Skip to main content
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd>Cyrsiau>Meistr mewn Celfyddyd Gain (MFA)

Meistr mewn Celfyddyd Gain (MFA)

Mae'r rhaglen Meistr mewn Celfyddyd Gain (MFA) yn darparu ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno datblygu eu hymarfer neu eu gwybodaeth broffesiynol o fewn disgyblaeth Celfyddyd Gain. Fel arfer, gallai hyn gynnwys athrawon, artistiaid sy'n ymarfer, gweithwyr cymunedol, gweinyddwyr y celfyddydau, neu raddedigion diweddar mewn Celfyddyd Gain sy'n dymuno hyrwyddo eu hymarfer proffesiynol.

Bwriad yr MFA yw ymateb i fyfyrwyr sy'n ymarfer eisoes ac sy'n gallu dweud yn hawdd ble maent mewn perthynas â maes a'i hanes o ymarfer a ffyrdd o weithio. Rôl yr MFA yw gweithio tuag allan, fel petai, tuag at gyd-destun ar gyfer ymarfer y myfyrwyr.

Bydd y myfyrwyr yn canolbwyntio ar ddatblygu Ymarfer Celf sy'n berthnasol i'r Pynciau Ysgol Celf a Dylunio canlynol: Celfyddyd Gain; Tecstilau; Cerameg; Gwneuthurwr Dylunydd Artist; a Darlunio.

Mae'r cwricwlwm MFA wedi'i gynllunio fel bod myfyrwyr ym maes Celfyddyd Gain yn:

  • Cychwyn gyrfa neu ddatblygu syniad

  • Datblygu sgiliau proffesiynol

  • Dod yn abl, yn broffesiynol ac yn gyfeiriedig

  • Cael llwybr tuag at ddilyniant i Ddoethuriaeth Broffesiynol yn y dyfodol

Rydyn ni’n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â’r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu’r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i’r brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae’n cadw’r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o’r fath yn angenrheidiol. Darllenwch ein Telerau ac Amodau i gael y wybodaeth lawn.

Cynnwys y Cwrs

Caiff y cwrs dysgu hwn ei lywio gan brosiect hunan-ddiffiniedig y myfyriwr. I gefnogi hyn, dyrennir Tiwtor Personol i bob myfyriwr ac aelod ychwanegol o staff yr Ysgol sy'n arbenigwr ar y pwnc. Gyda'i gilydd nhw yw'r Tîm Goruchwylio.

Mae natur y ddisgyblaeth yn golygu bod y cwrs yn dibynnu ar ymarferwyr medrus fel hwyluswyr dysgu allweddol, ac, i adlewyrchu hyn, defnyddir amrywiaeth o fecanweithiau cyflwyno. Fodd bynnag, mae gan bob un ohonynt ffocws cyffredin gan y byddant yn ceisio datblygu sgiliau myfyrwyr fel dysgwyr annibynnol rhagweithiol a myfyriol.

Fel rhan o'r rhaglen bydd myfyrwyr yn astudio'r modiwlau canlynol:

Semester 1

Yn Semester 1 byddwch yn cyflawni dau fodiwl cyfochrog integredig: Lleoli a Methodolegau.

Mae'r modiwl Lleoli wedi'i deilwra'n arbennig ar gyfer y rhaglen, gyda'r nod o feithrin eich gallu i leoli eich syniadau o fewn fframwaith beirniadol sy'n amlygu materion sy'n codi ym maes Celfyddyd Gain gyfoes a thu hwnt wrth hyrwyddo eich ysgolheictod yn eich dewis faes ymchwil i lywio cynnig ymchwil a menter.

  • ART7779 Lleoli (40 credyd)
  • ART7771 Cyd-destun a Methodolegau Rhan 1 (20 credyd)


Semester 2

Yn Semester 2 byddwch yn cyflawni dau fodiwl cyffredin cyfochrog integredig: Syniad a Chyd-destunau.

Nod y modiwlau hyn yw cefnogi ysgolheictod uwch parhaus i roi cyd-destun a gweithredu'r cynnig ymchwil a ddatblygwyd gennych yn Semester 1 yn ymwneud â phryderon byd-eang, moesegol, cymdeithasol a gwleidyddol.

  • ART7773 Syniad (40 credyd)
  • ART7772 Cyd-destun a Methodolegau Rhan 2 (20 credyd)


Semester 3

Yn Semester 3 byddwch yn cyflawni un modiwl: Allbwn. Mae'r modiwl yn cynnwys dau weithgaredd integredig sy'n cyfateb i 60 credyd.

Mae'r modiwl Allbwn yn cydgrynhoi canfyddiadau'r ymchwil drwy wireddu eich prosiect mawr i ffurfio arddangosfa wedi'i churadu (Mehefin/Gorffennaf) a phapur neu erthygl ysgrifenedig. (Mis Medi).

Bydd yr arddangosfa MFA yn arddangos eich gwaith ymarferol gan gyfnerthu eich gweledigaeth greadigol unigryw.

  • ART7774 Allbwn (60 credyd)


Pwyntiau gadael

  • Ar ôl cwblhau cyfanswm o 60 credyd, gellir dyfarnu Tystysgrif Ôl-raddedig i fyfyrwyr.
  • Ar ôl cwblhau cyfanswm o 120 credyd, gellir dyfarnu Diploma Ôl-raddedig i fyfyrwyr.
  • Ar ôl cwblhau cyfanswm o 180 credyd, dyfernir Gradd Meistr i fyfyrwyr.

Dysgu ac Addysgu

Bydd y dulliau cyflwyno yn cynnwys aseiniadau stiwdio, darlithoedd, tiwtorialau, seminarau, gweithdai, cyflwyniadau a thrafodaeth dan arweiniad myfyrwyr, briffiau arbrofol a byw, teithiau astudio, a dadansoddiad myfyriol.

Mae pob prosiect yn dechrau gyda sesiwn friffio fyw, a dogfen friffio sydd ar gael drwy ein hamgylchedd dysgu rhithwir (VLE), Moodle.


CDP (Cynllun Datblygu Personol): Byddwch yn cadw dyddiaduron myfyriol a fydd yn cael eu cyflwyno fel rhan o'r cyrff o waith a asesir; bydd tiwtorialau academaidd a'r tiwtorialau bugeiliol bob tymor yn monitro ac yn ymateb i bryderon sy'n codi ar draws eich profiad dysgu a byddant yn canolbwyntio ar eich helpu i fireinio eich amcanion datblygu personol cyffredinol a'ch arddull ddysgu.


Darlithoedd: Mae darlithoedd yn cyflwyno rhaglen astudio gydlynol ac ysbrydoliaeth gyffredinol. Cânt eu cefnogi gan ddeunydd gweledol a/neu destunau. Gall y cynnwys fod yn hanesyddol, yn ddamcaniaethol, yn gyd-destunol neu'n ymarferol. Lle bo'n briodol, caiff darlithoedd eu strwythuro i'ch cynnwys mewn trafodaeth.


Tiwtorialau: Cyfarfodydd myfyrwyr neu grwpiau o fyfyrwyr gyda darlithydd neu ddarlithwyr yw tiwtorialau ac fe'u defnyddir mewn dwy ffordd yn y rhaglen:

  • Ehangu ar ddeunydd a drafodir mewn darlithoedd drwy ddull datrys problemau a gaiff ei lywio gan ymholi
  • Gwaith adfer i oresgyn unrhyw ddiffygion mewn gwybodaeth gefndir.


Seminarau: Amcan seminarau yw annog cyflwyno eglur a dadansoddol a, thrwy drafodaethau grŵp, datblygu dealltwriaeth o'r pwnc a'i gyd-destun. Mae hwn yn ddull addysgu a dysgu canolog, yn enwedig wrth gysylltu'r hyn a ddysgir â'ch ymchwil bersonol ac yn ôl i bwnc Cerameg a Gwneud.

Gall seminarau fod ar dair ffurf:

  • Rhai sy'n cael eu harwain gan staff lle darperir testunau neu arteffactau i chi gyflwyno dadansoddiad i'ch grŵp.
  • Rhai sy'n cael eu harwain gan staff lle darperir testunau neu arteffactau i chi gyflwyno dadansoddiad i'ch grŵp.
  • Rhai lle byddwch chi'n cyflwyno eich gwaith neu'ch canfyddiadau ymchwil eich hun.


Defnyddir y strategaeth hon i ymestyn cysyniadau damcaniaethol neu ymarferol penodol yn ogystal â chyflwyno ymarferion datrys problemau. Mae seminarau'n cynnig profiad gwerthfawr i chi mewn sgiliau cyflwyno, blogiau, wicis neu bodlediadau yn ogystal â rhoi dull i staff asesu dysgu sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr.


Gweithdai ymarferol: Mae gweithdai ymarferol yn eich galluogi i ymarfer a mireinio eich sgiliau mewn amgylchedd cefnogol lle cewch adborth gan aelodau staff. Mae gweithdai ymarferol yn ddull gwerthfawr o bontio rhwng theori ac ymarfer.


Sesiynau stiwdio ymarferol: Mae sesiynau stiwdio ymarferol, sy'n pwysleisio cymhwyso egwyddorion sylfaenol Cerameg a Gwneud, yn canolbwyntio ar ddatrys problemau a datblygu atebion creadigol a thechnolegol i broblemau dylunio. Mae ymarferion efelychu a phrosiectau byw'n cynnig her ysgogol i chi weithio'n annibynnol ac mewn grwpiau i brofi heriau busnes go iawn.

Fe'ch anogir i fynegi eich cynigion mewn modd gwrthrychol a beirniadol ac i ddatblygu sgiliau cyfathrebu rhyngbersonol sy'n hanfodol i entrepreneur neu arloeswr.


E-ddysgu: Defnyddir yr amgylchedd dysgu rhithwir (VLE) yn helaeth ar y rhaglen i wella profiad dysgu'r myfyrwyr. Ar wahân i'w ddefnydd eang fel ystorfa ar gyfer deunydd dysgu ac adnoddau, defnyddir y VLE i'ch cynnwys yn eich dysgu eich hun. Mae'n werthfawr hefyd fel ffordd o gyfathrebu, cynnig adborth a deunyddiau dysgu ychwanegol. Rhoddir adborth electronig drwy'r amgylchedd dysgu rhithwir.


Trafodaeth Feirniadol: Mae trafodaethau sy'n cynnwys staff a myfyrwyr yn nodwedd ganolog o'r drafodaeth feirniadol mewn aseiniadau a gwaith prosiect a drefnir fel rhan o raglen y stiwdio. Cynhelir trafodaethau beirniadol ym mhob cam asesu (interim neu derfynol) o aseiniad neu brosiect yn y modiwlau stiwdio lle byddwch yn cyflwyno eich gwaith i'ch grŵp blwyddyn a'ch tiwtor i gael adborth a thrafodaeth. Mae'r digwyddiad hwn yn gonglfaen yn y broses ddysgu. Caiff aseiniadau eu cynllunio i sicrhau eich bod yn mynd i'r afael ag amrywiaeth eang o astudiaethau achos neu gynsail sy'n dangos amrywiaeth o sefyllfaoedd neu atebion. Mae'r broses o drafodaeth feirniadol yn sicrhau eich bod yn dysgu o waith sy'n cael ei wneud gan eraill yn ogystal â thrwy eich ymdrechion eich hun.

Asesu

Asesir y deilliannau dysgu yn y modiwlau drwy ddulliau amrywiol gan gynnwys traethodau, cyflwyniadau a gwaith prosiect ac ati, fel y gwelir yn nisgrifiadau modiwlau unigol.

Mae asesu'n digwydd ar adegau strategol yn y flwyddyn academaidd i alluogi a chefnogi eich datblygiad parhaus. Mae trafodaeth feirniadol a thiwtorialau grŵp yn cynnig cyfleoedd adborth parhaus. Defnyddir asesu gan gyfoedion a hunanasesu'n helaeth.

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Mae'r rhaglen MA Celfyddyd Gain yn galluogi myfyrwyr i wella eu gyrfaoedd fel artistiaid sefydledig, neu i ddod yn artistiaid sefydledig , gan arwain at yrfa, PhD, neu Ddoethuriaeth Broffesiynol. Mae Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd yn cynnig rhaglenni Doethurol Proffesiynol mewn Celf a Dylunio.

Mae ein Gradd Meistr mewn Celfyddyd Gain wedi'i chynllunio i alluogi myfyrwyr i gyflawni priodoleddau megis mwy o hyblygrwydd, y gallu i addasu, a chyfrifoldeb ac ymreolaeth unigol fel dylunwyr neu ymchwilwyr proffesiynol. Nod y cwrs yw datblygu unigoliaeth, creadigrwydd, hunanddibyniaeth, menter, a'r gallu i gyflawni mewn amgylcheddau sy'n newid yn gyflym yn ogystal â chynyddu cymhwysedd gyda sgiliau a dulliau ymchwil a fydd yn gwneud graddedigion yn gyflogadwy iawn fel academyddion a/neu ymchwilwyr, neu'n eu galluogi i ddatblygu ymarfer gweithredol a pharhaus fel dylunwyr.

Mae'r MFA yn galluogi graddedigion, ymarferwyr canol gyrfa a phroffesiynol o fewn a'r tu allan i ddisgyblaeth Celfyddyd Gain i drafod ac archwilio strategaethau ymarfer tra'n gallu creu eu hybridiau eu hunain o arferion seiliedig ar ddeunyddiau a damcaniaethol a all wella'r ddisgyblaeth ymhellach.

Mae pob myfyriwr yn derbyn tiwtorialau Portffolio Datblygiad Personol (PDP) unigol i gefnogi cyflogadwyedd a dysgu gydol oes. Bydd disgwyl i fyfyrwyr gadw dyddiaduron dysgu sy'n dangos tystiolaeth o ddogfennaeth weledol barhaus sy'n integreiddio cyfleoedd ar gyfer hunanfyfyrio er mwyn eu helpu i ddatblygu fel dysgwyr effeithiol a hyderus.

Ar ddiwedd y rhaglen, mae canran uchel iawn o raddedigion MFA yn sefydlu neu'n parhau â'u hymarfer proffesiynol, a alluogir gan y cysylltiadau y maent wedi'u gwneud â stiwdios neu sefydliadau dylunio sy'n gysylltiedig â'r celfyddydau gweledol a dylunio. Mae rhai'n dewis parhau â'u hastudiaethau Celfyddyd Gain yn Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd drwy gyflawni PhD.

Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais

Fel arfer, byddwch wedi ennill dosbarthiad gradd 1af neu 2.1 mewn pwnc celfyddydol priodol, a/neu bydd gennych brofiad neu statws proffesiynol cyfatebol mewn disgyblaeth celfyddydau gweledol neu ddiwydiannau creadigol. 

Ymgeiswyr Rhyngwladol

Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o ruglder i safon IELTS 6.0​ neu gyfwerth o leiaf. I gael manylion llawn am sut i wneud cais a chymwysterau Saesneg Iaith ewch i'r tudalennau Rhyngwladol ar y wefan.

Cyn gwneud cais, gofynnir i fyfyrwyr yr UE/Rhyngwladol gysylltu â Dr Fiaz Hussain fhussain@cardiffmet.ac.uk gweithdrefnau angenrheidiol sy'n gysylltiedig ag astudio gyda ni.


Sut i wneud cais

Dylid gwneud ceisiadau ar gyfer y cwrs hwn i'r brifysgol yn uniongyrchol drwy ein cyfleuster hunanwasanaeth. I gael rhagor o wybodaeth ewch i'n tudalennau Sut i Wneud Cais yn www.cardiffmet.ac.uk/howtoapply.

Caiff pob myfyriwr ei gyfweld ar gyfer y cwrs hwn. Os nad yw cyfweliad wyneb yn wyneb yn bosibl, defnyddir Skype i'w gynnal.

Gwybodaeth Ychwanegol

Ffioedd Dysgu a Chymorth Ariannol

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd dysgu a'r cymorth ariannol a allai fod ar gael. Cyfeiriwch at www.metcaerdydd.ac.uk/study/finance/Pages/default.aspx.


Ffioedd rhan-amser

Codir ffioedd fesul modiwl unigol oni nodir yn benodol: Israddedig = 10 credyd; Ôl-raddedig = 20 Credyd Yn gyffredinol, rydym yn gweld bod y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn cwblhau 60 credyd y flwyddyn ar gyfer astudiaeth Israddedig ac Ôl-raddedig; gellir cael yr union gost trwy gysylltu ag Arweinydd y Rhaglen yn uniongyrchol.


Costau astudio ôl-raddedig yn Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd:

Deunyddiau

Byddwch yn derbyn mynediad at ddeunyddiau a ddefnyddir fel rhan o sesiynau cynefino gweithdai sydd ar yr amserlen. Cewch fynediad at ddeunyddiau wedi'u hailgylchu hefyd a chewch eu defnyddio mewn ardaloedd gweithdy lle maent ar gael. Yn gyffredinol, bydd angen i chi brynu deunyddiau ar gyfer prosiectau unigol a ddefnyddir yn y stiwdio a gweithdai fel y bo'n briodol.

Sylwch y bydd y costau'n amrywio yn dibynnu ar raddfa a gofynion unigol eich gwaith. Yn ogystal, bydd angen cyllidebu ar gyfer prynu offer a chyfarpar personol untro. Bydd angen i chi dalu costau eraill hefyd, fel argraffu, prynu gwerslyfrau a chost lleoliadau dewisol.

Ar y cyfan, ni chodir tâl am ddefnyddio offer. Mae mynediad i FabLab Caerdydd yn fater i'w drafod; mae'n cynnig ffioedd is i fyfyrwyr ei ddefnyddio.

Cysylltu â Ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol ffoniwch y Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch directapplications@cardiffmet.ac.uk

Ar gyfer gwybodaeth gyffredinol am gyrsiau Ôl-raddedig CSAD, cysylltwch â'r Tiwtor Derbyniaday, Amelia Huw-Morgan ar ahuwmorgan@cardiffmet.ac.uk 

Ar gyfer ymholiadau sy'n benodol i'r cwrs, cysylltwch â'r Tiwtor Derbyniadau, yr Athro Andre Stitt astitt@cardiffmet.ac.uk



Gwybodaeth Allweddol Am Y Cwrs

Lleoliad Astudio:
Campws Llandaf

Ysgol:
Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd

Hyd y Cwrs:
Blwyddyn yn llawn amser neu ddwy flynedd yn rhan-amser.