Cyllid Myfyrwyr
Beth ddylwn i ei wneud os yw Cyllid Myfyrwyr yn aros am gadarnhad o bresenoldeb?
Mae’r broses hon yn cael ei chwblhau gan y Gofrestrfa Academaidd. Anfonwch e-bost at
enrolment@cardiffmet.ac.uk am gymorth.
Beth ddylwn i ei wneud os ydw i’n derbyn Cyllid Myfyrwyr?
Byddwn yn derbyn cadarnhad o’ch cyllid yn uniongyrchol gan Gyllid Myfyrwyr. Byddem yn argymell eich bod yn gwneud cais gyda digon o amser fel bod y cais yn cael ei dderbyn cyn dechrau’r tymor.
Beth ddylwn i ei wneud os yw fy Nghyllid Myfyrwyr yn hwyr?
E-bostiwch ein hadran Trysorlys
tuitionfees@cardiffmet.ac.uk a rhowch wybod bod eich cyllid myfyrwyr yn hwyr ac am unrhyw ddiweddariadau a gewch gan Gyllid Myfyrwyr. Byddem yn eich annog i gysylltu â Chyllid Myfyrwyr yn rheolaidd.
Os na ddarperir cyllid erbyn dechrau Tymor 2, efallai y bydd gofyn i chi ddechrau talu eich ffioedd yn y cyfamser. Unwaith y byddwn yn derbyn cyllid gan gyllid myfyrwyr, bydd ad-daliad yn cael ei roi o unrhyw ordaliadau a allai fod ar eich cyfrif.
A fydd yn rhaid i mi dalu fy Ffioedd Dysgu os byddaf yn tynnu’n ôl o fy nghwrs?
Os ydych yn dymuno tynnu’n ôl o’ch cwrs, bydd eich dyddiad tynnu’n ôl yn pennu faint o’ch ffi ddysgu sy’n daladwy. Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys dadansoddiad o’r dyddiadau, ar gael yma:
Ffioedd a Thynnu’n Ôl.
Noddwr
Beth ddylwn i ei wneud os ydw i’n cael fy noddi?
Anfonwch lythyr noddwr ar bapur pennawd i
enrolment@cardiffmet.ac.uk. Bydd angen i’r llythyr noddwr gadarnhau’r wybodaeth ganlynol:
- Enw’r noddwr
- Cyfeiriad post
- Cyfeiriad e-bost
- Lefel y cyllid
- Enw a rhif y myfyriwrr
- Rhif archeb (os yw’n berthnasol)
Unwaith y byddwn wedi derbyn hyn, gallwn ddiweddaru eich cofnod myfyriwr a bilio’ch noddwr yn uniongyrchol. Bydd angen i chi wneud hyn ar gyfer pob blwyddyn astudio.
Bwrsariaeth y GIG
Beth ddylwn i ei wneud os ydw i’n derbyn bwrsariaeth y GIG?
Anfonwch eich llythyr Gwobr Myfyrwyr GIG i
enrolment@cardiffmet.ac.uk ar ôl i chi ei dderbyn. O’r fan honno, gallwn ddiweddaru eich cofnod myfyriwr a bilio tîm bwrsariaeth y GIG yn uniongyrchol.
Hunan-Ariannu
A allaf dalu mewn rhandaliadau os ydw i’n hunan-ariannu?
Gallwch - gallwch wneud taliad llawn neu sefydlu rhandaliadau (Taliadau Cerdyn Aml-dro) drwy’r porth talu:
Gwneud Taliad.
Mae cynlluniau rhandaliadau ar gael ar gyfer myfyrwyr Cartref a Rhyngwladol.
Yr opsiynau rhandaliadau yw:
Myfyrwyr cartref hunan-ariannu, ac ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol sy’n dychwelyd sy’n parhau ar gwrs (Yn dechrau ym mis Medi):
Dyddiadau Talu | % y Ffioedd Dysgu |
08/09/2023
| 40%
|
08/01/2024
| 30%
|
15/04/2024
| 30%
|
Myfyrwyr rhyngwladol hunan-ariannu newydd a myfyrwyr rhyngwladol yn symud ymlaen i gwrs newydd (Cofrestriad mis Medi):
Dyddiadau Talu |
% y Ffioedd Dysgu |
Ar gais | 50% |
08/01/2024 | 10% |
08/02/2024 | 10% |
08/03/2024 | 10%
|
08/04/2024 | 10%
|
08/05/2024 | 10%
|
Y cynllun rhandaliadau ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol hunan-ariannu newydd a myfyrwyr rhyngwladol sy’n symud ymlaen i gwrs newydd yw (Cofrestriad mis Ionawr):
Dyddiadau Talu |
% y Ffioedd Dysgu |
Ar gais
| 50%
|
15/04/2024
| 25%
|
16/09/2024
| 25%
|
Sut allaf sefydlu cynllun rhandaliadau?
Gweler y ddogfen gyfarwyddiadol atodedig i gael arweiniad ar sefydlu cynllun rhandaliadau.
Nodwch wrth lenwi’r blwch rhif myfyriwr peidiwch â chynnwys y rhagddodiad ‘st’ sydd ynghlwm wrth eich rhif myfyriwr.
Faint yw fy ffioedd?
Mae’r holl ffioedd ar gyfer 2023/24 ar gael yma:
Tabl Ffioedd 2023/2024.
Gostyngiadau ac Ysgoloriaethau
Ydw i’n gymwys ar gyfer unrhyw ysgoloriaethau neu fwrsariaethau?
Mae gwybodaeth am Ysgoloriaethau sydd ar gael i fyfyrwyr Cartref ar gael yma:
Bwrsariaethau ac Ysgoloriaethau.
Mae gwybodaeth am Ysgoloriaethau sydd ar gael i fyfyrwyr Rhyngwladol ar gael yma:
Gwneud Cais am Ysgoloriaethau Met Caerdydd.
A allaf gael Gostyngiad Cyn-fyfyrwyr?
Mae’r holl wybodaeth am y Gostyngiad i Gyn-fyfyrwyr ar gael yma:
Gostyngiad i Gyn-fyfyrwyr.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach neu os hoffech gadarnhau a ydych yn gymwys, cysylltwch â
scholarship@cardiffmet.ac.uk.