Mae Gwyddorau Biofeddygol a Gofal Iechyd yn ddisgyblaeth wyddonol ddynamig sy’n newid yn barhaus ac yn ymwneud â deall sut mae clefydau’n datblygu a sut y gallant effeithio ar weithrediad arferol y corff. Byddwch yn cael cyfle i ymdrin ag arbenigeddau fel Biocemeg, Hematoleg, Gwyddor Trallwysiad, Microbioleg, Feiroleg, Imiwnoleg, Bioleg Gellog a Molecwlaidd a Geneteg. Mae llwybrau Iechyd, Ymarfer Corff a Maeth ar gael hefyd.
Byddwch yn cael eich haddysgu gan dîm o wyddonwyr biofeddygol a gofal iechyd a byddwch yn cael defnyddio ein labordai ymarferol mawr, modern. Byddwch yn cynnal amrywiaeth o brosesau a gweithdrefnau labordy gan ddefnyddio technegau amrywiol i gymhwyso’ch gwybodaeth ddamcaniaethol mewn lleoliadau ymarferol – ar y campws ac mewn lleoliadau gwaith yn y byd go iawn.
Ar ôl cwblhau gradd achrededig broffesiynol mewn Gwyddorau Biofeddygol a Gofal Iechyd yn llwyddiannus ym Met Caerdydd byddwch yn cael cyfle i ddod yn Wyddonydd Biofeddygol cofrestredig a defnyddio’ch gwybodaeth wyddonol arbenigol a’ch sgiliau dadansoddi i ymchwilio i glefydau fel diabetes, canser a chlefyd cardiofasgwlaidd. Byddwch yn cael cyfle hefyd i barhau â’ch astudiaethau drwy ddilyn un o’n rhaglenni Gwyddor Biofeddygol ôl-raddedig.