Israddedig>Pynciau>Cyfrifeg, Economeg a Chyllid

Cyfrifeg, Economeg a Chyllid

​​

Mae graddau Cyfrifeg, Economeg a Chyllid ym Met Caerdydd wedi’u cynllunio gydag anghenion diwydiant mewn golwg gyda phwyslais cryf ar gymhwyso a dealltwriaeth feirniadol.

Mae ein graddau i gyd yn cynnig y dewis i chi o flwyddyn ‘brechdan’ mewn diwydiant i ennill profiad yn y byd go iawn a gwella’ch dysgu yn ymarferol.

Mae ein graddau Cyfrifeg wedi’u hachredu yn broffesiynol gan Gymdeithas y Cyfrifwyr Siartredig Ardystiedig (ACCA), Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli (CIMA) a Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (ICAEW). Ein BSc (Anrh) Economeg oedd y brifysgol newydd gyntaf i fabwysiadu’r cwricwlwm ‘CORE’ newydd i sicrhau bod eich dysgu wedi’i ddylunio gydag anghenion y diwydiant mewn golwg.

Byddwch yn cael eich cefnogi a’ch annog i ehangu eich gwybodaeth a datblygu eich sgiliau, eich hyder a’ch profiad i’ch paratoi ar gyfer llwyddiant gyrfa neu astudiaeth bellach yn eich maes dewisol. Bydd gennych fynediad at gyfleusterau arbenigol a meddalwedd ariannol, sy’n eich galluogi i ennill profiad ymarferol wrth i chi ddysgu.

Graddau Cyfrifeg, Economeg a Chyllid

Cyfrifeg – BA (Anrh) *

Cyfrifeg ac Economeg – BA (Anrh) *

Cyfrifeg a Chyllid – BA (Anrh) *

Bancio a Chyllid – BSc (Anrh)

Economeg – BSc (Anrh)

* Achredwyd gan Gymdeithas y Cyfrifwyr Siartredig Ardystiedig (ACCA), Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli (CIMA) a Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (ICAEW)


Cyrsiau Cysylltiedig:


Association of Certified Chartered Accountants website  
Chartered Institute of Management Accountants website  
Institute of Chartered Accountants in England and Wales website  
 
 
 
 

“Wrth ddeall pwysigrwydd profiad uniongyrchol, rwy’n ddiolchgar fy mod wedi cael y cyfle i internio ddwywaith gydag arweinydd byd-eang mewn gwasanaethau proffesiynol: EY Bermuda. Yn ystod y ddau interniaeth, cefais y cyfle amhrisiadwy i weithio o dan y ‘Consulting Service Line’ yn ogystal â’r ‘Llinell Gwasanaeth Strategaeth a Thrafodion’ lle rwyf wedi dod o hyd i ddiddordeb mawr.”

Marcus Scotland
BSc (Anrh) Economeg​

 
 

“Fe wnaeth Met Caerdydd fy helpu i lunio fy llwybr gyrfa drwy agor drysau i’r farchnad swyddi. Rwyf wedi sicrhau swydd ar ôl graddio trwy ymgymryd â blwyddyn leoliad yng Nghyllid y GIG a chymhwyso’r wybodaeth a ddysgwyd i mi yn ystod fy nghyfnod yn y brifysgol. Doedd cymryd y flwyddyn leoliad ddim yn fy nghynlluniau ond fe wnaeth Met Caerdydd fy annog a’m cefnogi drwy’r holl brofiad. Fe wnaeth y profiadau a wnes i yn y brifysgol wella fy sgiliau a datblygu fy nghyflogedd.”

Giedre Damaseviciute
Myfyriwr BSc (Anrh) Economeg / Uwch Gyfrifydd Rheoli yn Orbis Education and Care​

 
 

“Drwy astudio Cyfrifeg ym Met Caerdydd cefais fy swydd ddelfrydol fel Cyfrifydd Rheolaeth Ariannol y GIG. Mae’r Darlithwyr yn dysgu deunydd i chi a all arwain at achrediadau ACCA, ac yn rhoi cipolwg o’u profiadau personol eu hunain yn y diwydiant. Gall y wybodaeth yma eich helpu i lywio i faes cyfrifyddu a allai fod o ddiddordeb i chi ac mae cymaint o wahanol lwybrau gan fod angen cyfrifydd ar y rhan fwyaf o ddiwydiannau!”

Lauren Reilly
Myfyriwr BA (Anrh) Cyfrifeg / Cyfrifydd Rheoli Ariannol y GIG

 
 

“Erbyn diwedd fy ail flwyddyn, cefais gyfle gwych i ymweld â TP ICAP, cwmni brocer blaenllaw yng Nghanol Llundain. Cawsom daith o amgylch eu lloriau masnachu a siarad â’r masnachwyr am eu gwaith. Fe wnaethon ni gymryd rhan mewn gêm fasnachu a gafodd yr ystafell yn suo fel llawr masnachu go iawn ac fe wnaethon ni orffen y diwrnod gyda sesiwn rhwydweithio. Cawsom ein trin fel pobl bwysig, ac fe wnaethon ni i gyd ddysgu llawer am sut mae’r byd broceriaeth go iawn yn gweithio.”

Lijuan Chen
Myfyriwr BA (Anrh) Cyfrifeg a Chyllid / Cyswllt Cymorth ar gyfer Deloitte

 
 

“Roedd y modiwlau ar y cwrs Bancio a Chyllid i gyd yn ddiddorol, ac yn bwysicaf oll, yn berthnasol i’r hyn oedd yn digwydd yn y byd. Fe gafodd y ffyrdd gwahanol y cawsom ein hasesu argraff fawr arnaf – roedd angen traethodau ar rai modiwlau, cyflwyniadau ar eraill, a rhai yn defnyddio taenlenni excel neu bortffolios. I unrhyw un sy’n meddwl gwneud cais i astudio Bancio a Chyllid ym Met Caerdydd, ni allwn ei argymell yn ddigon, does dim byd mwy gwerth chweil na bod mewn man lle mae pawb eisiau dysgu ac ehangu eu gwybodaeth.”

Harry Simpson
BSc (Anrh) Bancio a Chyllid

​Cwrdd â’r Tîm