Skip to main content

TAR Uwchradd

Blwyddyn Mynediad

Mae’r cwrs TAR Uwchradd Addysg Gorfforol ar gau ar hyn o bryd. 

Cysylltwch â’r Swyddfa Derbyniadau yn AskAdmissions@cardiffmet.ac.uk os credwch eich bod yn bodloni meini prawf cynllun cymhelliant AGA o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol​.​

Os ydych chi’n raddedig sy’n angerddol am eich pwnc arbenigol ac yn dymuno ysbrydoli pobl ifanc, dyma’r cwrs i chi! Mae’r radd TAR Addysg Uwchradd yn gwrs blwyddyn sy’n arwain at ddyfarniad statws athro cymwysedig. Nod y cwrs yw paratoi athrawon dan hyfforddiant i fod yn ymarferwyr medrus, hyderus, arloesol, sy'n myfyrio'n feirniadol ac sy'n ymroddedig i ddysgu proffesiynol gydol oes ac i addysg pobl ifanc.

Mae’r TAR Uwchradd hefyd ar gael i’w astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r cwrs hwn yn darparu hyfforddiant proffesiynol i raddedigion sy’n dymuno addysgu’r meysydd pwnc canlynol:

* Pynciau y mae’r Gostyngiad o 20% i Alumni yn berthnasol iddynt

I ddysgu mwy am y llwybrau unigol, ewch i wefan UCAS neu cysylltwch â’r arweinydd llwybr unigol drwy’r manylion cyswllt a restrwyd o dan ‘Cysylltwch â ni’.

Noder: Mae cyrsiau Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) yng Nghymru wedi bod yn destun proses achredu gan Gyngor y Gweithlu Addysg yn ddiweddar. Bydd Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn darparu cyrsiau AGA TAR Cynradd a TAR Uwchradd fel rhan o Bartneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol Athrawon.

Bydd y rhaglen hon yn ddarostyngedig ar adolygiad cyfnodol yn 2023/4 i sicrhau bod cynnwys y cwrs yn gyfredol ac yn parhau i fod. Os bydd unrhyw newidiadau i gynnwys y cwrs yn cael eu gwneud o ganlyniad i'r adolygiad, bydd pob ymgeisydd yn cael gwybod unwaith y bydd newidiadau'n cael eu cadarnhau.

Nodweddion Unigryw y Radd Hon

  • 60 credyd ar lefel Meistr y gellir eu rhoi tuag at MA mewn Addysg.
  • Profiadau yn y brifysgol a'r ysgol sy’n paratoi athrawon dan hyfforddiant i addysgu'r Cwricwlwm i Gymru ar draws ystod oedran lawn yr ysgol uwchradd.
  • Caiff myfyrwyr eu paratoi ar gyfer cymhwyster TAR a gydnabyddir yn eang ledled Prydain a gweddill y byd.
  • Arfer clinigol sy'n seiliedig ar ymchwil, lle mae cyfleoedd strwythuredig yn galluogi athrawon dan hyfforddiant i ddefnyddio damcaniaeth i herio arfer ac arfer i herio damcaniaeth.
  • Diwylliant dysgu cefnogol a chydweithredol.
  • Diwrnodau hyfforddiant dan arweiniad ysgolion sydd wedi’u nodi fel prif ddarparwyr addysg a datblygiad proffesiynol.
  • ‘Diwrnod dychwelyd’ i’r brifysgol a/neu ysgolion partner arweiniol bob wythnos i gyfnerthu a chydlynu dysgu.
  • Cyfleoedd ar gyfer dysgu ar draws cyfnodau gyda’n rhaglen TAR Cynradd.
  • Cyfleoedd cyfoethogi sy’n canolbwyntio ar yr unigolion i feithrin cryfderau a datblygu sgiliau arwain a dysgu proffesiynol, arloesol a chydweithredol.
  • Ymrwymiad i ddatblygu sgiliau Cymraeg yr holl athrawon dan hyfforddiant yn seiliedig ar eu profiadau a’u hanghenion unigol.

Partneriaeth Caerdydd Ar Gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon

Mae hyfforddi i addysgu ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn gyfle cyffrous i addysgu ym Mhartneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol Athrawon, sef yr unig ddarparwr hyfforddiant TAR yn y de-ddwyrain i gael ei achredu gan Gyngor y Gweithlu Addysg.

Mae Partneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol Athrawon yn cynnwys Prifysgol Metropolitan Caerdydd a’i hysgolion cysylltiedig, gan weithio mewn cydweithrediad â Phrifysgol Rhydychen, Prifysgol Caerdydd, Consortiwm Canolbarth y De, y Gwasanaeth Cyflawni Addysg a Chyngor Dinas Caerdydd. Gyda’i gilydd, mae Partneriaeth Caerdydd yn cydweithio i sicrhau bod ein hathrawon dan hyfforddiant nid yn unig yn cyflawni, ond yn ceisio rhagori ar y safonau proffesiynol ar gyfer Statws Athro Cymwysedig, gydag addysg broffesiynol o ansawdd sy'n hynod ymarferol ac yn ddeallusol heriol.

Bydd graddedigion yn datblygu’r gwerthoedd a’r tueddiadau a fydd yn eu galluogi i fod yn gyflogadwy iawn, ac yn barod i ateb gofynion yr ystafell ddosbarth.

Gallwch ddysgu rhagor am Bartneriaeth Caerdydd yma.


Cynnwys y Cwrs

Bydd cyfanswm o 120 diwrnod yn cael eu cyflawni yn yr ysgol yn ystod y flwyddyn TAR Uwchradd gydag o leiaf un lleoliad ysgol mewn ysgol/cynghrair partner arweiniol (LPS/A).

Bydd 15 o’r diwrnodau’n digwydd mewn ysgolion/cynghreiriau partner arweiniol (LPS/A) lle bydd modd i athrawon dan hyfforddiant ganolbwyntio ar agweddau allweddol o addysgeg a ddarperir gan ddarparwyr arweiniol ym maes addysg a datblygiad proffesiynol yn y sector cynradd. Bydd profiadau dysgu yn y gwaith a’r Brifysgol yn cael eu hintegreiddio’n agos, a bydd strwythur y rhaglen (diwrnod yr wythnos yn y brifysgol/LPS/A a phedwar diwrnod yr wythnos mewn arfer clinigol) yn hwyluso hyn.

Mae’r rhaglen TAR Uwchradd yn cynnwys tri modiwl:

Arfer Clinigol ac Atebolrwydd Proffesiynol 1 (30 credyd ar lefel 6)

Mae’r modiwl hwn yn yr ysgol yn bennaf, ac fe’i cynhelir yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn academaidd. Bydd disgwyl i athrawon dan hyfforddiant addysgu mewn tîm ac yn annibynnol am oddeutu 45% o’r amser. Mae gweddill yr amser yn darparu cyfleoedd i arsylwi, ymchwilio ac ymholi, cynllunio, paratoi ac asesu. Mae’r modiwl hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg neu Saesneg.

Arfer Clinigol ac Atebolrwydd Proffesiynol 2 (30 credyd ar lefel 6)

Safbwyntiau mewn Dysgu ac Addysgu (60 credyd ar lefel 7)

Mae’r modiwl blwyddyn o hyd hwn yn cynnwys 8 prif agwedd:

  • Astudiaethau Craidd
  • Astudiaethau Proffesiynol ac Addysgeg
  • Meysydd Dysgu a Phrofiad
  • Cyfrifoldebau Trawsgwricwlaidd
  • Astudiaethau Pwnc
  • Datblygiad iaith Gymraeg
  • Lles, gan gynnwys Datblygiad Personol a Chynllunio Ymarfer Clinigol
  • Cefnogaeth Ymchwil ac Ymholiad;

Bydd y modiwl mawr hwn yn ystyried yn benodol ystod o ddamcaniaethau, ymchwil ac adnoddau deallusol eraill, ynghyd â phrofiad uniongyrchol yr athrawon dan hyfforddiant mewn ysgolion i ddatblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth am ddysgu ac addysgu. Mae hyn yn cynnwys agweddau fel datblygiad dynol; y cwricwlwm a’r system addysg; anghenion dysgu ychwanegol; defnyddio data ac asesu; a rheoli a threfnu ystafelloedd dosbarth. Ynghyd â datblygu gwybodaeth am addysgeg a chwricwlwm y pwnc o’u dewis yn y modiwl hwn, bydd athrawon dan hyfforddiant yn archwilio cyfleoedd i weithio’n greadigol ac ar y cyd ar draws ffiniau pynciol. Mae o leiaf hanner y modiwl hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, ynghyd â Saesneg.

Datblygiad iaith Gymraeg
Bydd pob athro dan hyfforddiant yn cael 25 awr o addysgu uniongyrchol i ddatblygu eu Cymraeg.

Bydd myfyrwyr cyfrwng Cymraeg yn cael sesiynau Gloywi Iaith a fydd yn mynd i’r afael ag elfennau gramadegol y Gymraeg, a bydd athrawon dan hyfforddiant yn cael eu cyfarwyddo ar ddulliau sy’n gysylltiedig â datblygu sgiliau llythrennedd personol disgyblion a’u dealltwriaeth o gefndiroedd ieithyddol-gymdeithasol dysgwyr.

Bydd dysgwyr Cymraeg a siaradwyr newydd yn cael eu haddysgu mewn grwpiau wedi’u ffrydio ar sail profiad a chymhwyster blaenorol, a byddant yn cael cyflwyniad cadarn i’r Gymraeg yn seiliedig ar eu lefel cymhwysedd. Bydd pawb yn datblygu lefel sylfaenol o Lafaredd o leiaf.

Ymrwymiad amser gofynnol
Rhaglen lawn amser yw hon, ac yn ystod elfen lleoliad y cwrs mae gofyn bod athrawon dan hyfforddiant yn yr ysgol ar gyfer y diwrnod ysgol arferol, ynghyd ag amser ychwanegol cyn ac ar ôl ysgol ar gyfer paratoi a chyfarfodydd.  Mae gofyn ymrwymiad proffesiynol tebyg gan athrawon dan hyfforddiant pan fyddan nhw’n cyflawni’r elfen o’r cwrs sydd yn y brifysgol.


Dysgu ac Addysgu

Mae cyfleoedd addysgu a dysgu yn y brifysgol ac yn yr ysgol wedi'u cynllunio i gyd-fynd â'r naill a'r llall er mwyn sicrhau'r cynnydd gorau posib i’r myfyrwyr. Mae'r dulliau a ddefnyddir yn pwysleisio ac yn hwyluso sgiliau datblygu beirniadol athrawon dan hyfforddiant, ac yn ymwneud ag integreiddio ymchwil ac ymholiad, arfer a damcaniaeth. Yn y Brifysgol ac yn yr ysgol, bydd athrawon dan hyfforddiant fel arfer yn profi dulliau dysgu dan arweiniad y tiwtor a dulliau dysgu hunangyfeiriedig, gan ddatblygu annibyniaeth ac ystyriaeth gynyddol wrth iddyn nhw wneud cynnydd drwy'r cwrs. Bydd cyfleoedd rheolaidd drwy gydol y cwrs i athrawon dan hyfforddiant adolygu eu cynnydd personol gyda’u tiwtoriaid a chymryd cyfrifoldeb dros gynllunio a chyflawni eu dysgu eu hunain.

Yn y brifysgol, gallai’r dulliau dysgu ac addysgu a ddefnyddir mewn modiwlau gynnwys darlithoedd, seminarau, gweithdai a thiwtorialau, oll wedi’u cefnogi gan ddefnydd o rith-amgylchedd dysgu Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Mewn llawer o'r modiwlau, y strategaethau dysgu ac addysgu a fydd yn cael eu defnyddio yw'r rhai sydd â'r dystiolaeth ymchwil gryfaf o effaith ar ddysgu athrawon dan hyfforddiant a chyrhaeddiad disgyblion e.e. micro-addysgu, arfer clinigol ac adborth, metawybyddiaeth a hunanreoleiddio, addysgu uniongyrchol a dysgu gwrthdro. Lle bo’n bosib, bydd gweithdai’n cael eu darparu mewn ystod o barthau traws-gyfnodol, trawsgwricwlaidd ac un pwnc, gan gynnig digon o gyfleoedd i athrawon dan hyfforddiant ddysgu gan brofiadau amrywiol ei gilydd.

Wrth ddysgu yn yr ysgol, bydd athrawon dan hyfforddiant yn cael eu harwain gan ymagweddau addysgu tîm ac yn addysgu'n annibynnol, a bydd gofyn iddynt gymryd cyfrifoldeb cynyddol dros addysgu annibynnol yn y dosbarth, neu ddosbarthiadau, dros gyfnod parhaus a sylweddol. Bydd Arfer Clinigol yn cynnwys amser cyfeiriedig ar gyfer Ymchwil ac Ymholiad; addysgu annibynnol a thîm; a chynllunio, paratoi ac asesu. Yn ogystal, bydd athrawon dan hyfforddiant yn cael 15 diwrnod o hyfforddiant dan arweiniad Ysgolion/Cynghreiriau Partner Arweiniol. Yn ystod y diwrnodau hyn, bydd amrywiaeth o ddulliau dysgu ac addysgu yn cael eu defnyddio, gan gynnwys archwilio dogfennaeth ysgol, rowndiau dysgu, deialog fyfyriol wedi’i chymell gan fideo, teithiau cerdded a dysgu, sgyrsiau dysgu gyda disgyblion neu athrawon a chraffu ar lyfrau.

Sylwch: Mae hwn yn gwrs Addysg Gychwynnol i Athrawon proffesiynol ac ni ddylai ymgeiswyr TAR llwyddiannus drefnu gwyliau yn ystod y rhaglen. Mae’r rhaglen fel arfer yn dechrau yn ystod wythnos gyntaf mis Medi ac yn dod i ben ym mis Gorffennaf.


Asesu

Mae’r cwrs hwn yn cynnwys dau aseiniad ysgrifenedig ar lefel 7 sydd wedi’u gwasgaru dros y flwyddyn. Mae’r ddau aseiniad yn meithrin gallu’r athrawon dan hyfforddiant i fyfyrio’n feirniadol a gwerthuso addysgeg ac arfer, gan wella eu gallu i fodloni elfennau o Safonau’r Statws Athro Cymwysedig. Yn ogystal, mae’r aseiniadau wedi’u cynllunio i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau ymchwil athrawon dan hyfforddiant, gan roi’r cyfle iddynt gysylltu damcaniaeth ag arfer mewn ffordd a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar ddisgyblion, gwelliant ysgol, a’u harfer proffesiynol eu hunain. Bydd y Mentoriaid yn yr ysgol a’r Tiwtoriaid Prifysgol yn cefnogi athrawon dan hyfforddiant i gwblhau’r aseiniadau hyn. Bydd cydweithio gydag athrawon eraill dan hyfforddiant yn nodwedd hanfodol ar un o’r aseiniadau.

Bydd pob athro dan hyfforddiant yn cael ei asesu yn erbyn y Safonau ar gyfer Statws Athro Cymwysedig, ac mae’n rhaid iddynt lwyddo ym mhob Safon i gael Statws Athro Cymwysedig. Yn ystod yr arfer clinigol, bydd athrawon dan hyfforddiant yn cael adborth ffurfiannol ysgrifenedig a llafar parhaus, ynghyd ag adroddiadau crynodol. Fel rhan o’r cwrs, bydd athrawon dan hyfforddiant yn casglu tystiolaeth sy’n dangos eu cyrhaeddiad a’u cyflawniad, a bydd yn cael ei roi i’r Tiwtoriaid Personol fel bod modd iddynt fonitro cynnydd yn rheolaidd. Caiff gwybodaeth bynciol yr athrawon dan hyfforddiant ei harchwilio ar ddechrau’r rhaglen, ac yna bydd y myfyriwr, gyda chymorth Tiwtoriaid Prifysgol, yn cynhyrchu cynllun gweithredu unigol er mwyn mynd i’r afael â bylchau mewn gwybodaeth bynciol. Wedi hynny, bydd ystod o fesurau’n cael eu defnyddio i sicrhau yr eir i’r afael â phob bwlch a nodir, gan gynnwys gweithdai gwybodaeth bynciol, ymchwil bynciol gyda mentoriaid yn yr ysgol, neu hunan-astudio cyfeiriedig.

O ystyried pa mor ganolog yw llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yng nghwricwlwm Cymru, bydd pob athro dan hyfforddiant hefyd yn cwblhau archwiliadau mewn llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol ar ddechrau a diwedd y rhaglenni. Yn bennaf, bydd hyn er mwyn helpu i nodi cryfderau a meysydd i’w datblygu, ac i gyflawni astudiaeth er mwyn llenwi’r bylchau mewn gwybodaeth a sgiliau. Bydd myfyrwyr dan hyfforddiant a allai elwa ar gymorth pellach yn cael sesiynau cymorth ychwanegol.


Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd​

Bydd cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus yn arwain at argymhelliad i Gyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer Statws Athro Cymwysedig (SAC), ac yn cynnig cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth ar lefel uwchradd. Gall graddedigion gael gwaith mewn ysgolion ledled Cymru, Prydain a thramor.

Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i ddarparu ystod eang o brofiadau a fydd yn rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r hyder i’n graddedigion i’w paratoi nhw ar gyfer y byd gwaith. Mae Ysgolion Partner Arweiniol Partneriaeth Caerdydd wedi’u nodi fel darparwyr addysg a datblygiad proffesiynol arweiniol yng Nghymru, ac felly mae’r cyfle i ddysgu ganddyn nhw ac yn eu hamgylcheddau eu hunain yn golygu y dylai’r datblygiad gyrfaol o athro dan hyfforddiant i Athro Newydd Gymhwyso fod yn ddi-dor.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Darganfod Addysgu.

Beth alla i ddisgwyl ei ennill pan fydda i’n dechrau addysgu?
Mae gwybodaeth ar gael o wefan yr Asiantaeth Hyfforddi a Datblygu ar gyfer Ysgolion.

Datblygiad Proffesiynol:
Mae’r rhaglen hefyd yn cynnig mantais tuag at ddatblygiad proffesiynol parhaus drwy roi 60 credyd ar lefel Meistr. Gellir cario’r credydau hyn ymlaen i gymhwyster Meistr llawn drwy astudiaeth lawn amser neu ran amser.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i MA mewn Addysg (gyda Llwybrau).


Gofynion Mynediad​

Meini Prawf Hanfodol

Bydd gofyn i bob ymgeisydd wneud cais drwy UCAS, drwy gwblhau ffurflen gais ar-lein. Yna bydd ceisiadau’n cael eu hasesu yn erbyn y meini prawf mynediad ar gyfer y rhaglen berthnasol, a bydd ymgeiswyr yn cael eu gwahodd i gyfweliad ar sail y wybodaeth hon.

Dylai pob ymgeisydd feddu ar y canlynol:

  • cefndir addysg blaenorol sy’n darparu sylfaen angenrheidiol i weithio fel athro yn y cyfnod perthnasol a’r arbenigedd pwnc;
  • y ddawn, y gallu a’r gwytnwch i fodloni canlyniadau gofynnol Statws Athro Cymwysedig erbyn diwedd eu rhaglen AGA;
  • y cymwysterau personol a deallusol priodol i ddod yn ymarferwyr ardderchog;
  • sgiliau darllen effeithiol a sgiliau cyfathrebu clir a chywir, ar lafar ac yn ysgrifenedig, yn Gymraeg a/neu Saesneg.
  • cefndir troseddol clir, heb hanes a allai eu hatal rhag gweithio gyda phlant neu bobl ifanc sy’n agored i niwed, neu fel ymarferydd addysg, ac ni ddylent fod wedi’u hatal neu eu heithrio’n flaenorol rhag addysgu neu weithio gyda dysgwyr (mae gofyn i athrawon dan hyfforddiant drefnu Datgeliad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS));
  • sgiliau gweithredol personol mewn llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol y mae modd eu cymhwyso i gyd-destun addysgu a dysgu proffesiynol, i’w ddangos ar y cam cyfweld;
  • y gallu i ddangos eu haddasrwydd i ddod yn athrawon ardderchog;
  • y gallu i fodloni gofynion Safonau Iechyd Addys (2004)*, Llywodraeth Cymru, gan gadarnhau eu hiechyd a’u gallu corfforol i gyflawni cyfrifoldebau athro.

Gofynion TGAU:

TGAU Gradd C/gradd 4 neu uwch mewn Saesneg neu Cymraeg Iaith (Iaith Gyntaf), Mathemateg neu Mathemateg – Rhifedd (neu gyfwerth safonol)  Mae Gradd C / Gradd 4 mewn TGAU Gwyddoniaeth (neu gyfwerth safonol) ei angen er mwyn astudio TAR Addysg Gorfforol.

Bydd hefyd angen i fyfyrwyr sy’n astudio i addysgu mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg fod â gradd C neu uwch mewn Cymraeg (Iaith Gyntaf) TGAU.

Nodir, bydd ymgeisiwyr angen gradd C/gradd 4 neu uwch mewn Saesneg neu Cymraeg Iaith (Iaith Gyntaf), Mathemateg neu Mathemateg - Rhifedd a Gwyddoniaeth (neu gyfwerth) er mwyn eu cysidro ar gyfer cyfweliad. (Gwyddoniaeth ei angen i astudio TAR Addysg Gorfforol)​

Cyfwerthoedd TGAU:

Mae Met Caerdydd yn derbyn cymwysterau cyfwerth ar gyfer y gofynion TGAU o gwrs achrededig trwy sefydliad ag enw da. O Brifysgol Aberystwyth, rydyn ni hefyd yn derbyn y modiwl cyfwerthedd Mathemateg (Cyflwyniad i Fathemateg 1 a 2) a’r modiwl cyfwerthedd Saesneg (Sgiliau Iaith Saesneg).​​

Gwiriwch ofynion Met Caerdydd ar gyfwerthoedd gradd C TGAU (neu edrychwch ar y ddogfen yma yn Cymraeg).

Gofynion Gradd Gychwynnol:

Er y disgwylir y bydd cynnwys eich gradd yn cynnwys cyfran sylweddol o'r pwnc rydych chi’n dymuno hyfforddi i’w addysgu, rydyn ni’n ffafrio ymgeiswyr sydd â graddau mewn pwnc sydd â chysylltiad agos. Bydd eich cais a’ch cyfweliad (pe baech chi’n cael eich dewis) yn cael eu hasesu ar sail eich potensial i gyflawni lefel SAC o’r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth sy’n gysylltiedig â gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau pynciol, a’r graddau y gall y rhain fod yn sylfaen llwyddiannus i’ch arfer fel athro pwnc penodol, yn cynnwys addysgu Safon Uwch a chwricwla ôl-16 arall.

Pwnc

Lleiafswm dosbarthiad gradd ar gyfer mynediad (Graddau Anrhydedd)

Celf a Dylunio
Technoleg Dylunio
Drama
Saesneg
Daearyddiaeth
Hanes
TGCh a Chyfrifiadureg
Mathemateg1
Ieithoedd Tramor Modern2
Cerddoriaeth
Addysg Gorfforol3
Gwyddoniaeth: Bioleg
Gwyddoniaeth: Cemeg
Gwyddoniaeth: Ffiseg
Addysg Grefyddol
Cymraeg

2:2
2:2
2:2
2:2
2:2
2:2
2:2
2:2
2:2
2:2
2:2
2:2
2:2
2:2
2:2
2:2

  

1 Bydd gofyn i ymgeiswyr TAR Mathemateg fod â Safon Uwch mewn Mathemateg ynghyd â gradd berthnasol hefyd.
2 Mae llefydd cyfyngedig ar gyfer Sbaeneg ar ei phen ei hunan a Ffrangeg/Eidaleg ar gael.
3 Gofynnir i ymgeiswyr TAR Addysg Gorfforol ddangos tystiolaeth o brofiad gwaith perthnasol mewn adran Addysg Gorfforol ysgol uwchradd. Dylai ymgeiswyr ddangos hyn trwy eu cais UCAS a’u datganiad personol.

Mae’n bosib y byddwn yn ystyried ceisiadau ar gyfer pynciau Uwchradd penodol gan y rhai sydd wedi cael gradd Anrhydedd is na 2:2, os cafwyd cymwysterau uwch a/neu brofiad perthnasol sylweddol, e.e. Meistr, PhD​.

Gwiriad Cofnodion Troseddol/y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd:

Mae mynediad hefyd yn amodol ar wiriad cofnodion troseddol boddhaol. Mae rhagor o wybodaeth am weithdrefnau cofnodion troseddol ar gael drwy www.cardiffmet.ac.uk/dbs.

Ymgeiswyr Rhyngwladol
Ar gyfer ymgeiswyr rhyngwladol nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf, mae angen lleiafswm sgôr gyffredinol IELTS o 7.5, heb ddim un is-sgôr is na 7.0 (neu gymhwyster cyfwerth) er mwyn cael eu derbyn i’r rhaglen. I gael manylion llawn am sut i wneud cais a’r cymwysterau Iaith Saesneg, ewch i’r tudalennau Rhyngwladol ar y wefan.


Sut i Wneud Cais

Dylid gwneud ceisiadau ar gyfer y cwrs hwn drwy UCAS.

Yn anffodus, oherwydd niferoedd cyfyngedig, mae'n bosibl na fydd ymgeiswyr sy'n dewis y brifysgol fel eu dewis yswiriant yn sicr o gael lle.

Codau Ymgeisio UCAS:
Mae’r cwrs hwn yn cynnig y llwybrau astudio canlynol, a dylid defnyddio’r cod ymgeisio TAR cysylltiedig ar eich ffurflen gais UCAS:

​Rhaglen TAR UwchraddCod Cyfrwng Saesneg​Cod Cyfrwng Cymraeg
​Celf a Dylunio​W1X1W1XX​
Bioleg gyda Gwyddoniaeth​C1X1C1XX​
Cemeg gyda Gwyddoniaeth​F1X1F1XX​
​Dylunio a Thechnoleg​W9X1W92X​
​Drama​W4X1W4XX​
Saesneg​Q3X1Q3XX​
Daearyddiaeth​3CLN​3CLP
​Hanes​V1X1V1XX​
​TGCh a Chyfrifiadureg​G5X1IX1X​
​Mathemateg​G1X1G11X​
​Ieithoedd Tramor ModernR9X1​R9XX​
​Cerddoriaeth​W3X1W3XX​
​Addysg Gorfforol​X9C6C6XX​
​​Ffiseg gyda Gwyddoniaeth​F3X1F31X​
Addysg Grefyddol​3CLQ​3CLR
CymraegAmherthnasol​Q5X1

Gwybodaeth Am Y Cyfweliad

Cynhelir cyfweliadau ar-lein drwy MS Teams. ar hyn o bryd. Byddwch chi’n cael eich hysbysu am ddyddiad eich cyfweliad drwy UCAS a thrwy e-bost gan Met Caerdydd. Yna, byddwch chi’n cael gwahoddiad drwy MS Teams, gydag amser penodol eich cyfweliad, gan dîm y rhaglen. Bydd y cyfweliad yn para oddeutu 30 munud.

Gwybodaeth Ychwanegol am y Cyfweliad ar gyfer TAR Uwchradd Addysg Gorfforol

Gofynnir i ymgeiswyr nodi yn eu datganiad personol, a rhoi gwybod i’r Tîm Derbyniadau cyn gynted â phosib, os ydynt yn dymuno cael cyfweliad drwy gyfrwng y Gymraeg.​

Cwestiynau Cyffredin

Cymwysterau

Does gen i ddim TGAU gradd C/gradd 4 neu uwch mewn Saesneg neu Cymraeg Iaith, – alla i wneud cais am y cwrs TAR?
Bydd ymgeisiwyr angen gradd C / gradd 4 neu uwch mewn Saesneg/Cymraeg Iaith, Mathemateg neu Mathemateg Rhifedd (neu gyfwerth) er mwyn eu cysidro ar gyfer cyfweliad. Bydd hefyd angen gradd C/gradd 4 mewn Gwyddoniaeth er mwyn astudio TAR Addysg Gorfforol.​

A yw fy nghymwysterau’n dderbyniol?

Pennir cyfwerthedd cymwysterau dramor gan  UK NARIC.
Os ydych chi’n fyfyriwr Rhyngwladol, dylech gysylltu â UK NARIC. Os ydych chi’n ymgeisydd Cartref/Undeb Ewropeaidd, cysylltwch â’n Tîm Derbyniadau a fydd yn gallu cynnig cyngor pellach ar eich cymwysterau.


Ymgeisio

Ydych chi’n cynnal Diwrnodau Agored?
Rydyn ni’n cynnal nifer o ddigwyddiadau ar-lein sy’n cynnwys gwybodaeth am TAR drwy’r flwyddyn. Ewch i’n tudalen Diwrnodau Agored a Digwyddiadau i gael rhagor o wybodaeth.

Hefyd, er mwyn sicrhau hygyrchedd i bawb, rydyn ni’n cynnwys yr holl wybodaeth sy’n berthnasol i’r TAR ar y wefan, ac mae bob amser croeso i chi gysylltu â ni drwy ffonio neu e-bostio.

Pryd mae’r dyddiad cau ar gyfer ymgeisio?
Nid oes dyddiad cau penodol ar gyfer ceisiadau: Bydd rhaglenni’n cau pan fydd y cwrs yn llawn. Mae cystadleuaeth uchel iawn ar gyfer llefydd ar y cwrs TAR Cynradd ac Uwchradd, felly argymhellwn eich bod yn ymgeisio’n gynnar yn y flwyddyn academaidd er mwyn osgoi cael eich siomi.

Ddylwn i wneud cais yn uniongyrchol i Met Caerdydd?
Na – mae’n rhaid gwneud pob cais ar gyfer TAR Cynradd ac Uwchradd drwy UCAS. Mae gwybodaeth mewn perthynas â’r weithdrefn ymgeisio ac am wneud cais ar gael drwy: www.ucas.com.

A fydd rhaid i fi gwblhau Gwiriad Cofnodion Troseddol?
Mae mynediad yn amodol ar wiriad cofnodion troseddol boddhaol. Mae rhagor o wybodaeth am weithdrefnau cofnodion troseddol ar gael www.cardiffmet.ac.uk/dbs.

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i’n ymgeisydd cyfrwng Cymraeg?
Dylai ymgeiswyr sy’n dymuno hyfforddi ar gyfer y sector cyfrwng Cymraeg wneud cais ar gyfer y llwybr perthnasol drwy UCAS. Mae’r codau ymgeisio wedi’u rhestru uchod yn yr adran Sut i Wneud Cais. Byddwch yn cael eich rhoi mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, ac mae rhywfaint o ddarpariaeth y brifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ystod y weithdrefn gyfweld, bydd eich gallu yn y Gymraeg a’r Saesneg yn cael ei asesu.


Cyfweliadau

Sut bydda i’n cael gwybodaeth am y cyfweliad?
Mae modd gweld dyddiad eich cyfweliad drwy system Hwb UCAS. Bydd gwybodaeth hefyd yn cael ei hanfon drwy e-bost gan Met Caerdydd.

Pa mor aml cynhelir cyfweliadau? Oes dyddiadau penodol?
Does dim dyddiadau penodol. Serch hynny, byddwch chi’n cael digon o rybudd cyn eich cyfweliad.


Cyllid

Faint mae’r cwrs TAR yn ei gostio?
Ewch i’n tudalen Ffioedd a Chyllid i gael rhagor o fanylion.

Fydda i’n cael bwrsariaeth?
Mae’n bosib bod cymhellion ariannol a grantiau hyfforddi ar gael i fyfyrwyr TAR Uwchradd yn ddibynnol ar ddosbarthiad eich gradd israddedig a’ch llwybr. Ewch i wefan Llywodraeth Cymru i gael rhagor o fanylion.

Oes cyllid arall ar gael?
Mae myfyrwyr TAR sy’n byw yng Nghymru sy’n dewis aros ac astudio yng Nghymru hefyd yn gymwys i gael cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru drwy Grant Ffioedd Dysgu. I gael rhagor o wybodaeth am y grant ac i gael mynediad at y ffurflen PN1 berthnasol ewch i:


Gwybodaeth am y Cwrs

Pryd bydda i’n clywed am leoliadau yn yr ysgol? Ble byddan nhw? Alla i drefnu lleoliad fy hunan?

Cyflawnir y gydran lleoliad mewn ysgolion yn yr ystod o ysgolion 'Partneriaeth Caerdydd', a bydd lleoliadau yn bennaf yn y rhanbarthau sy’n gysylltiedig â Chonsortiwm Canolbarth y De a’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg. Bydd o leiaf un lleoliad ysgol mewn ysgol/cynghrair partner arweiniol (LPS/A). Er y gwneir pob ymdrech i ystyried amgylchiadau personol myfyriwr, byddwch yn ymwybodol y gallai fod yn ofynnol i athrawon dan hyfforddiant deithio hyd at uchafswm o 90 munud o'u man preswylio i leoliad ysgol. Chewch chi ddim trefnu eich lleoliad eich hun.

Alla i ohirio fy lle?
Yn anffodus, does dim modd i ni ganiatáu gohirio ar ein rhaglenni hyfforddi athrawon.

Alla i drefnu unrhyw wyliau yn ystod fy astudiaethau? 
Oherwydd natur broffesiynol y cwrs Addysg Gychwynnol i Athrawon, ni ddylai ymgeiswyr TAR llwyddiannus drefnu gwyliau yn ystod y rhaglen. Mae’r rhaglen fel arfer yn dechrau yn ystod wythnos gyntaf mis Medi ac yn dod i ben ym mis Gorffennaf.

Ffioedd a Chefnogaeth Ariannol

Ffioedd Dysgu a Chefnogaeth Ariannol:

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd dysgu a’r gefnogaeth ariannol a allai fod ar gael. Ewch i www.metcaerdydd.ac.uk/ffioedd.

Mae Gostyngiad Alumni o 20% ar gael i raddedigion Met Caerdydd sy’n astudio’r llwybrau canlynol: Celf a Dylunio, Bioleg/Cemeg/Ffiseg gyda Gwyddoniaeth, Dylunio a Thechnoleg, TGCh a Chyfrifiadureg, Mathemateg, Ieithoedd Tramor Modern a Chymraeg.

Mae’n bosib bod cymhellion ariannol a grantiau hyfforddi ar gael i fyfyrwyr TAR Uwchradd. Ewch i wefan Llywodraeth Cymru i gael rhagor o wybodaeth.

Mae 4 gynllun cymell ar gael i fyfyrwyr:

  • Mae Cynllun Cymhelliant Addysg Gychwynnol Athrawon pynciau a blaenoriaeth yn grantiau sydd ar gael i fyfyrwyr cymwys â graddau penodol sy’n ymgymryd â rhaglenni AGA ôl-raddedig achrededig â Statws Athro Cymwysedig.
  • Mae Iaith Athrawon Yfory yn grant sydd ar gael i fyfyrwyr sy’n astudio rhaglen AGA uwchradd ôl-raddedig achrededig â Statws Athro Cymwysedig, sy’n eu galluogi i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Gymraeg fel pwnc. Mae’r grant hwn yn cefnogi strategaeth Cymraeg 2050, uchelgais Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer yr athrawon Cymraeg a’r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
  • Mae Cynllun Cymhelliant Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol yn grant sydd ar gael i fyfyrwyr Du, Asiaidd, ac Ethnig Leiafrifol sy’n astudio rhaglen AGA ôl-raddedig achrededig sy’n arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC).
  • Mae’r Fwrsariaeth i Gadw Athrawon Cymraeg mewn Addysg yn grant o £5,000 sydd ar gael i athrawon sydd wedi ennill statws athro cymwysedig (SAC) o fis Awst 2020 ymlaen, ac sydd wedi cwblhau tair blynedd o addysgu mewn ysgol uwchradd neu ysgol ganol cyfrwng Cymraeg neu drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgol uwchradd neu ysgol ganol ddwyieithog, neu sydd wedi addysgu Cymraeg fel pwnc mewn unrhyw ysgol uwchradd neu ysgol ganol a gynhelir, yng Nghymru.

Cysylltu  Ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau drwy ffonio 029 2041 6044 neu anfonwch e-bost at askadmissions@cardiffmet.ac.uk

Ar gyfer ymholiadau penodol i’r cwrs, cysylltwch ag Arweinwyr y Rhaglen yn yr achos cyntaf:

Celf a Dylunio
Eve Oliver
eeoliver@cardiffmet.ac.uk

Drama
Emma Thayer: 029 2041 6535
EThayer@cardiffmet.ac.uk

Dylunio a Thechnoleg
Jason Davies: 029 2041 6556
jasondavies@cardiffmet.ac.uk

Saesneg
Dr Judith Kneen: 029 2020 5941
Jkneen@cardiffmet.ac.uk

Daearyddiaeth
Rhian Crooks-Williams
recrooks-williams@cardiffmet.ac.uk

Hanes
Mark Williams: 029 2041 6546
mpwilliams2@cardiffmet.ac.uk

TGCh a Chyfrifiadureg
Jo Farag
jfarag@cardiffmet.ac.uk

Mathemateg
Cameron Stewart
cgstewart@cardiffmet.ac.uk

Ieithoedd Tramor Modern
Kerry Bevan
kbevan@cardiffmet.ac.uk

Cerddoriaeth
Tom Breeze: 029 2041 7246
TBreeze@cardiffmet.ac.uk

Addysg Gorfforol
Fiona Heath-Diffey
FHeath-Diffey@cardiffmet.ac.uk

Addysg Grefyddol
Paula Webber
pwebber@cardiffmet.ac.uk

Gwyddorau
Dr Ceri Pugh
CPugh2@cardiffmet.ac.uk

Cymraeg
Dr Gina Morgan: 029 2041 7251
gmorgan@cardiffmet.ac.uk

Rydyn ni’n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â’r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu’r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i’r brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae’n cadw’r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o’r fath yn angenrheidiol. Darllenwch ein Telerau ac Amodau i gael y wybodaeth lawn.

Gwybodaeth Allweddol Am Y Cwrs

Man Astudio:
Campws Cyncoed

Ysgol:
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd

Hyd y Cwrs:
Blwyddyn lawn amser.

Dyddiad dechrau:
2 Medi 2024 – Yn amodol ar newid

Accreditation"
Accreditation
Digwyddiadau TAR UWCHRADD
Athrawon Cyfrwng Cymraeg Yfory

Ydych chi’n chwilio am yrfa fel athro uwchradd neu cynradd? Ydych chi’n siarad Cymraeg? Dewch draw i’n noson recriwtio i ddysgu mwy am yrfa fel athro. Cyfle i chi glywed gan athrawon a darlithwyr am y proffesiwn addysg. Bydd panel cwestiwn ac ateb, a chyfle i holi myfyrwyr, athrawon, a thiwtoriaid Met Caerdydd.

19 Mawrth 2024, 6yh-7.30yh: Mwy o wybodaeth
Archebwch eich lle

Cwrs Byr Blas ar Ddysgu

Os ydych chi’n fyfyriwr graddedig sy’n siarad Cymraeg ac yn chwilio am yrfa mewn addysgu Uwchradd, dysgwch ragor am ein cwrs byr lle gallwch brofi amgylchedd ysgol ac archwilio gyrfa yn addysgu yn ysgolion Cymru.

Cwrs byr Blas ar Ddysgu: Mwy o wybodaeth
Cwrs 2: Mehefin 3-7, 2024

TROSOLWG O'R CWRS | UCHAFBWYNTIAU GRADD
Uchafbwyntiau Gradd

Mae'r Darlithydd Gina Morgan yn cyflwyno'r radd TAR Uwchradd Cymraeg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

DEWCH I GWRDD Â’R TÎM
Dewch i gwrdd â’r Tîm: Gina Morgan

Dewch i gwrdd â Gina Morgan, Darlithydd TAR Uwchradd Cymraeg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd

Profiad Myfyrwyr a Graddedigion
Blog
Ysbrydoli yn y dosbarth gyda Dylunio a Thechnoleg

Mae Naomi yn dweud wrthym am y TAR Uwchradd a'i hangerdd am Ddylunio a Thechnoleg.
Darllen mwy

Blog
Fy nhaith mewn i addysgu- Fy mhrofiad yn astudio ar y cwrs TAR Uwchradd Hanes

Mae Siôn yn sôn am ei daith i fod yn athro TAR Uwchradd Hanes a a pham ei fod wedi dewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.
Darllen mwy

Blog
Ysbrydoli yn y dosbarth gyda’r cwrs TAR Cymraeg Uwchradd

Mae Eleri yn blogio am ei phrofiad lleoliad ysgol a pham ei fod yn angerddol am ddysgu.
Darllen mwy

Blog
Fy nhaith mewn i addysgu- fy mhrofiad ar y cwrs TAR Uwchradd Hanes

Mae Lowri yn dweud wrthym am ei phrofiadau o hyfforddi i fod yn athrawes Hanes Uwchradd Cyfrwng Cymraeg.
Darllen mwy

Blog
Fy nhaith bythgofiadwy gyda fy nghwrs TAR Cymraeg i Wlad Y Basg

Mae Gruffudd yn blogio am ei brofiad teithio i Wlad y Basg gyda'i gwrs TAR Uwchradd Cymraeg.
Darllen mwy

Blog
TAR Uwchradd Addysg Gorfforol oedd blwyddyn orau fy mywyd

Mae Cerys, athrawes Addysg Gorfforol Uwchradd, yn esbonio sut roedd y flwyddyn TAR mor werth chweil ac yn rhoi ei hawgrymiadau astudio gwych.
Darllen mwy

Cyflogadwyedd a rhagolygon addysgu rhagorol

Dewch i glywed am un o raddedigion TAR Uwchradd Hanes, am ei brofiadau a llwyddo i sicrhau ei swydd addysgu o’i lleoliad profiad ysgol.

Partneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol Athrawon

Darganfod mwy am Bartneriaeth Caerdydd ac astudio Addysg Gychwynnol Athrawon ym Met Caerdydd.

Astudio TAR Uwchradd Cymraeg ym Met Caerdydd

Dysgwch fwy am sut beth yw astudio TAR Uwchradd Cymraeg ym Met Caerdydd gan Lloyd, myfyriwr graddedig ar y cwrs.