Mae Llinell Gyngor Clirio Met Caerdydd NAWR AR AGOR ac mae ein tîm ar gael i’ch helpu i sicrhau lle. Gallwch ffonio
0300 330 0755 neu Sgwrsio’n Fyw ar-lein.
Amseroedd Agor Llinell Gyngor Clirio
Gorffennaf 5 – 14 Awst 2024:
Dydd Llun – Dydd Iau: 8:30yb – 5yp. Dydd Gwener tan 4:30yp.
Dydd Iau 15 Awst 2024 (Diwrnod Canlyniadau Safon Uwch):
Mae ein tîm o staff llinell gyngor ac academyddion ar gael ar yr adegau canlynol, i sgwrsio trwy’r opsiynau sydd ar gael i chi.
8:00yb – 6:30yh
Dydd Gwener 16 Awst 2024: 8:30yb – 5yp
Dydd Sadwrn 17 Awst 2024: 9yb – 3yp
Dydd Sul 18 Awst 2024: 10yb – 3yp
Dydd Llun 19 Awst 2024 – ymlaen:Dydd Llun – Dydd Iau: 8:30yb – 5yp. Dydd Gwener tan 4:30yp.
Allan o Oriau
Os ydych chi am gysylltu â ni y tu allan i’r oriau hyn, neu os na allwch fynd trwodd ar y ffôn, gallwch wneud
cais ar-lein trwy lenwi ein
ffurflen gais clirio ar-lein. Gallwch hefyd anfon e-bost atom ar
holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk a bydd aelod o’r tîm yn dod yn ôl atoch cyn gynted â phosibl.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys amlinelliad byr o’r cwrs y mae gennych ddiddordeb ynddo, eich cymwysterau academaidd, ynghyd â’ch manylion cyswllt llawn, gan gynnwys e-bost dilys a rhif ffôn cyswllt.
Nodwch: Byddwn yn ymdrechu bob amser i ymateb i’ch e-bost neu ymholiad ffôn o fewn 24 awr. Fodd bynnag, ar brydiau efallai y bydd angen i ni atgyfeirio ymgeisydd am benderfyniad academaidd a allai gymryd mwy o amser.