Ym Met Caerdydd, mae ein graddau Cyfrifiadureg a Thechnolegau Creadigol wedi’u cynllunio i’ch paratoi chi ar gyfer gyrfa sy’n llywio dyfodol technoleg.
Mae darlithoedd, sesiynau tiwtorial a gweithdai ymarferol yn cyfuno ein hymchwil aml-ddisgyblaethol â senarios ymarferol sy’n seiliedig ar achosion o fywyd go iawn gan ein partneriaid o fyd diwydiant a thechnoleg. Cewch gyfleoedd niferus i ehangu’ch gwybodaeth a pharatoi ar gyfer swyddi’r dyfodol. Mae pob cwrs yn cynnig blwyddyn ryngosod mewn diwydiant, a rhai’n cynnig yr opsiwn i ganolbwyntio ar lwybrau arbenigol.
Gallwch hefyd ddewis cael cymwysterau proffesiynol ychwanegol, ymuno â’n canolfannau ymchwil a’n labordai fel intern israddedig, neu gymryd rhan mewn cystadlaethau, prosiectau a theithiau astudio rhyngwladol lle byddwch yn ymuno â myfyrwyr eraill ar friffiau bywyd go iawn.
Os ydych am weithio ym myd diwydiant, lansio eich cwmni eich hun, neu fynd i fyd ymchwil a datblygu, bydd ein graddau yn eich paratoi chi drwy roi’r hyder, y profiad a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ffynnu yn y sector technoleg.