Os ydych yn awyddus i fod yn rheolwr yn y diwydiannau Digwyddiadau, Gwestai, Lletygarwch a Thwristiaeth yna gall ein graddau ym Met Caerdydd gynnig y cyfleoedd i ddatblygu set sgiliau a rhwydweithio sydd eu hangen arnoch i ffynnu mewn amrywiaeth eang o yrfaoedd a sectorau.
Mae ein hanes o gynfyfyrwyr a chysylltiadau diwydiant llwyddiannus ar draws prifddinas Caerdydd, y DU yn ehangach ac yn rhyngwladol yn golygu ein bod ni’n gallu darparu cyfleoedd i chi ennill profiad ar draws pob sector o’r diwydiant beth bynnag fo’ch dyheadau gyrfa. Byddwn yn eich cefnogi i gwblhau interniaeth blwyddyn os ydych chi’n dewis y llwybrau gyrfa Interniaeth.
Mae ein graddau BA (Anrh) mewn Rheoli Lletygarwch Rhyngwladol a BA (Anrh) Rheoli Digwyddiadau’n cael eu hachredu’n broffesiynol gan y Sefydliad Lletygarwch a’n gradd BA (Anrh) mewn Rheoli Twristiaeth Ryngwladol yn cael ei hachredu gan y Sefydliad Rheoli Twristiaeth ac rydym yn falch o fod yn Bartner Addysgol i ABTA.
Mae ein Hystafelloedd Lletygarwch pwrpasol ar y safle a’r ceginau diwydiannol cysylltiedig yn eich galluogi i gymhwyso theori yn ymarferol ar ein graddau Lletygarwch a Rheoli Digwyddiadau.