Hafan>Newyddion>Yr Athro Rachael Langford yn dechrau ar ei swydd newydd fel Is-Ganghellor

Yr Athro Rachael Langford yn dechrau ar ei swydd newydd fel Is-Ganghellor

​Newyddion | 1 Chwefror​ 2024
​​
Mae’r Athro Rachael Langford FRSA wedi dechrau’n swyddogol yn ei swydd newydd fel Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Metropolitan Caerdydd heddiw (dydd Iau 1 Chwefror 2024). 

Yr Athro Rachael Langford​


Mae penodiad yr Athro Langford yn dilyn dwy flynedd fel Dirprwy Is-ganghellor ym Met Caerdydd a daw â chyfoeth o brofiad mewn arweinyddiaeth academaidd effeithiol ar draws addysgu, ymchwil, ymgysylltu byd-eang a chenhadaeth ddinesig i’r rôl.  

Dywedodd yr Athro Langford: “Mae’n anrhydedd ac yn gyffrous i fod yn ymgymryd â’r rôl hon ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, prifysgol sydd â hanes sylweddol o lwyddiant mewn addysgu, ymchwil a gweithgaredd dinesig sy’n gwneud gwahaniaeth byd go iawn. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda staff, myfyrwyr, a chorff llywodraethu’r Brifysgol i gyflawni ein strategaeth uchelgeisiol sy’n cefnogi llwyddiant hirdymor myfyrwyr a chymunedau. 

“Mae hwn yn gyfnod heriol i bob sefydliad addysg uwch, ond gwn pa mor ymroddedig a galluog yw ein cydweithwyr a’n myfyrwyr. Gan weithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang, byddwn yn parhau i ddatblygu addysg ac ymchwil sy’n ymgysylltu’n llawn â myfyrwyr a chymunedau, gan arfogi pobl gydol oes â’r wybodaeth a’r adnoddau sydd eu hangen i lwyddo yn ein cyfnod o weithgareddau cymdeithasol, economaidd a heriau amgylcheddol amlochrog.”

Cyn ymuno â Met Caerdydd yn 2021, roedd yr Athro Langford yn Ddirprwy Is-Ganghellor a Deon Cyfadran y Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Oxford Brookes, a chyn hynny, yn Bennaeth Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd.