Skip to main content
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd>Cyrsiau>Animeiddio – Gradd BA (Anrh)

Animeiddio – Gradd BA (Anrh)

Blwyddyn Mynediad

Bydd animeiddwyr yn anadlu bywyd i storïau, gan wneud i’r lluniad llinell symlaf hyd yn oed ddod yn fyw mewn ffordd hudol, a chael pawb i ymgysylltu â iaith y bydd pawb yn ei deall.

Ar ein gradd BA Animeiddio, byddwch yn ymgyfarwyddo â’r technegau, yr egwyddorion a’r sgiliau a fydd yn agor y byd animeiddio. Byddwch yn dysgu i greu’r argraff o symud drwy ddefnyddio amser, sain a ffurf i gael dod â delweddau, syniadau a storïau yn fyw. Byddwch yn cymryd gwybodaeth gymhleth ac yn defnyddio’r cyfryngau traddodiadol yn ogystal â’r cyfryngau a’r technolegau newydd i gael cynhyrchu naratifau ystyrlon.

Bydd ein cwrs gradd Animeiddio yn eich galluogi i adeiladu ar eich sgiliau beirniadol a dadansoddol. Byddwch yn datblygu eich llais unigol yn ogystal â’ch arbenigedd a byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio’r set o sgiliau a fydd gennych ar draws y diwydiannau creadigol. Byddwch yn defnyddio arferion stiwdio o’r radd flaenaf, yn cydweithredu gyda disgyblaethau eraill, yn archwilio dulliau a theori, yn gweithio ar friffiau byw a chystadlaethau, ac yn ymgymryd â phrosiectau hunan-gyfeiriedig.

Ar y diwedd byddwch yn animeiddiwr a fydd â’r sgiliau, yr hyder a’r meddwl beirniadol i gael plymio i fyd animeiddio proffesiynol, sef byd sy’n tyfu.

Bydd y rhaglen hon yn ddarostyngedig ar adolygiad cyfnodol yn 2023/4 i sicrhau bod cynnwys y cwrs yn gyfredol ac yn parhau i fod. Os bydd unrhyw newidiadau i gynnwys y cwrs yn cael eu gwneud o ganlyniad i'r adolygiad, bydd pob ymgeisydd yn cael gwybod unwaith y bydd newidiadau'n cael eu cadarnhau.


Cynnwys y cwrs

Byddwch yn dechrau’r cwrs drwy feithrin dealltwriaeth eang o’r broses animeiddio, wrth greu eich prosiectau cyntaf drwy ddefnyddio technegau digidol ac analog. Byddwch yn mynd â’ch ymarfer personol ymhellach – yn ymestyn eich gwybodaeth ac yn archwilio cyd-destun hanesyddol, damcaniaethol a chymdeithasol eich pwnc.

Byddwch yn treulio eich amser mewn stiwdios arbenigol, gan ddefnyddio cyfarpar o safon ddiwydiant er mwyn hogi eich sgiliau technegol mewn ystod eang o ddisgyblaethau, gan gynnwys:

  • Elfennau sylfaenol animeiddio. Deall iaith symud drwy dechnegau cynhyrchu animeiddio amrywiol.
  • Creu bwrdd stori a iaith ffilmiau ar gyfer animeiddio
  • Bywluniadau
  • Adrodd stori a chyfarwyddo
  • Camera, goleuo a chyfansoddiad
  • Cyfarwyddo celf; creu a dylunio cymeriadau a bydoedd
  • Cymeriadu ac actio ar gyfer animeiddio
  • Cyfryngau cymysg ac animeiddio arbrofol
  • Archwilio llwyfannau, chwarae gemau, realaeth rithiol a gosodiadau newyd
  • Technegau a phrosesau cynhyrchu traddodiadol a digidol; o ddatblygu syniad hyd at gyflawni
  • Ymarfer proffesiynol a sgiliau busnes

Byddwch yn cael llawer o brofiadau gwerthfawr eraill hefyd – megis ymarferion ysgrifennu sgriptiau a chyfleoedd i gyfarwyddo actorion llais a phypedwyr.

Drwy ddarlithoedd, tiwtorialau, seminarau a gweithdai, byddwch yn dod i ddeall yn drylwyr yr egwyddorion a’r technegau sy’n sail i animeiddio, gan ddysgu oddi wrth dîm o animeiddwyr, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr gweithredol.


Blwyddyn Un

Pwnc: Trawsffurfio Symudiadau a Bywyd – 40 credyd
Yn eich tymor cyntaf bydd y pwyslais ar ymholi creadigol ac ar gaffael gwybodaeth, lle y byddwch yn archwilio hyd a lled ac amrywiaeth ymarfer animeiddio cyfoes, gan arbrofi gyda thechnegau, arfer egwyddorion animeiddio a datblygu sgiliau digidol. Byddwch yn darganfod cysyniadau allweddol yn iaith ffilm, strwythurau naratif a di-naratif, dylunio, theori symud a gwaith tîm.

Pwnc: Adrodd Storïau – 20 credyd
Bydd y modiwl Adrodd Storïau yn canolbwyntio’n benodol ar syniadaeth, datblygu naratif a chynhyrchu darn byr yn animeiddio cymeriadau. Daw cymeriadau a bydoedd a gafodd eu datblygu mewn modiwlau blaenorol yn fyw nawr wrth i chi gynhyrchu darn byr yn animeiddio cymeriadau. Bydd seminarau, tiwtorialau a gweithdai yn cyflwyno’r myfyrwyr i ystod o strategaethau naratif. Nod y modiwl hwn yw mireinio a chydlynu sgiliau animeiddio a dylunio y myfyrwyr fel y gallan nhw gyfleu syniadau a storïau i gynulleidfa.

Maes Un: Cydweithredu – 20 credyd*
Byddwch yn ehangu eich gorwelion drwy ymuno â myfyrwyr o gyrsiau eraill i gael cydweithio ar brosiect. Byddwch yn cael eich ysbrydoli gan ddisgyblaethau eraill i gael adeiladu ar eich profiad ac ehangu eich creadigrwydd – a defnyddio eich sgiliau a’ch mewnwelediad artistig i’w cymhwyso i’ch gwaith.

Cytser: Cysyniad – 40 credyd
Bydd y modiwl hwn yn eich cyflwyno i fyd ehangach syniadau, theori ac astudiaethau cyd-destunol i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau ymchwil academaidd a’ch gallu i feddwl yn feirniadol. Byddwch yn canolbwyntio ar feysydd o ddiddordeb mewn grwpiau astudio a byddwch yn ymgyfarwyddo â’r ymchwil traws-ddisgyblaethol cyffrous a’r arbenigedd sydd yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd.

Blwyddyn Dau

Pwnc: Cynhyrchu – 40 credyd
Byddwch yn datblygu eich sgiliau a chysyniadau o fewn technoleg ddigidol, gan adeiladu eich dealltwriaeth o’r broses animeiddio a therminoleg diwydiant. Cewch gyfleoedd i fagu profiad mewn diwydiant ac i wneud cais am friffiau byw gyda chleientiaid allanol. Caiff eich rhagdybiaethau eu herio drwy archwilio technegau a chysyniadau arbrofol a byddwch yn dod yn hyddysg yn defnyddio offer a phrosesau allweddol.

Maes Dau: Archwilio – 40 credyd*
Byddwch yn ehangu eich profiadau â phrosiectau heriol a fydd wedi’u dylunio i’ch annog i archwilio ac i arbrofi y tu allan i’ch disgyblaeth benodol. Bydd y cyfle gweddnewidiol hwn yn arwain at feddwl newydd ac at bethau newydd ac yn agor pob math o bosibiliadau yn y dyfodol. Byddwch yn ymgymryd â phrosiectau cyffrous a fydd yn eich herio mewn ffyrdd newydd. Hefyd gallwch ddewis teithio, cymryd lleoliad gwaith, dechrau eich busnes chi eich hunan neu roi cynnig ar rywbeth newydd.

Cytser: Bwrw golwg feirniadol – 40 credyd
Drwy fwrw golwg feirniadol dros lenyddiaeth, cyfnodolion ac arddangosfeydd, byddwch yn hogi eich gallu i roi eich ymarfer dylunio o fewn cyd-destun. Cewch gyfleoedd hefyd i ryngweithio gyda myfyrwyr a staff a threiddio mwy i’r meysydd a fydd o ddiddordeb i chi.

Blwyddyn Tri

Pwnc: Prif Brosiect Animeiddio – 40 credyd
Bydd y lefel hon yn canolbwyntio ar ddatblygiad creadigol myfyrwyr unigol, gan eich helpu i benderfynu pa lwybr y byddwch am ei ddilyn yn y dyfodol. Byddwch yn arbrofi gyda thechnegau, offer a strwythurau – gan gyfnerthu’r sgiliau y bydd eu hangen arnoch i ddechrau eich gyrfa broffesiynol neu i ymgymryd ag astudio pellach. A byddwch yn dod â phopeth at ei gilydd i gynhyrchu prosiect wedi’i animeiddio a fydd yn adlewyrchu eich nodau dysgu a phroffesiynol.

Maes Tri: Arddangos – 40 credyd
Bydd eich tymor olaf yn canolbwyntio ar brosiect mawr ac ar arddangosfa o’ch gwaith. Dyma’r lle y byddwch yn dod â phopeth y byddwch wedi’i ddysgu yn ystod y cwrs at ei gilydd a bydd yn fan cychwyn ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.

Cytser: Cyfraniad – 40 credyd
Bydd eich gwybodaeth yn sail i’ch ymarfer. Gallwch ddangos eich sgiliau ymchwil a dadansoddi yn eich cyflwyniad Cytser terfynol, lle y byddwch yn archwilio syniadau ar ffurfiau ysgrifenedig ac ymarferol.

*modiwlau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg

Dysgu ac addysgu

Caiff ffocws sylweddol ar addysgu yn y Stiwdio ei gynnal, wedi’i gefnogi gan Brif Ddarlithoedd a seminarau cefnogol. Caiff myfyrwyr unigol eu cefnogi gan ‘adborth’ sylweddol yn ystod Beirniadaethau Grŵp a thiwtorialau unigol a grŵp.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf yn astudio, gall pob myfyriwr ddisgwyl derbyn rhwng 14 a 22 awr o gyswllt bob wythnos drwy gyfrwng darlithoedd, seminarau, tiwtorialau a gweithdai ymarferol.

Bydd y myfyrwyr â rhan sylweddol yn arwain eu hastudiaethau, yn datblygu ffocws eu hymchwil a chronfa eu harbenigedd nhw eu hunain ac yn ymgysylltu’n weithredol â’r broses asesu a’r ffordd y gellir mynegi a phrofi eu harbenigedd unigol nhw eu hunain.

Caiff y myfyrwyr eu cefnogi wrth iddyn nhw weithio’n annibynnol i’w galluogi i gynhyrchu dysgu sylweddol ac unigryw drwy ymarfer trylwyr, hunan-gyfeiriedig a chydweithredol.

Asesu

Ar hyd eich cyfnod astudio, fe gewch eich gwerthuso ar dri phrif maen prawf a fydd yn greiddiol i bob un o’r disgyblaethau a fydd yn cael eu haddysgu yn yr Ysgol Gelf a Dylunio:

SGILIAU:
Y sgiliau ymarferol, technegol a chysyniadol y byddwch yn eu caffael yn ystod eich cwrs.

CYD-DESTUN:
Eich dealltwriaeth a’ch gwybodaeth o’r cyd-destun deallusol ehangach y mae eich pwnc a’ch gwaith wedi’u lleoli ynddo. Bydd hyn yn cynnwys materion hanesyddol, amgylcheddol a moesegol y bydd eich modiwlau ‘Theori a Chyd-destun’ yn eu harchwilio.

SYNIADAU:
Eich dealltwriaeth o syniadau deallusol a chreadigol o fewn eich disgyblaeth a thu hwnt, ynghyd â’ch gallu i gaffael cysyniadau newydd ac i ffurfio syniadau newydd. Caiff syniadau eu harchwilio yn eich gwaith ysgrifenedig yn ogystal â bod yn amlwg yn eich cynnydd ymarferol. Rhoddir yr un pwysiad i bob un o’r meini prawf hyn yn ystod y broses asesu, hynny yw, ystyrir eu bod yr un mor bwysig ac allweddol i’ch datblygiad; pwyslais a fydd wedi’i ddylunio, er enghraifft, i alluogi myfyriwr a allai fod yn fedrus yn dechnegol ond a fydd yn wan yn cynhyrchu syniadau, neu fyfyriwr â llawer o ddawn greadigol a allai ei chael yn anodd troi cysyniad bras yn ddyluniad unigol cryf, i ddatblygu set o sgiliau fwy cyflawn.

Byddwn yn cynnig nifer o ffyrdd i chi gael tracio’ch cynnydd ar eich ffordd i gyflwyno’ch gwaith er mwyn ei farcio. Gan ddeall y bydd y pwyslais yn troi o gwmpas meysydd craidd sgiliau, cyd-destun a syniadau, byddwch yn ymgyfarwyddo hefyd â’r ffurflen asesu strwythuredig y bydd eich tiwtoriaid yn ei defnyddio ac yn dysgu i gysylltu’ch gwaith â chanlyniadau dysgu disgwyliedig pob briff.

Prif fathau asesu ffurfiannol yw: asesu academaidd (adborth oddi wrth eich tiwtoriaid); asesu cymheiriaid (oddi wrth y myfyrwyr ar eich cyrsiau neu’r partneriaid ar eich prosiect); a hunan-asesu (sef eich beirniadaeth chi eich hunan yng ngoleuni mathau eraill o adborth). Ond nid adborth fydd yr unig beth y byddwch yn ei dderbyn ar ddiwedd briff – yn aml bydd eich tiwtoriaid yn asesu’ch cynnydd wrth i’ch gwaith ddatblygu, gan roi adborth ffurfiannol ar brydiau allweddol lle y disgwylir y cewch eich annog i gymryd risgiau, cynnal eich cymhelliant neu ddatblygu eich syniadau cyn dyddiad cau.

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Mae graddedigion a fu ar y rhaglen mewn sefyllfa dda i gael gweithio yn animeiddwyr annibynnol, i ymuno â chwmnïau’r cyfryngau a chwmnïau dylunio neu ag asiantaethau hysbysebu, neu i gael eu cyflogi yn y diwydiant ffilm, teledu neu ddarlledu.

Yn ystod y cwrs bydd cyfle i ymgymryd â briffiau byw a phrofiad gwaith. Bydd hyn yn cynnwys adeiladu cysylltiadau ac ymgymryd â lleoliadau yn ogystal â chael dod i gysylltiad â gweithwyr proffesiynol ym maes animeiddio drwy anerchiadau diwydiannol a mentora. Cewch gynnig cymorth i ffurfio’ch busnes chi eich hunan os dewiswch wneud hynny.

Bydd rhai graddedigion yn dod yn athrawon drwy gymryd TAR. Bydd rhai graddedigion yn dewis mynd â’u hastudiaethau ymhellach drwy astudio yn yr Ysgol Gelf a Dylunio ar gyfer cymhwyster Meistr ac mae cyfleoedd i gael mynd â hyn ymhellach eto, i ymchwil ar gyfer PhD neu Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn Celf neu Ddylunio.

Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais

Cynigion Nodweddiadol

  • Pwyntiau tariff: 96-120
  • Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
  • TGAU: Yn ddelfrydol, pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf, Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
  • Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
  • Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch. Does dim angen pynciau penodol. Bagloriaeth Cymru – Ystyrir Tystysgrif Her Sgiliau Uwch fel trydydd pwnc.
  • Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: MMM-DDM
  • Lefel T: Does dim angen pynciau penodol.
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.
  • Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 24 pwynt. Does dim angen pynciau penodol.
  • Tystysgrif Gadael Iwerddon: Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
  • Advanced Highers yr Alban: Does dim angen pynciau penodol.
  • Gofynion eraill:Cyfweliad ac adolygiad portffolio llwyddiannus. Bydd gofyn i ymgeiswyr gyflwyno portffolio digidol.

Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.

Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.

Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.


Sut i Ymgeisio

Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.

Ffioedd Dysgu, Cyllid Myfyrwyr a Chostau Ychwanegol

I gael y wybodaeth ddiweddaraf ar ffioedd dysgu a’r cymorth ariannol a allai fod ar gael pan fyddwch yn y Brifysgol, ewch i www.metcaerdydd.ac.uk/study/finance/Pages/default.aspx.

Costau astudio i israddedigion yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd

Deunyddiau

Bydd yr Ysgol Gelf a Dylunio yn darparu amrywiaeth o ddeunyddiau sylfaenol. Bydd y rhain yn galluogi’r myfyrwyr i ddatblygu eu cymhwysedd mewn ystod o sgiliau ac i ddangos eu gallu technegol. Y myfyrwyr fydd yn bwrw’r gost am ddeunyddiau y bydd angen meintiau anghyffredin ohonyn nhw neu’r rheiny a fydd yn rhai arbenigol, drud neu anghyffredin. Rhoddir cyngor ynglŷn â sut y caiff ‘anghyffredin’ ei ddiffinio, pa ddeunyddiau y tybir eu bod yn ‘ddrud’, a rhoddir enghreifftiau o’r pethau a gaiff eu hystyried yn ‘anghyffredin’. Yn aml bydd myfyrwyr yr Ysgol Gelf a Dylunio yn dewis gwario’u harian ar ddeunyddiau y bydd yn well ganddyn nhw weithio gyda nhw, gan gynnwys llyfrau braslunio ac ysgrifbinnau, yn ogystal ag offer arbenigol o’u dewis nhw eu hunain.

Ni ofynnir am dâl am ddefnyddio cyfarpar ar wahân i rai peiriannau arbenigol o ben uchaf y farchnad megis argraffyddion Mimaki a 3D. Bydd mynediad i FabLab Caerdydd yn amodol ar aelodaeth myfyrwyr; bydd yn gostwng ffioedd i fyfyrwyr.

I gael rhagor o wybodaeth am gostau ychwanegol cyrsiau, gan gynnwys ffioedd, gofynion cyfarpar a chostau eraill ar gyfer pob rhaglen israddedig, ewch i www.cardiffmet.ac.uk/costaucwrsychwanegol.

Teithiau maes ac ymweliadau

Bydd yr Ysgol yn talu am deithiau maes a fydd yn rhan o’r dysgu craidd. Ambell waith trefnir ymweliadau a fydd yn opsiynol ac mae’n bosib y gofynnir i’r myfyrwyr rannu’r costau. Y myfyriwr unigol fydd yn gyfrifol am gostau astudio dramor, gan gynnwys cyfnewid, lleoliadau a phrosiectau.

Cysylltu â ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu ebost askadmissions@cardiffmet.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch â Thiwtor Derbyniadau BA (Anrh) Animeiddio, Owen Stickler:

Email: ostickler@cardiffmet.ac.uk
Tel: 029 2020 5554



Rydyn ni’n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â’r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu’r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i’r brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae’n cadw’r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o’r fath yn angenrheidiol. Darllenwch ein Telerau ac Amodau i gael y wybodaeth lawn.

Gwybodaeth Allweddol Am Y Cwrs

Cod UCAS:
​6HJ3 - gradd 3 blynedd

Man Astudio:
Campws Llandaf

Ysgol:
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd

Hyd y Cwrs:
Tair blynedd amser llawn. Pedair blynedd amser llawn​ os yn ymgymryd â lleoliad rhyngosod blwyddyn o hyd.​​​

TROSOLWG CWRS | UCHAFBWYNTIAU GRADD
Uchafbwyntiau Gradd

Mae'r Uwch Ddarlithydd Owen Stickler yn esbonio beth sydd gan y cwrs gradd BA (Anrh) Animeiddio yn Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd i'w gynnig.

GWAITH EIN MYFYRWYR
Rîl Arddangos Myfyrwyr Animeiddio 2023

Rîl arddangos yn cynnwys detholiad o waith animeiddio a grëwyd gan fyfyrwyr Met Caerdydd.

Rîl Arddangos Myfyrwyr Animeiddio 2022

Rîl arddangos yn cynnwys detholiad o waith animeiddio a grëwyd gan fyfyrwyr Met Caerdydd.

ASTUDIO CELF DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG
Cwrdd â’r Tîm: Huw Williams

Mae'r darlithydd cyfrwng Cymraeg yn yr Ysgol Gelf a Dylunio, Huw Williams yn sôn am y manteision o astudio Celf a Dylunio yn ddwyieithog.

ARCHWILIWCH EIN CYFLEUSTERAU | TAITH RHITHIOL
Taith Stiwdios Animeiddio

Ewch am dro rhithiol o'n Stiwdios Animeiddio.

PROFIAD MYFYRWYR
Fy mhrofiad yn gweithio ar brosiect byw gyda fy ngwhrs Animeiddio

Mae Callum, myfyriwr animeiddio blwyddyn olaf, yn esbonio sut y gwnaeth astudio ym Met Caerdydd helpu i'w baratoi ar gyfer gwaith yn y diwydiant.
Darllen mwy

O'r Gogledd i'r De. Beth dwi wedi ei ddysgu mor belled ar fy ngwhrs Animeiddio

Mae Callum yn blogio am ei brofiadau mor belled ar y cwrs a pham ei fod wedi penderfynu symud o'r Gogledd i astudio Animeiddio yn yr Ysgol Gelf a Dylunio.
Darllen mwy