Skip to main content
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd>Cyrsiau>Menter ac Arloesedd Creadigol

Menter ac Arloesedd Creadigol

Mae arloesi'n hanfodol ar gyfer diogelu cymdeithas at y dyfodol. Caiff ei lywio gan gyd-destunau economaidd, moesegol, cymdeithasol a thechnolegol, ac mae'n gofyn am feddylfryd entrepreneuraidd sy'n gallu addasu i newid cyson.

Nod y Radd Meistr hon mewn Menter ac Arloesedd Creadigol yw datblygu a lansio busnesau'r myfyrwyr eu hunain drwy ymarfer a arweinir gan ymchwil ac ymchwil a arweinir gan ymarfer, a darparu llwybr academaidd i chi ddatblygu eich syniad menter a datblygu eich cynnig busnes yn barod i'w ddatblygu neu ei lansio'n fasnachol.

Ei nod yw esblygu eich dulliau entrepreneuraidd o ymdrin â'ch ymarfer, gan roi'r sgiliau ymchwil a busnes sydd eu hangen i gychwyn a chynnal busnes.

Mae ein MA Menter Greadigol yn eich galluogi i archwilio diddordeb ymchwil a menter mewn perthynas â chelf a dylunio, crefft dylunio, y diwydiannau diwylliannol a chreadigol neu fenter gymdeithasol; gan ddarparu amgylchedd i chi elwa ar eraill sy'n gweithio mewn meysydd creadigol cyfagos.

Mae'r rhaglen yn eich galluogi i sefydlu ac ehangu gwybodaeth arbenigol drwy ymarfer a arweinir gan ymchwil ac ymchwil a arweinir gan ymarfer sy'n pontio dylunio sy'n canolbwyntio ar bobl, llesiant a dylunio cynhwysol, profiad dynol ac arferion moesegol a chynaliadwy.

Byddwn yn eich galluogi i leoli diddordebau ymchwil o fewn y cyd-destunau byd-eang, moesegol, cymdeithasol a gwleidyddol ehangach sy'n berthnasol i dirwedd ymchwil celf a dylunio cyfoes, gan feithrin y meddylfryd beirniadol a fydd yn eich cynorthwyo yn eich gyrfa.

Rydyn ni’n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â’r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu’r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i’r brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae’n cadw’r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o’r fath yn angenrheidiol. Darllenwch ein Telerau ac Amodau i gael y wybodaeth lawn.

Cynnwys y Cwrs

Caiff y cwrs ei lywio gan brosiect hunan-ddiffiniedig y myfyriwr. I gefnogi hyn, dyrennir Tiwtor Personol i bob myfyriwr yn ogystal ag aelodau o staff yr Ysgol sy'n arbenigwyr ar y pwnc. Gyda'i gilydd nhw yw'r tîm goruchwylio.

Mae natur y ddisgyblaeth yn golygu bod y cwrs yn dibynnu ar ein hymarferwyr medrus fel hwyluswyr dysgu allweddol ac i adlewyrchu hyn, defnyddir amrywiaeth o fecanweithiau cyflwyno, gyda ffocws cyffredin, sef ceisio datblygu eich sgiliau fel dysgwyr annibynnol rhagweithiol a myfyriol.

Fel rhan o'r rhaglen hon byddwch yn astudio'r modiwlau canlynol:


Semester 1

Yn Semester 1 byddwch yn cyflawni dau fodiwl cyfochrog integredig: Ymchwil, Empathi, Darganfod a Methodolegau.

Mae'r modiwl Ymchwil, Empathi, Darganfod wedi'i deilwra'n arbennig ar gyfer y rhaglen, gyda'r nod o gefnogi ysgolheictod uwch yn eich dewis faes ymchwil i lywio cynnig ymchwil a menter.

  • ART7770 Ymchwil, Empathi, Darganfod (40 credyd)

  • ART7771 Cyd-destun a Methodolegau Rhan 1 (20 credyd)


Semester 2

Yn Semester 2 byddwch yn cyflawni dau fodiwl cyffredin cyfochrog integredig: Syniad a Chyd-destunau.

Nod y modiwlau hyn yw cefnogi ysgolheictod uwch parhaus i roi cyd-destun a gweithredu'r cynnig ymchwil a ddatblygwyd gennych yn Semester 1 yn ymwneud â phryderon byd-eang, moesegol, cymdeithasol a gwleidyddol.

  • ART7773 Syniad (40 credyd)

  • ART7772 Cyd-destun a Methodolegau Rhan 2 (20 credyd)


Semester 3

Yn Semester 3 byddwch yn cyflawni un modiwl: Allbwn. Mae'r modiwl yn cynnwys dau weithgaredd integredig sy'n cyfateb i 60 credyd.

Mae'r modiwl Allbwn yn cydgrynhoi canfyddiadau'r ymchwil drwy arddangosfa gyhoeddus, digwyddiad/cyflwyniad lansio menter, neu brosiect curadurol cyfatebol (Mehefin/Gorffennaf), a phapur neu erthygl ysgrifenedig. (Mis Medi).

  • ART7774 Allbwn (60 credyd)


Pwyntiau gadael/Dyfarniadau

  • Ar ôl cwblhau cyfanswm o 60 credyd, gellir dyfarnu Tystysgrif Ôl-raddedig i fyfyrwyr.
  • Ar ôl cwblhau cyfanswm o 120 credyd, gellir dyfarnu Diploma Ôl-raddedig i fyfyrwyr.
  • Ar ôl cwblhau cyfanswm o 180 credyd, dyfernir Gradd Meistr (Meistr mewn Celfyddyd Gain) i fyfyrwyr.

Dysgu ac Addysgu

Bydd y dulliau cyflwyno yn cynnwys aseiniadau stiwdio, darlithoedd, tiwtorialau, seminarau, gweithdai, cyflwyniadau a thrafodaeth dan arweiniad myfyrwyr, briffiau arbrofol a byw, teithiau astudio, a dadansoddiad myfyriol.

Mae pob prosiect yn dechrau gyda sesiwn friffio fyw, a dogfen friffio sydd ar gael drwy ein hamgylchedd dysgu rhithwir (VLE), Moodle.

CDP (Cynllun Datblygu Personol): Byddwch yn cadw dyddiaduron myfyriol a fydd yn cael eu cyflwyno fel rhan o gyrff gwaith asesedig; bydd tiwtorialau academaidd a'r tiwtorialau bugeiliol bob tymor yn monitro ac yn ymateb i bryderon sy'n codi ar draws eich profiad dysgu a byddant yn canolbwyntio ar eich helpu i fireinio eich amcanion datblygiad personol cyffredinol a'ch arddull ddysgu.

Darlithoedd: Mae darlithoedd yn cyflwyno rhaglen astudio gydlynol ac ysbrydoliaeth gyffredinol. Cânt eu cefnogi gan ddeunydd gweledol a/neu destunau. Gall y cynnwys fod yn hanesyddol, yn ddamcaniaethol, yn gyd-destunol neu'n ymarferol. Lle bo'n briodol, caiff darlithoedd eu strwythuro i'ch cynnwys mewn trafodaeth.

Tiwtorialau: Cyfarfodydd myfyrwyr neu grwpiau o fyfyrwyr gyda darlithydd neu ddarlithwyr yw tiwtorialau ac fe'u defnyddir mewn dwy ffordd yn y rhaglen:

  • Ehangu ar ddeunydd a drafodir mewn darlithoedd drwy ddull datrys problemau a gaiff ei lywio gan ymholi
  • Gwaith adfer i oresgyn unrhyw ddiffygion mewn gwybodaeth gefndir.

Seminarau: Amcan seminarau yw annog cyflwyno eglur a dadansoddol a, thrwy drafodaethau grŵp, datblygu dealltwriaeth o'r pwnc a'i gyd-destun. Mae hwn yn ddull addysgu a dysgu canolog, yn enwedig wrth gysylltu'r hyn a ddysgir â'ch ymchwil bersonol ac yn ôl i bwnc Menter ac Arloesedd mewn Celf a Dylunio.

Gall seminarau fod ar dair ffurf:

  • Rhai sy'n cael eu harwain gan staff lle darperir testunau neu arteffactau i chi gyflwyno dadansoddiad i'ch grŵp.
  • Rhai lle byddwch chi'n dewis testunau neu arteffactau i'w trafod yn eich grŵp.
  • Rhai lle byddwch chi'n cyflwyno eich gwaith neu'ch canfyddiadau ymchwil eich hun.

Defnyddir y strategaeth hon i ymestyn cysyniadau damcaniaethol neu ymarferol penodol yn ogystal â chyflwyno ymarferion datrys problemau. Mae seminarau'n cynnig profiad gwerthfawr i chi mewn sgiliau cyflwyno, blogiau, wicis neu bodlediadau yn ogystal â rhoi dull i staff asesu dysgu sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr.

Gweithdai ymarferol: Mae gweithdai ymarferol yn eich galluogi i ymarfer a mireinio eich sgiliau mewn amgylchedd cefnogol lle cewch adborth gan aelodau staff. Mae gweithdai ymarferol yn ddull gwerthfawr o bontio rhwng theori ac ymarfer.

Sesiynau stiwdio ymarferol: Mae sesiynau stiwdio ymarferol, sy'n pwysleisio cymhwyso egwyddorion sylfaenol Menter ac Arloesedd, yn canolbwyntio ar ddatrys problemau a datblygu atebion creadigol a thechnegol i broblemau dylunio. Mae ymarferion efelychu a phrosiectau byw yn cynnig her ysgogol i chi weithio yn annibynnol ac mewn grwpiau i brofi heriau busnes go iawn.

Fe'ch anogir i fynegi eich cynigion mewn modd gwrthrychol a beirniadol ac i ddatblygu sgiliau cyfathrebu rhyngbersonol sy'n hanfodol i entrepreneur neu arloeswr.

E-ddysgu: Defnyddir yr amgylchedd dysgu rhithwir (VLE) yn helaeth ar y rhaglen i wella profiad dysgu'r myfyrwyr. Ar wahân i'w ddefnydd eang fel ystorfa ar gyfer deunydd dysgu ac adnoddau, fe'i defnyddir i'ch cynnwys yn eich dysgu eich hun. Mae'n werthfawr hefyd fel ffordd o gyfathrebu, cynnig adborth a deunyddiau dysgu ychwanegol. Rhoddir adborth electronig drwy'r amgylchedd dysgu rhithwir.

Trafodaethau Beirniadol: Mae trafodaethau sy'n cynnwys staff a myfyrwyr yn nodwedd ganolog o'r trafodaethau beirniadol mewn aseiniadau a gwaith prosiect a drefnir fel rhan o raglen y stiwdio. Cynhelir trafodaethau beirniadol ym mhob cam asesu (interim neu derfynol) aseiniad neu brosiect yn y modiwlau stiwdio lle byddwch yn cyflwyno eich gwaith i'ch grŵp blwyddyn a'ch tiwtor i gael adborth a thrafodaeth. Mae'r digwyddiad hwn yn gonglfaen yn y broses ddysgu. Caiff aseiniadau eu cynllunio i sicrhau eich bod yn mynd i'r afael ag amrywiaeth eang o astudiaethau achos neu gynsail sy'n dangos amrywiaeth o sefyllfaoedd neu atebion. Mae'r broses o drafodaeth feirniadol yn sicrhau eich bod yn dysgu o waith sy'n cael ei wneud gan eraill yn ogystal â thrwy eich ymdrechion eich hun.

Asesu

Asesir y deilliannau dysgu yn y modiwlau drwy ddulliau amrywiol gan gynnwys traethodau, cyflwyniadau a gwaith prosiect ac ati, fel y gwelir yn nisgrifiadau modiwlau unigol.

Mae asesu'n digwydd ar adegau strategol yn y flwyddyn academaidd i alluogi a chefnogi eich datblygiad parhaus. Mae trafodaeth feirniadol a thiwtorialau grŵp yn cynnig cyfleoedd adborth parhaus. Defnyddir asesu gan gyfoedion a hunanasesu'n helaeth.

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Mae'r rhaglen yn darparu llwybr academaidd lle gall myfyrwyr ddatblygu eu syniad menter a datblygu eu cynnig busnes yn barod ar gyfer lansio neu ddatblygiad masnachol. Ei nod yw datblygu dulliau entrepreneuraidd myfyrwyr o ymdrin â'u hymarfer, gan roi'r sgiliau ymchwil a busnes iddynt sydd eu hangen i ddechrau a chynnal busnes.

Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais

Fel arfer, byddwch wedi ennill gradd gyntaf adran dosbarth cyntaf neu adran uwch ail ddosbarth (dosbarthiad gradd 1af neu 2.1) mewn pwnc priodol, a/neu bydd gennych brofiad neu statws proffesiynol cyfatebol mewn disgyblaeth dylunio, crefftau dylunio, neu ddiwydiannau creadigol (yn seiliedig ar Ddysgu Blaenorol Achrededig a asesir neu Ddysgu drwy Brofiad Blaenorol Achrededig a asesir), neu ddisgyblaeth sy'n gysylltiedig â'u rhaglen astudio. 


Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o ruglder i safon IELTS 6.0 neu gyfwerth o leiaf. I gael manylion llawn am sut i wneud cais a chymwysterau Saesneg Iaith ewch i'r tudalennau Rhyngwladol ar y wefan.

Cyn gwneud cais, gofynnir i fyfyrwyr yr UE/Rhyngwladol gysylltu â Dr Fiaz Hussain fhussain@cardiffmet.ac.uk fhussain@cardiffmet.ac.uk i drafod y gweithdrefnau angenrheidiol sy'n ymwneud ag astudio gyda ni.


Sut i wneud cais
Dylid gwneud ceisiadau ar gyfer y cwrs hwn i'r brifysgol yn uniongyrchol drwy ein cyfleuster hunanwasanaeth. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalennau Sut i Wneud Cais yma: 

Llenwch y ffurflen Datganiad Personol orfodol hefyd a'i hatodi i'ch cais. Gellir ei lawrlwytho yma.

Caiff pob myfyriwr ei gyfweld ar gyfer y cwrs hwn. Os nad yw cyfweliad wyneb yn wyneb yn bosibl, defnyddir Microsoft Teams i'w gynnal.

Gwybodaeth Ychwanegol

Ffioedd Dysgu a Chymorth Ariannol
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd dysgu a'r cymorth ariannol a allai fod ar gael. Cyfeiriwch at www.metcaerdydd.ac.uk/study/finance/Pages/default.aspx.


Ffioedd rhan-amser
Codir ffioedd fesul modiwl unigol oni nodir yn benodol: Israddedig = 10 credyd; Ôl-raddedig = 20 Credyd Cysylltwch ag arweinydd y rhaglen i gael rhagor o wybodaeth am fodiwlau i'w hastudio'n rhan-amser a sut y bydd hyn yn effeithio ar ffioedd.


Costau astudio ôl-raddedig yn Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd:

Deunyddiau

Byddwch yn derbyn mynediad at ddeunyddiau a ddefnyddir fel rhan o sesiynau cynefino gweithdai sydd ar yr amserlen. Cewch fynediad at ddeunyddiau wedi'u hailgylchu hefyd a chewch eu defnyddio mewn ardaloedd gweithdy lle maent ar gael. Yn gyffredinol, bydd angen i chi brynu deunyddiau ar gyfer prosiectau unigol a ddefnyddir yn y stiwdio a'r gweithdai fel y bo'n briodol. Sylwch y bydd y costau'n amrywio yn dibynnu ar raddfa a gofynion unigol eich gwaith. Yn ogystal, bydd angen cyllidebu ar gyfer prynu offer a chyfarpar personol untro. Bydd angen i chi hefyd roi cyfrif am gostau eraill fel argraffu, prynu gwerslyfrau a chost lleoliadau dewisol.

Ar y cyfan, ni chodir ta am ddefnyddio offer, ac eithrio peth offer drud arbenigol fel yr argraffyddion Mimaki a 3D. Mae mynediad i FabLab Caerdydd yn destun trafodaeth; mae'n cynnig ffioedd i fyfyrwyr ei ddefnyddio.

Cysylltu â Ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol ffoniwch y Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch directapplications@cardiffmet.ac.uk

Ar gyfer gwybodaeth gyffredinol am gyrsiau Ôl-raddedig CSAD, cysylltwch â'r Tiwtor Derbyniaday, Amelia Huw-Morgan ar ahuwmorgan@cardiffmet.ac.uk  

Ar gyfer ymholiadau sy'n benodol i'r cwrs, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen, Richard Morris, am RMorris@cardiffmet.ac.uk



Gwybodaeth Allweddol Am Y Cwrs

Lleoliad Astudio:
Campws Llandaf

Ysgol:
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd

Hyd y Cwrs:
Blwyddyn yn llawn amser neu ddwy flynedd yn rhan-amser.