffilm, ac at yrfa mewn newyddiaduraeth fasnach fel Golygydd Film and TV Production Review. Mae fy nghefndir mewn newyddiaduraeth a’r cyfryngau yn llywio ac yn sail i’r BA (Anrh) Cyfryngau a Chyfathrebu.”

Robert Taffurelli
Cyfarwyddwr Rhaglen Cyfryngau a Chyfathrebu – BA (Anrh)

“Mae ein graddau Cyfryngau yn addas ar gyfer y rhai sydd eisiau meddwl yn feirniadol ac yn greadigol. Fy athroniaeth addysgu yw meithrin cyfranogiad ac ymgysylltiad o fewn yr ystafell ddosbarth gyda ffocws penodol ar ddylunio gweithgareddau sy’n hyrwyddo dysgu gweithredol. Trwy gydol darlithoedd, seminarau a gweithdai mae myfyrwyr yn astudio’r cyfryngau trwy ddadleuon, trafodaethau, gweithgareddau datrys problemau, prosiectau grŵp a thasgau ymarferol annibynnol i sicrhau bod ein myfyrwyr nid yn unig yn gwrando ond yn ‘gwneud’ ac yn myfyrio ar eu gwaith.”

Nina Jones
Uwch Ddarlithydd Cyfryngau a Chyfathrebu – BA (Anrh)

“Dechreuodd fy nhaith fy hun i fyd y cyfryngau chwaraeon yn fy arddegau, gan weithio fel bachgen te yn fy mhapur newydd lleol yng Nghasnewydd. Roedd egni a bwrlwm yr ystafell newyddion yno wir wedi tanio rhywbeth ynof, ac roedd gweld gohebwyr chwaraeon yn mynd allan i gemau ar brynhawn Sadwrn yn golygu i mi weld bod yna yrfa a oedd yn cyfuno brwdfrydedd dros chwaraeon gyda’r cyfryngau. Pan wnes i gamu i mewn i’r BBC ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, roedd yn gromlin ddysgu serth iawn a chan ddefnyddio fy mhrofiadau yn y diwydiant rydyn ni wedi dylunio ein BSc mewn Cyfryngau Chwaraeon i’ch gwneud chi’n barod am waith.”

Steffan Garrero
Cyfarwyddwr Rhaglen Cyfryngau Chwaraeon – BSc (Anrh)