Cymdeithasau

​​​Mae gennym ystod amrywiol o gymdeithasau ym Met Caerdydd, ac yma yn yr Ysgol Dechnolegau rydym yn falch o'r cymdeithasau y maes ein myfyrwyr wedi’u dechrau- sydd ddim yn ymwneud â thechnoleg yn unig! O'n Swifties i'n Dringwyr a Robotiaid Ymladd, rdydyn ni’n siŵr y gallwch chi dod o hyd i rywbeth sydd o ddiddordeb i chi. Ac os na welwch unrhyw beth sy'n mynd â'ch sylw, gallwch ddechrau eich cymdeithas eich hun gyda chefnogaeth lawn gan ein tîm Undeb y Myfyrwyr. Mae cymdeithasau’n ffordd wych o gysylltu â phobl o’r un anian, cael mwy allan o’r brifysgol, darganfod diddordeb neu sgil newydd a mwynhau eich hun.



 
 

“Yn ystod fy mlwyddyn gyntaf yn y brifysgol, sylweddolais yn fuan fy mod i, fel llawer o rai eraill ar y cwrs Diogelwch Cyfrifiaduron, yn mwynhau’r arfer o hacio systemau cyfrifiadurol ac eisiau ei wneud yn amlach! O fewn y diwydiant seibr mae llawer o bobl yn ymarfer cystadlaethau Capture The Flag (CTF), lle rydych chi’n peryglu cyfrifiadur neu feddalwedd penodol yn gyfreithiol yn erbyn cystadleuwyr eraill. Felly, fe wnes i, ynghyd â dau arall, ffurfio cymdeithas CTF Met Caerdydd. Rydyn ni'n dysgu amryw o gysyniadau hacio i'n gilydd nid yn unig i wella a mireinio sgiliau hacio ymosodol, ond hefyd i'n galluogi ni i gystadlu ar lefel uchel mewn cystadlaethau. Rydym wedi mynychu dau ddigwyddiad CTF hyd yn hyn, un ohonynt ym Mhrifysgol De Cymru. Aethon ni â chwech o’n haelodau gyda ni a buom yn fuddugol!”

Jacob Owen Eva
BSc (Anrh) Diogelwch Cyfrifiadurol
Sylfaenydd cymdeithas CTF

 
 

“Dechreuais y gymdeithas dringo creigiau i geisio cael mwy o fyfyrwyr technoleg i ymgysylltu’n gorfforol gan ein bod fel arfer yn tueddu i dreulio llawer o amser yn eistedd o flaen cyfrifiadur! Mae’r gymdeithas wedi mynd o nerth i nerth, fe ddechreuom gyda dim ond 4 aelod i nawr lle mae gennym 78 o aelodau. Nid yw'r gymdeithas yn ymwneud â'r dringfeydd wythnosol am ddim yn unig, mae'n ymwneud â'r elfen gymdeithasol hefyd. Rydym yn cynnal digwyddiad cymdeithasol wythnosol ac yn trefnu gweithgareddau fel sglefrio iâ neu brydau allan. Mae’n ymwneud ag adeiladu’r ymdeimlad hwnnw o berthyn o fewn y gymuned ac mae dringo creigiau wedi gwneud hyn mor gryf, nid yn unig i’r gymdeithas, ond i’r Ysgol Dechnolegau hefyd.”

Bradley Bunce
BSc (Anrh) Cyfrifiadura gyda Dylunio Creadigol
Sylfaenydd cymdeithas dringo

 
 

“Fel cefnogwr brwd o Formula 1, mae ymuno â Formula Met wedi bod yn daith gyffrous. Mae dylunio ac adeiladu ceir rasio yn pontio’r bwlch rhwng peirianneg a gwaith tîm ac wedi fy ngalluogi i fod yn rhan o gymuned o unigolion o’r un anian. Mae’r gymdeithas yn cynnig cyfleoedd amrywiol lle rydym yn gweithio gyda’n gilydd i lwyddo mewn amryw o gystadlaethau tebyg i Formula 1, boed hynny’n gweithio ar adeiladu ceir, marchnata, neu gyllid tîm, mae cyfleoedd i bawb gyfrannu. Mae digwyddiadau fel rasys go-cart a gwylio F1 wedi helpu i adeiladu ein cymuned ac wedi cryfhau ein cysylltiadau. Mae bod yn rhan o gymdeithas Formula-Met nid yn unig wedi dyfnhau fy angerdd am Formula 1 ond hefyd wedi fy ngalluogi i ddatblygu fy sgiliau ac i lwyddo fel rhan o dîm.”​

Jessica Graves
BSc (Anrh) Diogelwch Cyfrifiadurol
Aelod o gymdeithas Formula Met


​​