Gostyngiad i Gyn-fyfyrwyr

​Mae Met Caerdydd yn cynnig Gostyngiad i Gyn-fyfyrwyr sy'n rhoi gostyngiad o 20% oddi ar ffioedd dysgu i raddedigion Met Caerdydd sy'n cofrestru ar raglenni ôl-raddedig o Fedi 2024. 

Os ydych chi wedi graddio o'r Brifysgol, neu'n astudio ar lefel ôl-raddedig neu israddedig ar hyn o bryd, fe allech chi elwa o'r Gostyngiad i Gyn-fyfyrwyr ar gyfer eich astudiaethau ôl-raddedig sydd i ddod ym Met Caerdydd.

Meini Prawf Cymhwyster

Bydd y gostyngiad yn cael ei gymhwyso'n awtomatig os ydych chi'n cwrdd â'r holl ofynion canlynol:

a.      Rhaid i chi fod yn gyn-fyfyriwr llawn amser neu ran-amser ym Met Caerdydd (neu fel UWIC/Sefydliad Addysg Uwch Caerdydd). Mae hyn yn cynnwys partneriaid rhyddfraint.

b.      Rydych wedi cyflawni cymhwyster israddedig neu ôl-raddedig gyda ni (gan gynnwys cymwysterau TAR).

c.      Rydych wedi cofrestru ac yn astudio ar raglen ôl-raddedig ar gampws yng Nghaerdydd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd; neu'ch bod wedi cofrestru ac yn astudio ar raglen ymchwil naill ai wedi'i lleoli ar gampws yng Nghaerdydd neu ar-lein, yn ystod blwyddyn academaidd 2023/24.


ch.      Rhaid i chi fod yn atebol am y gost ffi ddysgu lawn eich cwrs ôl-raddedig a chael eich ariannu'n gyfan gwbl breifat (caniateir cyllid gan Gyllid Myfyrwyr Cymru neu Loegr) a ddim yn derbyn nawdd gan unrhyw gorff arall (ee cyflogwr, darparwr unrhyw ysgoloriaeth arall neu fwrsariaeth) a hefyd ddim yn derbyn unrhyw daliadau cymhelliant (ee cymhelliant y llywodraeth).

Os bydd eich amgylchiadau ariannol yn newid, hynny yw bod cyfraniad ariannol yn cael ei dderbynnir tuag at eich ffioedd gan noddwr yn ystod gwrs sy'n para mwy na blwyddyn, ni ddyfernir y Gostyngiad i Gyn-fyfyrwyr ar gyfer y blynyddoedd dilynol.

Nid ydych yn gymwys ar gyfer y wobr os ydych:

    • wedi cofrestru ar raglen TAR Uwchradd nad yw'n gymwys: gwiriwch eich cwrs yma.
    • wedi cofrestru ar raglen TAR Cynradd.
    • wedi cofrestru ar raglen Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol TAR (AHO).
    • yn fyfyriwr Erasmus.
    • yn fyfyriwr o bartner rhyddfreintiedig y tu allan i'r DU, sy'n dilyn eich cwrs ôl-raddedig dramor.
    • yn derbyn gostyngiadau staff neu bartneriaeth gyfredol.
    • yn derbyn unrhyw ddyfarniad Bwrsariaeth y GIG.
    • yn derbyn unrhyw ddyraniad Grant Hyfforddiant Athrawon.

Telerau ac Amodau

Gweler y Telerau ac Amodau ar gyfer cymhwysedd llawn. Mae'n bwysig eich bod yn darllen y telerau ac amodau i ddeall eich hawliau a'ch cyfrifoldebau mewn perthynas â'r Gostyngiad i Gyn-fyfyrwyr yn llawn.

Sut caiff y gostyngiad ei weithredu

Bydd y gostyngiad yn cael ei gymhwyso'n awtomatig i ffioedd, ar gyfer y rhai sy'n cwrdd â'r meini prawf cymhwysedd, ar yr amod eich bod wedi cofrestru ac nad ydych wedi tynnu'n ôl o fewn pythefnos gyntaf y cwrs. 

Cwestiynau Cyffredin

C: Ydi'r gostyngiad ar gael i fyfyrwyr Cartref, UE a Rhyngwladol?
A: Ydi, mae'r gostyngiad i gyn-fyfyrwyr ar gael i raddedigion Cartref, UE a Rhyngwladol Met Caerdydd. Os ydych yn raddedig UE neu Ryngwladol, gweler y tudalennau Ysgoloriaethau Rhyngwladol ac 'Alumni Scholarship'.

C: Ydw i'n sicr o dderbyn y Gostyngiad i Gyn-fyfyrwyr os ydw i'n cwrdd â'r meini prawf?
A: Ydych, os ydych chi'n cwrdd â holl fanylion y meini prawf cymhwysedd a nodir uchod, yna bydd y gostyngiad yn cael ei gymhwyso'n awtomatig i'ch ffioedd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymgeisio ar gyfer y cwrs newydd gan ddefnyddio'r un manylion mewngofnodi ag y gwnaethoch ar gyfer eich astudiaethau blaenorol, er mwyn i ni fedru cadw'ch holl gofnodion o dan yr un rhif myfyriwr. Os fyddwch chi'n cael unrhyw broblemau â hyn, cysylltwch â scholarship@cardiffmet.ac.uk.

C: Beth mae hunanariannu'n ei olygu?
A: Rydych chi'n hunanariannu os ydych chi'n talu'ch holl ffioedd dysgu eich hun. Gall hyn gynnwys cymorth ariannol gan ffrind neu berthynas, a/neu Fenthyciadau Ôl-raddedig gan Lywodraeth Cymru neu Loegr.

C: A oes terfyn amser rhwng y dyddiad y cwblheais fy nghymhwyster Met Caerdydd cyntaf a phryd y gellir dyfarnu'r Gostyngiad i Gyn-fyfyrwyr i mi?
A: Nid oes terfyn amser mewn perthynas â phryd y cwblhawyd y cymhwyster.

C: Rydw i wedi astudio TAR ym Met Caerdydd, a oes gen i hawl i’r Gostyngiad i Gyn-fyfyrwyr os ydw i'n astudio cwrs Meistr?
A: Oes, mae gennych hawl, cyhyd â'ch bod yn cwrdd â gweddill y meini prawf cymhwysedd.​

C: Byddaf yn ymgymryd â Rhaglen Ymchwil, a fydd gen i hawl i'r Gostyngiad i Gyn-fyfyrwyr?
A: Bydd, fe fydd gennych hawl, cyhyd â'ch bod yn cwrdd â gweddill y meini prawf cymhwysedd. 

C: Os ydw i eisoes wedi derbyn y Gostyngiad i Gyn-fyfyrwyr ar gyfer gradd Meistr flaenorol, a allaf gofrestru ar gyfer cwrs Meistr arall a derbyn y gostyngiad eto?
A: Gallwch, fe ellir dyfarnu'r Gostyngiad i Gyn-fyfyrwyr i chi eto, ar yr amod nad oes statws academaidd gwael neu ddyledion i'r brifysgol.

C: Pe byddwn yn tynnu'n ôl o fy astudiaethau, a fyddai'r Gostyngiad i Gyn-fyfyrwyr yn parhau'n berthnasol i'r costau a gafwyd eisoes?
A: Byddai, fe fyddai'r gostyngiad yn cael ei gymhwyso i'r costau a gafwyd pe byddech yn tynnu'n ôl. Cyfeiriwch at y wybodaeth ar ein tudalennau rheoleiddio ffioedd mewn perthynas â chanran y costau a gafwyd os bydd myfyriwr yn tynnu'n ôl.

C: Pa ffynonellau cyllid eraill sydd ar gael?
A: Bydd angen i chi gynllunio ymhell o flaen llaw sut rydych chi'n mynd i dalu'ch ffioedd dysgu a chefnogi'ch hun wrth i chi astudio'ch rhaglen ôl-raddedig. Gall ein Tîm Cyngor Arian gynnig cefnogaeth a gwybodaeth i chi ar amrywiaeth o ffynonellau cyllid ôl-raddedig.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r Gostyngiad i Gyn-fyfyrwyr, cysylltwch â Derbyniadau ar scholarship@cardiffmet.ac.uk