Skip to main content
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd>Cyrsiau>Ffotograffiaeth – Gradd BA (Anrh)

Ffotograffiaeth – Gradd BA (Anrh)

Blwyddyn Mynediad

Mae Ffotograffiaeth yn iaith bwerus. Mae’n ein galluogi i gyfathrebu emosiynau a syniadau cymhleth. Mae’n dweud wrthym beth fydd yn cael ei ystyried yn bwysig ac yn ein helpu i ddeall ac i gwestiynu’r gorffennol a’r presennol.

Gall eich gweledigaeth unigryw helpu i ail-ddiffinio’r ffordd y gwelwn y byd o’n cwmpas. Gallwch chi, yn ffotograffydd beirniadol a chreadigol, gyfrannu i greu tirweddau gweledol y dyfodol.

Bydd gradd BA Ffotograffiaeth ym Met Caerdydd yn datblygu’ch dealltwriaeth o ran y dulliau technegol, creadigol a chysyniadol a ddefnyddir mewn ffotograffiaeth, y bydd dulliau artistig a golygyddol yn eu hysbrydoli er mwyn creu delweddau ac arferion arbrofol lens-seiliedig. Byddwch yn caffael sgiliau ffotograffiaeth digidol a ffilm proffesiynol ynghyd â gwybodaeth am hanes ac ymarfer ffotograffiaeth.

Byddwch yn dysgu i werthuso’n feirniadol eich dulliau creadigol o ran arferion ffotograffig cyfoes, gan leoli’r rhain o fewn diwylliant gweledol ehangach. Byddwn yn eich annog i ddilyn eich diddordeb ffotograffig chi eich hunan a meithrin ffordd unigryw o weld, a chreu portffolio dynamig o waith.

Byddwch yn datblygu hunaniaeth weledol nodedig ac yn dod i ddeall ym mha ffyrdd y gallai eich arddull bersonol chi eich hunan gael ei defnyddio ar gyfer ystod o gyd-destunau, o ffasiwn a’r celfyddydau gain hyd at hysbysebu a golygyddol.

Mae’r gradd BA mewn Ffotograffiaeth wedi’i lleoli yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd. Mae partneriaeth hir iawn gan yr Ysgol â Ffotogallery, Asiantaeth Ffotograffiaeth Genedlaethol Cymru, sy’n canolbwyntio ar gyrsiau byr a gweithdai, interniaethau â thâl, a chyfleoedd i’r myfyrwyr gael arddangos a gwirfoddoli yn ystod ‘Diffusion’: Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Caerdydd.

Bydd y rhaglen hon yn ddarostyngedig ar adolygiad cyfnodol yn 2023/4 i sicrhau bod cynnwys y cwrs yn gyfredol ac yn parhau i fod. Os bydd unrhyw newidiadau i gynnwys y cwrs yn cael eu gwneud o ganlyniad i'r adolygiad, bydd pob ymgeisydd yn cael gwybod unwaith y bydd newidiadau'n cael eu cadarnhau.


Cynnwys y Cwrs

Bydd y cwrs hwn yn datblygu sgiliau ac arbenigedd yn y canlynol:

  • Sgiliau gwneud delweddau analog a digidol
  • Technegau goleuo stiwdios a lleoliadau
  • Genres ffotograffig
  • Golygu a dilyniannu
  • Iaith ffotograffiaeth
  • Llif gwaith digidol ac ôl-gynhyrchu
  • Datblygu portffolio
  • Protocolau moesegol
  • Cyd-destunau proffesiynol (gan gynnwys cyllidebu, prisio, hawlfraint, asiantaethau, ac ymwybyddiaeth o’r farchnad)

Blwyddyn Un
Elfennau Sylfaenol Ffotograffiaeth - 40 Credyd

Nod y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i’r sgiliau, y syniadau a’r prosesau technegol sylfaenol a fydd yn ymwneud â maes ffotograffiaeth a’u hannog i ddefnyddio technegau cynhyrchu priodol er mwyn gwireddu eu syniadau.

Bydd yn hwyluso gwaith cynllunio ymateb i friff creadigol wrth ddatblygu dealltwriaeth myfyrwyr o ieithoedd gweledol gan feithrin eu gallu i gyfleu syniadau, emosiynau a gwybodaeth drwy gyfrwng delwedd ffotograffig.

Bydd y modiwl yn cyflwyno’r myfyrwyr i waith ymarferwyr a fydd yn gweithio ym maes ffotograffiaeth, yn gyfoes ac yn hanesyddol, a’r syniadau allweddol sydd y tu cefn i’w gwaith â’r nod o ddatblygu gallu’r myfyrwyr eu hunain i gynhyrchu delweddau’n weithredol ac â phwrpas.

Bydd y ffocws ar drafod camerâu â’r llaw, gweithio yn y stiwdio ffotograffau, technegau traddodiadol yr ystafell dywyll, a phrosesau delweddu digidol.


Persbectifau Ffotograffig – 20 Credyd

Nod y modiwl hwn yw rhoi’r cyfle i’r myfyrwyr gael datblygu sgiliau a thechnegau ffotograffig uwch wrth eu cyflwyno i ystod o genres a chyd-destunau’n ymwneud ag arferion ffotograffig a lens-seiliedig.

Bydd y ffocws ar weithio gyda fformatau proffesiynol ac archwilio genres ffotograffig allweddol a pharatoi delweddau i’w harddangos.

Bydd y myfyrwyr yn datblygu technegau trin delweddau’n greadigol ac yn archwilio’r gwahaniaethau rhwng agweddau cysyniadol, swyddogaethol ac esthetig tuag at ffotograffiaeth.

Bydd yn datblygu gallu’r myfyrwyr i adfyfyrio ar, ac i werthuso, eu sgiliau nhw eu hunain er mwyn dod i wybod pa ddulliau yw’r rhai mwyaf priodol i gael cynhyrchu delweddau mewn cyd-destunau penodol.

Bydd y modiwl yn annog myfyrwyr i astudio disgwyliadau, canfyddiadau ac ymatebion eu cynulleidfa ac i adfyfyrio ar ddimensiynau hanesyddol, cymdeithasol a diwylliannol eu hymarfer nhw eu hunain.


Cydweithredu – 20 Credyd

Bydd y modiwl Cydweithredu yn rhoi’r cyfle i’r myfyrwyr weithio’n gydweithredol gyda myfyrwyr ac academyddion o bynciau eraill ar thema/problem gyfannol a fydd yn eu cyflwyno i gysyniad cydweithredu rhyngddisgyblaethol.

Drwy ymgysylltu’n arbennig yn eu disgyblaeth benodol a thrwy ymgysylltu’n gydweithredol mewn pynciau eraill, bydd myfyrwyr yn gallu adnabod nodweddion allweddol eu disgyblaeth a sut y gellir defnyddio’r rhain o fewn cyd-destun rhyngddisgyblaethol.

Drwy weithio mewn amrywiaeth o ffyrdd ymarfer cydweithredol ac annibynnol, caiff y myfyrwyr y cyfle i ddatblygu sgiliau rhyngbersonol a sgiliau rhyngweithio.


Cysyniad - 40 Credyd

Nod y modiwl Cysyniad yw cyflwyno’r myfyrwyr i gyfres o gysyniadau a dadleuon hanesyddol a damcaniaethol amrywiol. Bydd y myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i amrywiaeth o offer academaidd a fydd yn eu galluogi i ymgysylltu’n ddisgyrsiol gyda’i gilydd a gyda’r gymuned academaidd ehangach.

Drwy ddod i gysylltiad â deunydd ymchwil mewn cyfres o Grwpiau Astudio, caiff y myfyrwyr eu hannog i feithrin diddordebau annibynnol ac i osod y rhain o fewn ystod o baradeimau. Bydd y modiwl hwn yn datblygu sgiliau ymchwil ac ysgrifennu academaidd ynghyd â dysgu annibynnol a dysgu ar sail ymholi.

Bydd yn datblygu dealltwriaeth sylfaenol o’r berthynas rhwng theori ac ymarfer o fewn eu pwnc craidd a meysydd traws-ddisgyblaethol. Byddwn yn ymdrin hefyd â’r defnydd ar bersbectifau damcaniaethol hanesyddol a chyfoes a fydd yn berthnasol i gyd-destunau diwylliannol.

Y nod fydd cyflwyno safbwynt cydlynol a chreadigol o ran celf a dylunio.


Blwyddyn Dau

Ymarfer Ffotograffig Creadigol – 40 Credyd

Bydd y modiwl hwn yn adeiladu ar wybodaeth sylfaenol y myfyrwyr a bydd yn canolbwyntio ar eu harbenigedd creadigol unigol o fewn cyd-destun arferion ffotograffig diwylliannol, moesegol a phroffesiynol cyfoes. Bydd yn cefnogi datblygiad y myfyrwyr drwy ymholi annibynnol, arloesedd personol a chymryd risgiau, gan eu hannog i archwilio, arbrofi a magu dealltwriaeth o fathau gwahanol o arferion ffotograffig cyfoes.

Bydd y ffocws ar Arbrofi, Naratif a Chyd-destun.

Nod y modiwl fydd ymestyn sgiliau proffesiynol, technegol a deallusol y myfyrwyr a datblygu eu hyder iddyn nhw gael dod i wybod ymhle mae eu hymarfer creadigol unigol o fewn sbectrwm eang arferion ffotograffig a lens-seiliedig.

Bydd y modiwl yn gofyn i’r myfyrwyr archwilio ffyrdd gwahanol eraill o fynegi, cynhyrchu a chyflwyno i gael datblygu eu sgiliau ymhellach wrth ddatblygu portffolio cydlynol o waith.


Archwilio – 40 Credyd

Nod y modiwl hwn yw cyfnerthu arferion traws-ddisgyblaethol wrth gynhyrchu syniadau creadigol drwy gynnig y cyfle i’r myfyrwyr brofi amrywiaeth o sgiliau sy’n bodoli y tu allan i’w meysydd pwnc-benodol nhw eu hunain, ac mae’n cynnig amgylchedd ar gyfer arbrofi ac archwilio.

Bydd hyn yn galluogi’r myfyrwyr i gynllunio trywydd personol o ystod o brosiectau sy’n bodoli eisoes a fydd yn gallu goleuo eu llwybr creadigol i mewn i’w trydedd flwyddyn a thu hwnt.

Bydd y llwybrau hyn yn cyfeirio’r myfyrwyr i yrfa broffesiynol bosib yn ymarferwyr, entrepreneuriaid ac academyddion. Bydd y modiwl hwn hefyd yn meithrin sgiliau ysgrifennu adfyfyriol y myfyrwyr a fydd yn dangos sut y caiff syniadau o’u prosiectau eu datblygu a’u rhoi o fewn cyd-destunau.


Bwrw Golwg Feirniadol – 40 Credyd

Nod y modiwl hwn yw datblygu hyder myfyrwyr wrth iddyn nhw archwilio’r posibiliadau creadigol o fewn eu maes diddordeb, sydd â chysyniadau a dadleuon hanesyddol a damcaniaethol yn greiddiol iddyn nhw, drwy broses o werthuso beirniadol o fewn Cytser. Bydd y myfyrwyr yn datblygu’n gynyddol safbwynt personol er mwyn mynd i’r afael â diddordeb ymchwil penodol a fydd yn ffurfio’r sylfaen ar gyfer gwaith ymchwil eu trydedd flwyddyn.

Bydd yn adeiladu ar sgiliau ymchwil academaidd, dadansoddi ac ysgrifennu creadigol er mwyn bwrw golwg feirniadol a datblygu dysgu annibynnol ymhellach. Bydd yn adnabod cyd-destunau traws-ddisgyblaethol perthnasol a heriol lle y gellir lleoli meysydd penodol o ddiddordeb mewn Celf a Dylunio a defnyddio dadleuon a chysyniadau damcaniaethol cyfoes a hanesyddol yn feirniadol.

Bydd yn cadarnhau ac yn cydlynu safbwyntiau creadigol o ran theori ac ymarfer.


Blwyddyn Tri

Ymarfer Ffotograffig Proffesiynol – 40 Credyd

Nod y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth y myfyrwyr o gynllunio strategol, negodi beichiau gwaith, a datblygu portffolio proffesiynol. Bydd yn meithrin sgiliau technegol a deallusol proffesiynol uwch ac yn datblygu’r farn esthetig a fydd yn ofynnol oddi wrthyn nhw ar y lefel hon.

Bydd y ffocws ar brosiectau ffotograffig a wneir i’w cyhoeddi a chynllunio gyrfa mewn Ffotograffiaeth.

Bydd y myfyrwyr yn gallu defnyddio gwybodaeth o ddisgyblaethau cyffredinol ac arbenigol drwy ymgysylltu â phrosiect a ddatblygir yn unigol a fydd yn dangos dyfnder a thrylwyredd deallusol, gan syntheseiddio syniadau o ystod eang o gyd-destunau damcaniaethol ac ymarfer-seiliedig. Bydd technegau meddwl yn greadigol i’w gweld drwy arbrofi ac arloesi a fydd yn dangos yn amlwg ddealltwriaeth ynglŷn ag anghenion penodol cynulleidfa.

Bydd y modiwl hwn yn ymestyn sgiliau ymarferol drwy gynhyrchu a chyflwyno gwaith ffotograffig annibynnol o safon uchel a fydd â’r sail ddeallusol briodol.


Arddangos – 40 Credyd

Mae’r modiwl hwn wedi’i ddylunio i alluogi’r myfyrwyr i adeiladu’n weithredol ar eu cryfderau a’u diddordebau nhw eu hunain ac i wneud penderfyniadau allweddol a fydd yn effeithio ar y ffyrdd y bydd y cyhoedd yn dehongli ac yn darllen eu gwaith, gan siapio’u gyrfa yn y pen draw, drwy adeiladu arbenigedd deallusol a galwedigaethol uwch i graidd eu hymarfer.

Bydd y modiwl yn gwneud hyn drwy ymarfer stiwdio a fydd yn rhoi cyfle i’r myfyrwyr ddod ar draws trylwyredd deallusol, proffesiynol a strategol arddangosfa gyhoeddus.

Felly y modiwl hwn yw uchafbwynt eu hymarfer creadigol ac yn aml bydd yn fan cychwyn i’w gyrfaoedd proffesiynol ac i’w hymarfer proffesiynol.


Cyfraniad – 40 Credyd

Bydd prosiect Cyfraniad y flwyddyn olaf yn elfen allweddol ym mhob gradd israddedig gan y bydd yn cynrychioli synthesis ymdrechion creadigol y myfyrwyr o fewn Cytser.

Dyma gyfle i’r myfyrwyr gael dangos astudio annibynnol, cael dadansoddi a mynegi gwybodaeth o ystod eang o feysydd fel y cân nhw eu cyflwyno a’u hysbrydoli gan Cytser, a chyfnerthu ymchwil mewn maes a fydd yn uchelgeisiol yn ddeallusol.

Bydd y modiwl hwn yn herio’r myfyrwyr i gyfuno mewn ffordd allweddol eu gwaith ymarferol a materion damcaniaethol traws-ddisgyblaethol. Yn y modiwl hwn bydd y myfyrwyr yn gallu ffocysu eu diddordebau academaidd a dangos sgiliau academaidd, a chyflwyno tystiolaeth o fod yn gallu mireinio a gweithredu’n annibynnol, gan ddangos gallu i amddiffyn y safbwynt allweddol a fydd yn ganolog i’w gwaith. Bydd yn cynhyrchu ac yn cyfathrebu canlyniad yn effeithiol a fydd wedi’i leoli o fewn cyd-destun perthnasol a heriol Celf a Dylunio.

Bydd yn cyflwyno ac yn amddiffyn set o faterion damcaniaethol a chyd-destunol mewn ffordd uchelgeisiol.

Dysgu ac Addysgu

Bydd strategaethau dysgu, addysgu ac asesu yn ceisio hyrwyddo arddulliau dysgu effeithiol i gael creu amgylchedd lle y bydd myfyrwyr yn cymryd rhan ac yn ymddiddori ym mhob pwnc; annog gallu i ddysgu’n annibynnol a dysgu gydol oes; a gwireddu potensial llawn pob myfyriwr.

Bydd y rhaglen yn ceisio datblygu diwylliant dysgu ac addysgu a fydd yn datblygu meddwl ymholgar a chreadigol gan gydnabod yr angen i ymateb i alwadau ymarfer ffotograffig proffesiynol.

Bydd caffael dealltwriaeth a gwybodaeth graidd yn digwydd yn bennaf drwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau, seminarau, gwaith stiwdio a gweithdai ymarferol. Bydd myfyrwyr yn magu mwy o ddealltwriaeth a ‘gwybodaeth uwch’ drwy’r pethau hyn hefyd yn ogystal â thrwy astudio annibynnol a gwaith grŵp penodol.

O fewn ymarfer stiwdio, y Prosiect yw’r prif strategaeth dysgu ac addysgu. Mae prosiectau yn parhau dros gyfnod gweddol hir a’u bwriad yw ehangu galluoedd deallusol a chreadigol y myfyrwyr. Byddan nhw’n ceisio hyrwyddo agwedd o ddadansoddi beirniadol a fydd yn herio tybiaethau blaenorol ac yn anelu at arloesedd gwirioneddol. Mae ganddyn nhw derfynau ac amcanion penodol ond ni fydd canlyniadau rhagnodedig ganddyn nhw o anghenraid.

Caiff amcanion prosiectau eu sefydlu ar y dechrau a byddan nhw’n ffurfio rhan o’r briff.

Caiff y dulliau asesu eu nodi hefyd yn y cyfnod hwn. Defnyddir sawl math o brosiect:

  • Prosiectau Gorfodol: wedi’u gosod gan y staff ag amcanion a chanlyniadau penodol
  • Prosiectau o dan arweiniad myfyrwyr: wedi’u pennu gan fyfyrwyr unigol mewn ymgynghoriad â’r staff
  • Prosiectau 'Byw': wedi’u gosod gan gleientiaid allanol neu rai a fydd wedi’u lleoli yn y sefydliad mewn ymgynghoriad â’r staff.

Bydd yr holl waith prosiect yn gofyn sgiliau dadansoddi problemau, ymchwil, creadigrwydd, gwneud penderfyniadau, sgiliau technegol ac ymarferol, cyfathrebu a chyfiawnhau. Bydd canlyniadau’r prosiectau yn seiliedig ar waith stiwdio fel arfer ond gallen nhw fod yn seiliedig ar ymchwil hefyd.

Caiff nifer o strategaethau dysgu ac addysgu eraill eu defnyddio o fewn prosiect, gan gynnwys:

  • Sesiynau briffio: yn cael eu defnyddio i egluro amcanion a chyfyngiadau prosiectau
  • Beirniadaethau prosiectau: yn cael eu defnyddio i roi’r cyfle i’r myfyrwyr gyflwyno a chyfiawnhau eu gwaith i’w grŵp blwyddyn ac i’r staff
  • Gweithdai: yn cynnig ystod o sgiliau ymarferol a damcaniaethol
  • Ymarferion: yn cael eu defnyddio i ddiffinio ac egluro elfennau penodol o’r broses ddylunio
  • Arddangosiadau: i hyrwyddo ‘dysgu drwy enghraifft'
  • Cyflwyniadau: y bwriad yw eu defnyddio i annog creadigrwydd, eglurder a hyder wrth gyflwyno gwaith grŵp neu unigol ar lafar neu’n ysgrifenedig.

Darlithoedd

Bydd darlithoedd yn cyflwyno rhaglen astudio gydlynol ac yn ysbrydoli’r myfyrwyr yn gyffredinol. Bydd deunyddiau gweledol a/neu destunol yn eu cefnogi. Gallai’r cynnwys fod yn hanesyddol, yn ddamcaniaethol, cyd-destunol neu’n ymarferol. Lle y bydd yn briodol, caiff darlithoedd eu strwythuro er mwyn i’r myfyrwyr gael cymryd rhan mewn trafodaeth.

Tiwtorialau Pynciau Modiwlaidd

Mewn tiwtorialau bydd myfyriwr neu grŵp o fyfyrwyr yn cyfarfod gyda darlithiwr neu ddarlithwyr. Cân nhw eu defnyddio mewn dwy ffordd o fewn y rhaglen:

  • Ymestyn y deunydd y sonnir amdano yn y darlithoedd drwy ddull datrys problemau wedi’i yrru gan ymholi
  • Gwaith adfer i oresgyn unrhyw ddiffygion yng ngwybodaeth gefndirol myfyrwyr
  • Gweithdai: yn cynnig ystod o sgiliau ymarferol a damcaniaethol.

Seminarau

Bydd tri math o seminar: y rheiny o dan arweiniad staff lle y caiff testunau neu arteffactau eu rhoi i’r myfyrwyr er mwyn cyflwyno dadansoddiad i’w grŵp; y rheiny lle y bydd y myfyrwyr yn dewis testunau/arteffactau i’w trafod o fewn y grŵp; a’r rheiny lle y bydd y myfyrwyr yn cyflwyno’u gwaith neu gasgliadau eu hymchwil nhw eu hunain.

Bydd seminarau wedi’u dylunio i annog cyflwyniadau croyw a dadansoddol a, thrwy drafodaeth grŵp, i ddatblygu dealltwriaeth o’r pwnc a’i gyd-destun.

Dyma ddull dysgu ac addysgu canolog, yn enwedig wrth sôn am y dysgu a gewch o’r Maes a’r Cytser a’i gyd-destunoli a’i gysylltu nôl â phwnc ffotograffiaeth.

Gallai seminarau olygu y bydd y myfyriwr neu’r myfyrwyr yn cyflwyno gwaith a baratowyd eisoes i’w cyd-fyfyrwyr ac i ddarlithydd. Caiff y strategaeth hon ei defnyddio i ymestyn cysyniadau damcaniaethol neu ymarferol penodol yn ogystal ag i gyflwyno ymarferion datrys problemau.

Bydd seminarau’n cynnig profiad gwerthfawr i’r myfyrwyr o ran sgiliau cyflwyno, blogiau, wikis neu bodlediadau, yn ogystal ag yn rhoi dull i’r staff gael asesu dysgu myfyriwr-ganolog.

Gweithdai Ymarferol

Bydd gweithdai ymarferol yn galluogi’r myfyrwyr i ymarfer ac i fireinio’u sgiliau mewn amgylchedd cefnogol lle y gallan nhw gael adborth oddi wrth aelod o’r staff academaidd.

Bydd gweithdai ymarferol yn ffordd werthfawr i symud rhwng theori ac ymarfer. Bydd sesiynau stiwdio ymarferol, â’u pwyslais ar gymhwyso egwyddorion sylfaenol ffotograffiaeth, yn canolbwyntio ar ddatrys problemau ac ar ddatblygu atebion creadigol a thechnegol ar gyfer prosiectau ffotograffig.

Bydd efelychiadau, ymarferion a phrosiectau byw a fydd yn cynnwys cleientiaid allanol yn gosod her ysgogol i’r myfyrwyr a fydd yn gweithio’n annibynnol ac mewn grwpiau i gael profi problemau byd go iawn.

Caiff y myfyrwyr eu hannog i fynegi eu cynigion mewn ffordd wrthrychol a beirniadol ac i ddatblygu sgiliau cyfathrebu rhyngbersonol a fydd yn hollbwysig i ffotograffydd proffesiynol.

E-Ddysgu

Caiff Moodle, amgylchedd dysgu rhithiol y Brifysgol, ei ddefnyddio’n eang ar y cwrs i wella profiad dysgu’r myfyrwyr.

Ar wahân i ddefnydd eang yn storfa ar gyfer adnoddau a deunyddiau dysgu, caiff Moodle ei ddefnyddio i gael y myfyrwyr i ymgysylltu â’u dysgu nhw eu hunain gan ddefnyddio wikis, blogiau a grwpiau trafod.

Yn ogystal, defnyddir Moodle ar gyfer asesu ffurfiannol drwy ddefnyddio cwisiau a phrofion hunan-ddiagnostig. Mae’n werthfawr hefyd yn fodd i gyfathrebu gyda’r myfyrwyr, a chafodd modiwl ‘cartref’ ar gyfer ffotograffiaeth ei greu er mwyn bod yn ganolbwynt ar gyfer cyfathrebu a phostio gwybodaeth o natur gyffredinol.

Caiff adborth electronig ei ddefnyddio drwy Moodle drwy ddefnyddio’r Grade Center.

Bwrw Golwg Feirniadol

Bydd cyfle i fwrw golwg beirniadol ym mhob cyfnod asesu aseiniad neu brosiect (interim neu derfynol) yn y modiwlau stiwdio-seiliedig lle y bydd y myfyrwyr yn cyflwyno’u gwaith i’r grŵp blwyddyn a’r tiwtor ar gyfer adborth a thrafodaeth.

Mae’r digwyddiad hwn yn gonglfaen i’r broses ddysgu. Mae’r aseiniadau wedi’u dylunio i sicrhau y bydd y myfyrwyr yn ymdrin ag ystod eang o astudiaethau achos neu gynsail a fydd yn enghreifftio amrywiaeth o sefyllfaoedd neu atebion.

Bydd y broses o fwrw golwg feirniadol yn sicrhau y bydd y myfyrwyr yn dysgu o ganlyniad i waith yn cael ei wneud gan bobl eraill yn ogystal ag o ganlyniad i’w hymdrechion nhw eu hunain.

Asesu

Ar hyd eich cyfnod astudio, fe gewch eich gwerthuso ar dri phrif maen prawf a fydd yn greiddiol i bob un o’r disgyblaethau a fydd yn cael eu haddysgu yn yr Ysgol Gelf a Dylunio:

SGILIAU:
Y sgiliau ymarferol, technegol a chysyniadol y byddwch yn eu caffael yn ystod eich cwrs.

CYD-DESTUN:
Eich dealltwriaeth a’ch gwybodaeth o’r cyd-destun deallusol ehangach y mae eich pwnc a’ch gwaith wedi’i leoli ynddo. Bydd hyn yn cynnwys materion hanesyddol, amgylcheddol a moesegol y bydd eich modiwlau ‘Theori a Chyd-destun’ yn eu harchwilio.

SYNIADAU:
Eich dealltwriaeth o syniadau deallusol a chreadigol o fewn i’ch disgyblaeth a thu hwnt, ynghyd â’ch gallu i gaffael cysyniadau newydd ac i ffurfio syniadau newydd. Caiff syniadau eu harchwilio yn eich gwaith ysgrifenedig, yn ogystal â bod yn amlwg yn eich cynnydd ymarferol.

Rhoddir yr un pwysiad i bob un o’r meini prawf hyn yn ystod y broses asesu, hynny yw, ystyrir eu bod yr un mor bwysig ac allweddol i’ch datblygiad; pwyslais a fydd wedi’i ddylunio, er enghraifft, i alluogi myfyriwr a allai fod yn fedrus yn dechnegol ond a fydd yn wan yn cynhyrchu syniadau, neu fyfyriwr â llawer o ddawn greadigol a allai ei chael yn anodd troi cysyniad bras yn ddyluniad unigol cryf, i ddatblygu set o sgiliau fwy cyflawn.

Byddwn yn cynnig nifer o ffyrdd i chi gael tracio’ch cynnydd ar eich ffordd i gyflwyno’ch gwaith er mwyn ei farcio. Gan ddeall y bydd y pwyslais yn troi o gwmpas meysydd craidd sgiliau, cyd-destun a syniadau, byddwch yn ymgyfarwyddo hefyd â’r ffurflen asesu strwythuredig y bydd eich tiwtoriaid yn ei defnyddio ac yn dysgu i gysylltu’ch gwaith â chanlyniadau dysgu disgwyliedig pob briff.

Prif fathau asesu ffurfiannol yw: asesu academaidd (adborth oddi wrth eich tiwtoriaid); asesu cymheiriaid (oddi wrth y myfyrwyr ar eich cyrsiau neu’r partneriaid ar eich prosiect); a hunan-asesu (sef eich beirniadaeth chi eich hunan yng ngoleuni mathau eraill o adborth). Ond nid adborth fydd yr unig beth y byddwch yn ei dderbyn ar ddiwedd briff – yn aml bydd eich tiwtoriaid yn asesu’ch cynnydd wrth i’ch gwaith ddatblygu, gan roi adborth ffurfiannol ar brydiau allweddol lle y disgwylir y cewch eich annog i gymryd risgiau, cynnal eich cymhelliant neu ddatblygu eich syniadau cyn dyddiad cau.


Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Mae graddedigion a fu ar y rhaglen mewn sefyllfa dda i gael gweithio yn ffotograffwyr annibynnol, i ymuno â chwmnïau’r cyfryngau a chwmnïau dylunio neu ag asiantaethau hysbysebu, neu i gael eu cyflogi yn y diwydiannau celf a dylunio creadigol ehangach.

Yn ystod y cwrs bydd cyfleoedd i ymgymryd â briffiau byw a chael profiad gwaith. Bydd hyn yn cynnwys adeiladu cysylltiadau ac ymgymryd â lleoliadau yn ogystal â chael dod i gysylltiad â gweithwyr proffesiynol ym maes ffotograffiaeth drwy anerchiadau diwydiannol a mentora. Cewch gynnig cymorth i ffurfio’ch busnes chi eich hunan os dewiswch wneud hynny.

Bydd rhai graddedigion yn dod yn athrawon drwy gymryd TAR. Bydd rhai graddedigion yn dewis mynd â’u hastudiaethau ymhellach drwy astudio yn yr Ysgol Gelf a Dylunio ar gyfer cymhwyster Meistr ac mae cyfleoedd i gael mynd â hyn ymhellach eto, i ymchwil ar gyfer PhD neu Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn Celf neu Ddylunio.

Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais

Cynigion Nodweddiadol

  • Pwyntiau tariff: 96-120
  • Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
  • TGAU: Yn ddelfrydol, pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf, Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
  • Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
  • Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch. Does dim angen pynciau penodol. Bagloriaeth Cymru – Ystyrir Tystysgrif Her Sgiliau Uwch fel trydydd pwnc.
  • Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: MMM-DDM
  • Lefel T: Does dim angen pynciau penodol.
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.
  • Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 24 pwynt. Does dim angen pynciau penodol.
  • Tystysgrif Gadael Iwerddon: Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
  • Advanced Highers yr Alban: Does dim angen pynciau penodol.
  • Gofynion eraill: Cyfweliad ac adolygiad portffolio llwyddiannus. Bydd gofyn i ymgeiswyr gyflwyno portffolio digidol.

Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.

Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.

Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.


Sut i Ymgeisio

Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.

Ffioedd Dysgu, Cyllid Myfyrwyr A Chostau Ychwanegol

I gael y wybodaeth ddiweddaraf ar ffioedd dysgu a’r cymorth ariannol a allai fod ar gael pan fyddwch yn y Brifysgol, ewch i www.metcaerdydd.ac.uk/study/finance/Pages/default.aspx.

Costau astudio i israddedigion yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd

Deunyddiau

Bydd yr Ysgol Gelf a Dylunio yn darparu amrywiaeth o ddeunyddiau sylfaenol. Bydd y rhain yn galluogi’r myfyrwyr i ddatblygu eu cymhwysedd mewn ystod o sgiliau ac i ddangos eu gallu technegol. Y myfyrwyr fydd yn bwrw’r gost am ddeunyddiau y bydd angen meintiau anghyffredin ohonyn nhw neu’r rheiny a fydd yn rhai arbenigol, drud neu anghyffredin. Rhoddir cyngor ynglŷn â sut y caiff ‘anghyffredin’ ei ddiffinio, pa ddeunyddiau y tybir eu bod yn ‘ddrud’, a rhoddir enghreifftiau o’r pethau a gaiff eu hystyried yn ‘anghyffredin’. Yn aml bydd myfyrwyr yr Ysgol Gelf a Dylunio yn dewis gwario’u harian ar ddeunyddiau y bydd yn well ganddyn nhw weithio gyda nhw, gan gynnwys llyfrau braslunio ac ysgrifbinnau, yn ogystal ag offer arbenigol o’u dewis nhw eu hunain.

Fynychaf ni ofynnir am dâl am ddefnyddio cyfarpar ar wahân i rai peiriannau arbenigol o ben uchaf y farchnad megis argraffyddion Mimaki a 3D. Bydd mynediad i FabLab Caerdydd yn amodol ar aelodaeth myfyrwyr; bydd yn gostwng ffioedd i fyfyrwyr.

I gael rhagor o wybodaeth am gostau ychwanegol cyrsiau, gan gynnwys ffioedd, gofynion cyfarpar a chostau eraill ar gyfer pob rhaglen israddedig, ewch i www.cardiffmet.ac.uk/costaucwrsychwanegol.

Teithiau maes ac ymweliadau

Bydd yr Ysgol yn talu am deithiau maes a fydd yn rhan o’r dysgu craidd. Ambell waith trefnir ymweliadau a fydd yn opsiynol ac mae’n bosib y gofynnir i’r myfyrwyr rannu’r costau. Y myfyriwr unigol fydd yn gyfrifol am gostau astudio dramor, gan gynnwys cyfnewid, lleoliadau a phrosiectau.

Cysylltu â Ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu ebost askadmissions@cardiffmet.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch â Thiwtor Derbyniadau BA (Anrh) Ffotograffiaeth, Dr Duncan Cook:

Ebost: DPCook@cardiffmet.ac.uk



Rydyn ni’n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â’r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu’r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i’r brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae’n cadw’r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o’r fath yn angenrheidiol. Darllenwch ein Telerau ac Amodau i gael y wybodaeth lawn.

Gwybodaeth Allweddol Am Y Cwrs

Cod UCAS:
​W640 - gradd 3 blynedd

Man Astudio:
Campws Llandaf

Ysgol:
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd

Hyd y Cwrs:
Tair blynedd amser llawn. Pedair blynedd amser llawn​ os yn ymgymryd â lleoliad rhyngosod blwyddyn o hyd.​​​​

CWRDD Â’R TÎM
Cwrdd â’r Tîm: Duncan Cook

Mae'r uwch ddarlithydd Duncan Cook yn trafod sut mae ei arbenigedd ffotograffig a'i brofiad fel addysgwr o fudd i fyfyrwyr ar y cwrs Ffotograffiaeth ym Met Caerdydd.

ARCHWILIWCH EIN CYFLEUSTERAU | TAITH RHITHIOL
Taith Stiwdios Ffotograffiaeth

Ewch am dro rhithiol o'n Stiwdios Ffotograffiaeth.

YMGEISIO I YSGOL CELF A DYLUNIO CAERDYDD
Beth i'w Gynnwys yn Eich Portffolio

Mae Swyddog Recriwtio Myfyrwyr a myfyriwr graddedig o Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd, Abbie, yn rhannu ei chynghorion portffolio.